Caiff Cenedl Hyblyg2 ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae Rhaglen Fusnes Cenedl Hyblyg2 yn cynnig cyngor, cefnogaeth ac offer arfer gorau er mwyn sicrhau nad yw menywod talentog yn cael eu heithrio o’ch proses recriwtio, nad ydyn nhw’n cael eu hanwybyddu ar gyfer dyrchafiad ac nad ydyn nhw’n gadael eich sefydliad. Felly rydym yn canolbwyntio ar recriwtio, cadw, dilyniant. Mae ein hethos ar y rhaglen fel a ganlyn: -
Pobl sy’n gwneud busnesau llwyddiannus - Mae sefydliad llwyddiannus yn sicrhau bod ganddo’r bobl iawn yn y rolau iawn. Gweithwyr sy’n hapus, yn frwdfrydig, yn cael eu gwerthfawrogi, yn fedrus iawn gyda dilyniant gyrfa clir ac i gyd yn tynnu i’r un cyfeiriad.
Gallwn anwybyddu’r dalent sydd gennym – Gall rhagfarn anymwybodol ddigwydd oherwydd polisïau, systemau a phrosesau sydd wedi dyddio nad ydynt yn adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas. Mae rhagdybiaeth pobl am ymrwymiad a’r awydd i weithio a datblygu’n aml yn seiliedig ar rywedd, oriau gwaith, neu ddewisiadau ffordd o fyw.
Mae menywod yng Nghymru yn profi’r rhwystrau i lwyddiant - Rydym yn chwarae rhan flaenllaw o ran darparu atebion er mwyn gwella’r system; gweithio gyda chyflogwyr sy’n gwerthfawrogi cynhwysiant ac amrywiaeth yn y gweithlu ac ar lefelau gwneud penderfyniadau.
Ariennir Rhaglen Fusnes Cenedl Hyblyg2 gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru fel y gallwch gael hyd at 42 awr o gymorth ymgynghori gwerth tua £4,200!
P’un ai eich bod yn berchennog y busnes, yn arweinydd AD yn y sefydliad neu ran o’r tîm rheoli rydym yn siŵr eich bod yn gwybod pwysigrwydd amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb rhywedd yn eich busnes ac yn y gymdeithas ehangach. Cysylltwch heddiw a chyda’n gilydd gallwn wneud Cymru yn lle tecach i fyw a gweithio.
Pan fyddwch yn gweithio â ni ar y rhaglen fusnes byddwn yn canolbwyntio ar dri maes allweddol o’ch busnes: Recriwtio, cadw a dilyniant.
Mae’r Rhaglen Fusnes yn darparu ystod o ymgynghoriaeth, gweminarau a gweithdai yn seiliedig ar y meysydd busnes hyn. Mae ein holl gefnogaeth wedi’i chynllunio i helpu timau arweinyddiaeth wneud penderfyniadau gwybodus am eich polisïau a’ch arferion gwaith i gefnogi menywod, a phawb, yn y gweithle. Mae pob un o’n sesiynau yn hyrwyddo cyfle cyfartal a chynhwysiant.