A ydych chi’n fenyw yng Nghymru sydd wedi colli ei swydd yn sgil COVID-19? Am ddychwelyd i gyflogaeth? Os felly, rydym yn gallu eich helpu!
Gall colli eich swydd gael effaith fawr ar eich hyder, yn enwedig yn ystod cyfnod lle mae cymaint o newid yn ein bywydau. Rydym am ichi leihau faint o amser yr ydych yn ddi-waith a rhoi’r offer ichi fynd yn ôl i gyflogaeth yn gyflym ac yn llawn hyder.
Amlinellir y sesiynau am ddim yr ydym yn eu cynnal isod. Ond maent wedi cael eu cynllunio ac yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n teimlo mewn parchedig ofn ac wedi’u llethu gan y holl bethau sydd ynghlwm wrth y broses recriwtio a dod o hyd i swydd. Mae pob gweithdy yn lle diogel i ddatgelu a datblygu technegau meithrin hyder go iawn a fydd yn eich galluogi i fynd ati wrth ymgeisio am swyddi a chyfweliadau posib gydag egni o’r newydd. .
Gallwch gadw lle mewn unrhyw un o’r sesiynau neu mewn pob un o’r pedwar.
Newidiwch eich ffordd o feddwl, cewch ganlyniadau (gweithdy dwy awr ar-lein)
Yn y gweithdy hwn, byddwn yn edrych ar pam y mae angen inni newid ein ffordd o feddwl er mwyn ein helpu i adael ein mannau cyfforddus a chael y canlyniadau yr ydym eu heisiau wrth ennill gwaith newydd. Byddwn yn archwilio’r hyn sydd yn ein hatal, a gweithio trwy sut y bydd gosod nodau penodol yn eich helpu i ganolbwyntio ac aros yn llawn cymhelliant, gan roi strwythur a chyfeiriad newydd wrth ichi chwilio am swydd.
Creu CV llwyddiannus (gweminar awr ar-lein)
Er mwyn gwella’ch cyfleoedd am ddiogelu’r swydd yr ydych wir ei heisiau, mae angen CV llwyddiannus arnoch. Bydd CV cryf yn tynnu sylw cyflogwyr atoch a bydd yn eich rhoi yn y sefyllfa orau posibl i sefyll uwchben y lleill. Yn ystod y weminar hon, byddwch yn derbyn arweiniad arbenigol ar sut i greu CV dylanwadol. P’un a oes un gennych eisoes, ynteu ydych erioed wedi cael un, dyma’r gweithdy ichi.
Cewch y cyfweliad, cewch y swydd (gweithdy dwy awr ar-lein)
Gall gwneud ceisiadau am swyddi a mynychu cyfweliadau fod yn ddirboenus ac yn ein gadael yn teimlo’n agored iawn. Ond mae pethau y gallwn eu gwneud i’w gwneud yn ddioddefadwy ac yn llwyddiannus! Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu sut i gyflwyno ceisiadau am swyddi sy’n addas a phroffesiynol ac a fydd yn cynyddu’ch cyfleoedd o sicrhau cyfweliadau. Byddwn hefyd yn pwysleisio technegau er mwyn eich helpu i baratoi am gyfweliad llwyddiannus a rhoi dealltwriaeth nad yw’n ofnus ichi o gwestiynau cyfweliadau a sut i’w hateb.