Cyflogwr Chwarae Teg
Mae geiriau fel amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb rhywiol yn aml yn cael eu defnyddio, ond er mwyn gwneud newidiadau diwylliannol gwirioneddol o fewn eich sefydliad, bydd angen i chi fod yn ymwybodo’ o’r syniad diweddaraf a chymorth arbenigol. Mae tîm Cyflogwr Chwarae Teg yn gwybod sut i ddatgloi talent pob unigolyn yn eich busnes er mwyn creu gweithleoedd gwell a mwy proffidiol. Wedi’r cyfan, rydym yn rhan o brif elusen cydraddoldeb rhywiol Cymru, felly rydym yn gwybod beth sy’n gweithio.
Ein gweledigaeth: sefydlu diwylliant cynhwysol sy’n cael ei yrru gan gydraddoldeb o fewn sefydliadau o bob maint a sector. Galluogi twf busnes a chynaliadwyedd drwy rymuso timau i gyrraedd eu potensial waeth beth fo’u cefndir, eu statws cymdeithasol neu eu lleoliad daearyddol.
Sut ydyn ni’n gwneud hyn? Drwy roi cydraddoldeb, amrywiaeth ac arferion gwaith cynhwysol wrth wraidd y gwasanaethau ymgynghori a hyfforddi a gynigir gennym. Nid yw’n rhywbeth ychwanegol, nac agored i drafodaeth, dyna ffocws bopeth a wneir gennym. O wella pobl, prosesau a newid ffyrdd o feddwl, rydym wedi ymrwymo i adeiladu sefydliadau lle mae pawb yn bwysig, man lle mae pob un o’ch gweithwyr yn teimlo’n falch o berthyn iddo.
Mae tri phrif faes cymorth:
Datrysiadau Cyflogwr Chwarae Teg
Gwasanaethau ymgynghori pwrpasol sy’n grymuso sefydliadau ag arfer gorau ar gyfer twf a datblygiad cynhwysol ac yn cefnogi cydraddoldeb rhywiol yn eich busnes, gan roi manteision gweithlu gwirioneddol gynhwysol i chi.
Gwobr Cyflogwr Chwarae Teg
Rhaglen arloesol i gefnogi, cysylltu a chydnabod sefydliadau sy’n arwain o ran twf cynhwysol. Meincnodi eich sefydliad yn erbyn eraill yn eich diwydiant a’ch rhanbarth. Canfod meysydd allweddol eich llwyddiant a’r rhai y mae angen eu datblygu a dechrau ar daith o gymorth a gwelliant dan arweiniad.
Arweinyddiaeth Cyflogwr Chwarae Teg
Mae ein cyrsiau Arweinyddiaeth yn ysbrydoli ac yn grymuso eich arweinwyr presennol ac arweinwyr y dyfodol gyda chyfleoedd datblygu unigryw, gan roi’r sgiliau a’r hyder iddynt i’w gwneud yn arweinwyr sy’n cael eu gyrru gan gydraddoldeb a fydd yn helpu i yrru eich sefydliad yn ei flaen.
Gweithiwch gyda ni i helpu creu byd lle gall menywod gyflawni a ffynnu; lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi am bwy ydyn nhw a’r hyn y maen nhw’n ei wneud.