Caiff Cenedl Hyblyg2 ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Wedi’i gyflenwi gan Chwarae Teg, mae’r prosiect wedi’i ddatblygu er mwyn gwella sefyllfa menywod sy’n gweithio yn y sector preifat neu’r trydydd sector/sector gwirfoddol.

Sefydlwyd y prosiect Cenedl Hyblyg2 gan fod menywod yn dal i gael eu tangynrychioli ar lefel reoli ledled Cymru. Ei nod yw gwella’r sefyllfa hon drwy:
  • Weithio gyda menywod cyflogedig sy’n gweithio neu’n byw yng Nghymru i ddatblygu sgiliau, a hyder i symud ymlaen yn y gweithle.
  • Gweithio gyda busnesau bach a chanolig i ddatblygu recriwtio effeithiol, arferion gwaith ar gyfer cadw staff yn well a datblygu gweithlu amrywiol.
Datblygwyd y rhaglen fel ymateb uniongyrchol i gorff o dystiolaeth sy’n dangos bod angen amlwg am gymryd camau cadarnhaol er mwyn cefnogi datblygiad menywod yng Nghymru.

Mae’r dystiolaeth hon yn cynnwys:

  1. Mae ffigurau cenedlaethol yn dangos bod 8% o fenywod yn cael eu cyflogi fel rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion o’i gymharu â 11.4% o ddynion
  2. Mae menywod yn cael eu tangynrychioli mewn diwydiannau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) allweddol, yn enwedig mewn prentisiaethau a swyddi rheoli
  3. Mae ymchwil yn dangos y gallai cydraddoldeb rhywiol llawn ychwanegu £13.6 biliwn at economi Cymru erbyn 2028.

2nd Apr 2021
AN2 Business Programme
Project

Ymunwch â’r miloedd o fenywod ledled Cymru sydd wedi cael dyrchafiad, codiadau cyflog a’r hyder i lwyddo.

Yn ddelfrydol ar gyfer menywod sydd am gymryd y cam nesaf tuag at rolau arwain tîm, goruchwylio neu reoli. Ariennir y rhaglen yn llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac mae ar gael i fenywod sydd:

  • Yn gyflogedig ac yn gweithio neu’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd
  • Yn gweithio yn y sector preifat neu’r trydydd sector/sector gwirfoddol (nid yw gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn gymwys)
  • Nad yw eu rôl bresennol yn cael ei hariannu gan unrhyw raglen Ewropeaidd arall

Gwyliwch ein fideo hyrwyddol am ysbrydoliaeth.

Karen Neill
Partner Datblygu Dysgu

Karen Neill

Partner Datblygu Dysgu

Symudais i’r trydydd sector dros ddeng mlynedd yn ôl, ar ôl gwneud sawl rôl Rheolwr Adnoddau Dynol. Cefais flas a bodlonrwydd mawr yn darparu mynediad i hyfforddiant proffesiynol i bobl heb brofiad o hynny.

Mae’n fraint gweithio gyda chymaint o fenywod – pob un o gefndiroedd amrywiol ond sy’n gobeithio datblygu’n bersonol, boed o ran sgiliau neu fagu hyder. Rwy’n gwybod pa mor lwcus ydw i, i gael teithio gyda’r menywod hyn, beth bynnag fo’u taith, a’u gweld yn ffynnu mewn hyder a sgiliau, defnyddio’r doniau nad oeddent yn sylweddoli oedd ganddynt a gwneud eu gorau glas – mae’n ddiguro!

Rhian Walstow
Partner Datblygu Dysgu

Rhian Walstow

Partner Datblygu Dysgu

Gyda thros 25 mlynedd o brofiad mewn addysg, rwy’n credu’n gryf yn y syniad o ddysgu gydol oes. Boed yn gymwysterau ffurfiol neu’n dysgu i fagu hyder a hunanymwybyddiaeth, mae’n rhywbeth rwy’n mwynhau ei rannu er mwyn helpu pobl i deimlo’n fwy grymus.

Arweinyddiaeth, gwaith tîm a seicoleg - dyna’r prif feysydd o ddiddordeb i mi. Gydag arbenigedd mewn ffitrwydd a gweithgareddau awyr agored hefyd, credaf fod iechyd a llesiant yn rhan o ddod yn fwy hunanymwybodol, ac yn gallu helpu i fagu hyder mewn sawl ffordd.

