Gair i gall ar sut i wneud enwebiad Womenspire llwyddiannus
- Neilltuwch ddigon o amser i ysgrifennu’r enwebiad – peidiwch â’i adael tan y funud olaf
- Dewiswch y categori cywir ar gyfer eich enwebiad – darllenwch ddisgrifiadau’r gwobrau yn ofalus cyn dewis y categori.
- Sicrhewch eich ffeithiau! Cynhwyswch unrhyw ystadegau neu ffeithiau sy’n dangos yr effaith y mae eich enwebai wedi’i chael
- Ceisiwch fewnbwn gan eraill sy’n adnabod eich enwebai
Gallwch chi enwebu cymaint o fenywod a busnesau ag y dymunwch ar draws ein holl gategorïau.
Mae pedwar cwestiwn i’w hateb
- Ysgrifennwch grynodeb am y fenyw rydych chi’n ei henwebu (hyd at 150 gair)
- Beth mae wedi’i gyflawni a/neu pa effaith a gafodd (hyd at 250 gair)
- Pa rwystrau neu heriau y llwyddodd i’w goresgyn? (hyd at 250 gair)
- Sut mae wedi annog neu gefnogi menywod? (hyd at 250 gair)
Wrth ateb y cwestiynau…
Nodwch yn glir pam rydych chi’n credu bod eich enwebai chi yn haeddu ennill – mae’r adran trosolwg yn gyfle i chi esbonio pwy ydyn nhw, beth maen nhw wedi’i wneud a sut maen nhw wedi gwneud hynny. Rhowch grynodeb o’r unigolyn – rydyn ni eisiau deall ei stori.
Pa wahaniaeth maen nhw wedi’i wneud? Wrth ddisgrifio eu cyflawniadau, dywedwch ba effaith y maen nhw wedi’i chael. Os ydyn nhw wedi codi llawer o arian – pa effaith mae hynny wedi ei chael ar eu helusen? Os ydyn nhw’n arweinydd anhygoel – beth mae hyn yn ei olygu i’r sefydliad a’u cydweithwyr? Os ydyn nhw’n rhedeg eu busnes eu hunain – beth mae hyn yn ei olygu i’r economi leol?
Dywedwch wrthym am eu taith i’n helpu ni i’w deall ychydig yn well. Gallai’r rhwystrau y maen nhw wedi’u goresgyn fod yn unrhyw beth; efallai eu bod nhw wedi wynebu gwahaniaethu neu’n gweithio mewn sector lle mae menywod yn brin, gallai’r rhwystr fod yn un ariannol neu gymdeithasol neu efallai eu bod wedi goresgyn rhyw fath o anhawster personol.
Dywedwch wrthym pam eu bod nhw’n eich ysbrydoli chi yn y ffordd y maen nhw’n annog a chefnogi menywod. Mae menywod ysbrydoledig yn cefnogi ac annog eraill i wneud yr un fath. Gallen nhw gefnogi menywod yn ffurfiol, er enghraifft, trwy eirioli, mentora, siarad mewn digwyddiadau neu ysgrifennu blogiau, neu yn anffurfiol, er enghraifft, trwy eich annog i wneud cais am ddyrchafiad neu i gyflawni gweithgarwch newydd neu eich helpu chi trwy gyfnod anodd. Gallen nhw roi o’u hamser i gefnogi menywod eraill yn eu cymuned a rhoi’r hyder iddyn nhw dyfu a gwneud mwy. Os ydych chi’n ansicr ynglŷn â hyn, efallai y byddai’n werth i chi ofyn i bobl eraill sy’n adnabod eich enwebai beth maen nhw wedi’i wneud iddyn nhw hefyd.
Pob lwc!