Soniwch am eich sefydliad.
Lansiwyd Banc Datblygu Cymru fis Hydref 2017 i helpu busnesau Cymru i ddechrau, cryfhau a thyfu. Rydym yn cynnig cyllid o gyn lleied â £1,000 i £10 miliwn drwy fenthyciadau a buddsoddiad ecwiti. Rydym yn gweithio gyda busnesau micro i ganolig eu maint sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu’n barod i symud i Gymru.
Pam ydych chi’n cefnogi’r gwobrau?
Rydym yn credu mewn helpu i greu byd lle gall menywod gyflawni a ffynnu; lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi am bwy ydyn nhw a beth maen nhw’n ei wneud. Rydym am annog mwy o fenywod i ddechrau a thyfu eu busnesau eu hunain a gweld mwy o fenywod yn torri drwy’r nenfwd gwydr i ymgymryd â swyddi cyfarwyddwyr a rolau bwrdd, yn enwedig rolau arwain allweddol megis Prif Weithredwyr a Chadeiryddion. Dyna pam rydym am ddathlu effaith gadarnhaol menywod entrepreneuraidd yng Nghymru a chydnabod eu cyflawniadau.
Pam mae cydraddoldeb rhywedd yn bwysig i chi?
Mae datblygu ein harweinwyr ac ymgorffori cynhwysiant fel rhan o ddiwylliant yn y gweithle yn bwysig gan fod gweithlu gweithgar a chyfartal yn helpu i feithrin talent a defnyddio lleisiau a syniadau amrywiol i wneud busnesau’n wirioneddol arloesol. Gall ehangu cyfranogiad yn yr economi ddod â gwir fudd economaidd i Gymru. Po fwyaf y menywod mewn busnes, gorau oll i Gymru gyfan.
Pam ydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?
Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae mewn adeiladu sefydliadau lle mae pawb yn bwysig, a lle gall pob gweithiwr ymfalchïo mewn bod yn rhan o rywbeth mwy. Rydym yn cefnogi’r economi ac yn creu cyfleoedd i entrepreneuriaid o Gymru sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth a chynwysoldeb. Dyna sut y byddwn yn adeiladu gwell busnesau a busnesau mwy proffidiol lle mae menywod yn weladwy ac yn ddylanwadol ar draws pob sector o’r economi.