Rwy’n mwynhau cyflwyno ein modiwlau dysgu ac mae’n wych cwrdd â’r holl gyfranwyr a dysgu am eu gwaith a’u profiadau; yn enwedig eu helpu i wireddu eu potensial.

Andrea Garrett
Partner Datblygu Dysgu

Andrea Garrett

Partner Datblygu Dysgu

Bues i’n gweithio am 25 mlynedd i’r diwydiant bancio a chyllid, gan gamu ymlaen i fod yn Arweinydd Tîm, Rheolwr Rheng Flaen, Pennaeth Adran a Rheolwr Prosiect. Cefais radd ôl-raddedig mewn Busnes wrth weithio yn y diwydiant.

Bues i’n gweithio i Chwarae Teg ar brosiect Cenedl Hyblyg tan 2014, a dychwelais i weithio i’r tîm ILM ar gyfer Cenedl Hyblyg2 yn 2017. Dechreuais ar rôl Partner Datblygu Dysgu yn ddiweddar, yn cyflwyno ein modiwlau dysgu ILM achrededig ac anachrededig.

Kath Foot
Partner Datblygu Dysgu

Kath Foot

Partner Datblygu Dysgu

Rydw i wedi bod yn addysgwr-gyrfaoedd, yn hyfforddwr ac yn gymhellwr ers bron i 20 mlynedd. Mae gweithio ym meysydd addysg uwch, busnesau bach a’r trydydd sector yn golygu fy mod i’n gallu cyflwyno fy mhrofiadau bywyd a gwaith i Chwarae Teg.

Yn enwog am fy natur siriol, a’r gallu i ddod â hyfforddiant yn fyw (mae sawl un wedi dweud wrthyf bod gen i’r potensial i droi pynciau diflas yn hwyliog a diddorol), rwy’n cyflwyno hyfforddiant ILM achrededig, yn asesu adolygiadau myfyriol ac yn cyflwyno ein modiwlau dysgu anachrededig. Hefyd, rwy’n treulio amser yn llunio cynnwys diddorol a chyfoes, gan sicrhau bod ein dysgwyr yn cael y profiad dysgu gorau posib. Rwyf wrth fy modd yn gweld effaith gadarnhaol ein hyfforddiant ar y menywod sy’n cael cymorth gennym.

Beth Baldwin
Partner Datblygu Dysgu

Beth Baldwin

Partner Datblygu Dysgu

Rwyf wrth fy modd wrth weithio gyda menywod a'u grymuso i gymryd perchenogaeth o'u gyrfaoedd. Ers dros 20 mlynedd, rwyf wedi gweithio ar draws pob sector mewn swyddi gwerthiannau a hyfforddiant, ac rwyf wedi hyfforddi a mentora cannoedd o fenywod. Rwy'n angerddol dros degwch ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Fy nghenhadaeth erioed yw cefnogi menywod i ddod o hyd i'w pwrpas a theimlo'n fodlon gyda'r penderfyniadau a wnânt. Dywedir wrthyf fy mod yn hyfforddwr cynhwysol a dylanwadol sy'n un dda am ddysgu a herio ffyrdd o feddwl a phersbectifau. Mae gennyf wobr Pride of Britain am godi arian i elusennau ac am ymroi i wneud fy mywyd yn un gwerthfawr gan annog ein cyfranogwyr i wneud yr un peth.

Julia Matthews
Partner Datblygu Dysgu

Julia Matthews

Partner Datblygu Dysgu

Mae fy nghefndir a’m profiad wedi bod yn y sector addysg yn bennaf, ar ôl gweithio fel rheolwr cwricwlwm a darlithydd mewn coleg addysg bellach lle bues yn rheoli a darparu ystod o gyrsiau amrywiol ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion.

Fel Partner Datblygu Dysgu, rwy’n cyflwyno’r rhaglen ILM achrededig a modiwlau dysgu ychwanegol ar hyd a lled y Gogledd.

Cara Lloyd
Partner Datblygu Gyrfa

Cara Lloyd

Partner Datblygu Gyrfa

Cwblheais y Rhaglen Cenedl Hyblyg tua 9 mlynedd yn ôl a gwnaeth proffesiynoldeb ac angerdd y sefydliad dros degwch a chydraddoldeb greu argraff arnaf. Mae gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd Chwarae Teg yn cyd-fynd yn berffaith â’m rhai i.

