Ymwybodol o ragfarn ddiarwybod

31st May 2019

Mae anghydraddoldeb rhywiol yn parhau i fod yn broblem ym Mhrydain a gweddill y byd.

Gallwn weld tystiolaeth ohono yn y bwlch cyflog parhaus rhwng y ddau ryw, y ffaith fod gwahanu galwedigaethol a stereoteipio ar sail rhyw yn dal i fodoli a’r canfyddiad mai eilbeth yw ennill cyflog i fenyw, mai cynhalwyr ydynt yn anad dim.

Gallaf sôn am lawer o bethau sy’n achosi’r anghydraddoldeb hwn ond rwyf am ganolbwyntio ar un ohonynt – rhagfarn ddiarwybod. Ystyrir bod hyn yn achosi anghydraddoldeb yn gyffredinol, nid anghydraddoldeb rhywiol yn unig.

Gellir diffinio rhagfarn ddiarwybod fel rhagfarnau agwedd sydd gennym tuag at ryw, oedran, hil ac ati nad ydym yn ymwybodol ohonynt ac nad ydym yn gwybod ein bod yn gweithredu ar eu sail (Naureen Young, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Amrywiaeth Awstralia). Cymdeithas, teulu a phrofiadau sy’n llywio’r rhagfarn hon ac mae’n adlewyrchu agweddau diwylliannol arferol.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae rhagfarn ddiarwybod wedi bod yn destun nifer o astudiaethau yn UDA. Mae’r astudiaethau wedi dangos bod pawb yn debygol o feddu ar y math hwn o ragfarn ond drwy nodi a herio’r rhagfarn hon gallwn dynnu’r masgiau a all ddeillio o’r rhagfarn.

O ran rhywedd, gall rhagfarn ddiarwybod amlygu’i hun mewn sawl ffordd. Gall effeithio ar bwy rydym yn debygol o’u recriwtio, gall lywio syniadau am bwy ddylai fod yn arweinydd a gwneud i fenywod deimlo bod yn rhaid iddynt “guro’r hogie” er mwyn llwyddo ar lefel uwch.

Mae’n bwysig cofio bod dynion a menywod yn gallu cael rhagfarn ddiarwybod.

Gall lywio syniadau am deulu a chyfrifoldebau gofalu hefyd sy’n parhau i fod yn ffactor sylweddol ym mhenderfyniadau a dewisiadau gyrfa menywod.

Felly sut mae mynd i’r afael â’r rhagfarn hon? Mae sawl dewis. Efallai mai dim ond annog pobl i wneud prawf ar-lein i nodi eu rhagfarn sydd angen.

Gall hyn fod yn arbennig o effeithiol i bobl sy’n gyfrifol am recriwtio. Mae hyfforddiant ymwybyddiaeth o rywedd yn ddull pwysig arall. Mae dysgu sut i edrych ar bethau drwy ddull sy’n ystyried y ddau ryw yn ein galluogi i weld yn glir sut mae rhywedd yn dylanwadu ar ein bywydau, gwaith, profiadau a dewisiadau fel dynion a menywod.

Mae’n bwysig cofio bod dynion a menywod yn gallu cael rhagfarn ddiarwybod. Er enghraifft, mae ymchwil wedi dangos bod menywod sy’n recriwtio yr un mor debygol o ddilyn stereoteipiau traddodiadol â dynion ac yn aml mae gan fenywod syniadau am ba swyddi sy’n addas i ddynion a merched.

Felly, mae’n bwysig bod pawb yn cael eu hannog i nodi a herio eu rhagfarn eu hunain. Bydd hyn yn ei dro yn herio agweddau diwylliannol arferol i gael gwared ar anghydraddoldeb rhywiol.

Beth am herio eich rhagfarn eich hun a sefyll y prawf? Efallai y cewch eich synnu

implicit.harvard.edu