Soniwch ychydig am eich sefydliad.
Mae Opel Vauxhall Finance yn gwmni cyllid sy’n diwallu anghenion symudedd ein cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau ariannol i’r brand Vauxhall. Mae ein tîm yn parhau â’n taith lwyddiannus trwy ganolbwyntio ar ein prif werthoedd sef Canolbwyntio ar y Cwsmer, Hyblygrwydd, Cydweithio, Atebolrwydd a Didwylledd.
Pam ydych chi’n cefnogi’r gwobrau?
Rydym yn gyffrous i gefnogi llwyddiannau rhyfeddol menywod yng Nghymru am y bedwaredd flwyddyn yn olynol ac yn gyffrous i fod yn brif noddwr eleni. Rydym yn awyddus i hyrwyddo ein cwmni fel darpar gyflogwr, i fenywod uchelgeisiol yng Nghymru.
Mae gan Opel Vauxhall Finance rwydwaith mewnol i ysbrydoli menywod, y Women’s Inspirational Network. Mae’r rhwydwaith yn annog menywod i ffynnu mewn amgylchedd ble mae cyfran helaeth o’r gweithlu yn ddynion. Mae’r rhwydwaith yn cynorthwyo gyda’r gwaith o recriwtio, cadw a datblygu unigolion talentog ymhob rhan o’r cwmni. Mae wedi ymrwymo i ysbrydoli newidiadau cadarnhaol er mwyn annog twf ac angerdd at y busnes.
Pam mae cydraddoldeb rhywedd yn bwysig i chi?
Yn Opel Vauxhall Finance, rydyn ni’n credu bod cydraddoldeb yn fater o sicrhau fod pawb, waeth beth fo’u rhywedd, oedran, cefndir a chenedligrwydd, yn cael yr un cyfleoedd.
Mae’r diwydiant cyllid modurol yn faes sydd wedi’i gysylltu â dynion yn draddodiadol. Rydyn ni’n awyddus i annog mwy o fenywod i ymgeisio am swyddi gyda ni wrth i ni geisio datblygu gwell cydbwysedd rhwng y rhywiau o fewn y cwmni.
Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i ddod yn chwaraewr ymgysylltiol sy’n cael effaith gadarnhaol ar y byd a chyflawni ein nod o weithlu gwirioneddol gynhwysol.
Pam ydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?
Mae Chwarae Teg yn hyrwyddwr gwych dros gydraddoldeb rhywedd. Mae rhai o’n staff wedi manteisio ar y Rhaglenni. Mae’n elusen anhygoel yr ydym yn falch o gydweithio â hi.