Rwy'n Rheolwr profiadol gydag 19 mlynedd o brofiad mewn Datblygu Gyrfa a Rheoli Prosiectau. Partner Datblygu Gyrfa yw fy rôl i yma yn Chwarae Teg o fewn Tîm y Menywod. Rwy'n meddu ar gymwysterau proffesiynol mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Rheoli Prosiectau a Newid a Chyngor ac Arweiniad.

Rwy'n teimlo'n hynod o freintiedig ac yn ffodus o allu cyflawni'r rôl hon, gan gwrdd â chymaint o fenywod cadarn ac angerddol tu hwnt sy'n fy ysbrydoli i gyflawni i’r eithaf bob dydd. Rwy’n cael fy ngwobrwyo drwy gefnogi menywod i feithrin y sgiliau a’r hyder i gyrraedd eu potensial ac i ddod yn Arweinwyr Cadarn yn y gweithle.

Mair Rowlands
Cydlynydd Prosiect - Menywod

Mair Rowlands

Cydlynydd Prosiect - Menywod

Ymunais â Chwarae Teg gyda chefndir eang ym myd cyllid a gweinyddiaeth, ar ôl gweithio ym myd masnach ac ar gyfer cwmni cyflenwi lleol. Fel cydlynydd prosiect, rwy’n helpu i ddarparu’r Rhaglen Menywod yn llwyddiannus, yn ogystal â chyflwyno adroddiadau, monitro’r rhaglen a’i gwella’n barhaus. Rwy’n falch o helpu i gyflwyno’r rhaglen trwy weinyddu a chydlynu gweithgareddau’n effeithiol ledled tîm y rhaglen menywod.

Cheryl Royall
Partner Datblygu Gyrfa

Cheryl Royall

Partner Datblygu Gyrfa

Fel Partner Datblygu Gyrfa ar Raglen Cenedl Hyblyg 2, mae'n bleser gen i gwrdd â nifer o fenywod rhyfeddol yng Nghymru ar gyfer eu cyfarfod cychwynnol. Rwy'n darparu hyfforddiant a chefnogaeth trwy gydol eu hamser gyda ni tra'u bod yn cwblhau'r rhaglen, ac rwy'n helpu i ddathlu eu llwyddiannau a gweld y newidiadau anhygoel y maen nhw'n eu cyflawni drostynt eu hunain.

Rwy’n gweld, drosof fy hun, sut mae’r rhaglen yn helpu menywod i wella eu sgiliau a’u hyder, sy’n eu galluogi i ddatblygu eu gyrfaoedd. Dyma’r swydd fwyaf gwerth chweil i mi ei chyflawni erioed, gan fy mod yn gwybod bod yr hyn rwy'n ei wneud yn cyfrannu rywfaint at wneud gwahaniaeth i'n cyfranogwyr.

Sian Davies
Partner Datblygu Gyrfa

Sian Davies

Partner Datblygu Gyrfa

Ymunais â Chwarae Teg yn 2017 gyda phrofiad helaeth mewn rheoli, addysg a chyngor ac arweiniad. Mae fy rôl fel Partner Datblygu Gyrfa o fewn rhaglen y menywod wedi fy ngalluogi i ddefnyddio fy mhrofiad, sgiliau a gwybodaeth i gynorthwyo menywod gyda'u dysgu ac ar eu taith gyrfa. Rwy’n angerddol am fy rôl ac rwy'n cael boddhad mawr o fod yn rhan o’r rhaglen datblygu gyrfa, gan weld drosof fy hun yr effaith bositif y mae’r rhaglen yn ei chael ar fenywod. O'r cyfarfod Dod i'ch Adnabod cychwynnol i'r adolygiad ar ôl cwblhau'r rhaglen, fy rôl i yw cefnogi menywod i weld beth yw eu sgiliau a'u cryfderau, i ddatblygu eu hyder a'u hannog i ddiffinio a chynllunio eu nodau gyrfa.

Fel mam brysur i ddau o blant, rwy'n gwerthfawrogi ei bod hi weithiau'n anodd i fenywod gael cyfle i ystyried eu taith gyrfa a chanolbwyntio ar ddatblygu eu gyrfa ac rwy'n falch o fod yn rhan o raglen sy'n hyrwyddo hyn yn weithredol ac sydd yn cael cymaint o effaith bositif ar fywydau menywod.

Janet Halliwell
Partner Datblygu Gyrfa

Janet Halliwell

Partner Datblygu Gyrfa

Mae gennyf dros 20 mlynedd o brofiad mewn hyfforddi a rheoli pobl, gyda chymwysterau mewn hyfforddi, arfer rhaglennu niwroieithyddol, rheoli newid, ymwybyddiaeth ofalgar a nifer o bynciau eraill sy'n gysylltiedig â datblygiad personol a llesiant. Rwyf hefyd yn swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl cymwysedig i oedolion. Cyn Chwarae Teg, bûm yn uwch-arweinydd am 17 mlynedd ar gyfer ‘pobl a dysgu’ ledled Cymru i elusen genedlaethol fawr. Yn y cyfnod rhwng y swydd honno a gweithio i Chwarae Teg, dechreuais nifer o fusnesau bach a'u rhedeg, sydd wedi rhoi gwybodaeth a phrofiad defnyddiol imi eu defnyddio.

Mae fy rôl fel Partner Datblygu Gyrfa yn cynnwys cynnal cyfarfod 'Dod i'ch Adnabod' dros ddwy awr gyda chyfranogwyr newydd, yn casglu gwybodaeth ganddynt a darparu gwybodaeth a chymorth datblygu gyrfa cyn dechrau ar eu cwrs Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM). Rwy'n cyflwyno rhan o Ddiwrnod 1 y rhaglen chwe sesiwn a Diwrnod 6 i gyd, lle rydym yn canolbwyntio ar gynllunio gyrfa pellach, cyflogadwyedd a magu hyder er mwyn cyflawni eu nodau. Yn olaf, rwy'n cwblhau cyfarfod adolygu ar ôl cwblhau'r cwrs, yn trafod canlyniadau a helpu i gynllunio'r camau nesaf yn nhaith yrfaol y cyfranogwr ynghyd â darparu cymorth ad hoc gyda cheisiadau am swyddi, paratoi am gyfweliad ac ati yn ôl yr angen.

Helena Cannon
Partner Datblygu Gyrfa

Helena Cannon

Partner Datblygu Gyrfa

Rwy'n Hyfforddwr Gyrfa cymwys gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn cefnogi unigolion i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gyrfaoedd a'u helpu i wneud newidiadau cadarnhaol ar gyfer y dyfodol. Ymunais â Chwarae Teg yn 2018, ar ôl treulio 15 mlynedd fel Ymgynghorydd Gyrfaoedd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Yn fy rôl fel Partner Datblygu Gyrfa, rwy'n cydweithio â chydweithwyr ar draws Chwarae Teg i ddarparu a chefnogi menywod yn effeithiol o fewn ein rhaglenni a ariennir a'n rhaglenni masnachol. Rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â helpu menywod i ffynnu yn eu gyrfaoedd, i ddatblygu eu hyder a'u hunanymwybyddiaeth a chyflawni’r cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith y maent yn ei haeddu.

Cara Lloyd, Partner Datblygu Gyrfa

Rhian, Partner Ymgysylltu

Mae’n werth gwneud y rhaglen. Byddwch yn dysgu sgiliau newydd a ffyrdd newydd o feddwl, ac yn ennill cymhwyster cydnabyddedig ar y diwedd. Byddwch hefyd yn dysgu llawer amdanoch chi’ch hun, eich cryfderau a’r sgiliau sydd gennych eisoes, nad ydych wedi sylwi arno o bosib o’r blaen.

Vilash Sanghera
Senior Systems Engineer at General Dynamics UK Limited

Mae wedi fy nysgu i fynd amdani mewn bywyd, i beidio â phoeni am yr hyn y mae pobl eraill yn ei feddwl, ac nad oes gennych unrhyw beth i’w golli. Rwyf wedi magu cymaint mwy o hyder ym mhob agwedd o’m bywyd.

Anna-Jayne Davies
Rheolwr yr Adran. Leekes

Feddyliais i erioed y byddai gen i’r hyder a’r cymhelliant i newid gyrfa a datblgu cymaint a minnau’n 51 mlwydd oed

Susan Lee Clements
Cymorth Prosiectau