Yn gaeth: Tlodi ymhlith menywod yng Nghymru heddiw

19th December 2019

Mae gan Chwarae Teg weledigaeth ar gyfer Cymru decach lle mae menywod yn cyflawni ac yn ffynnu. Nid yw’r weledigaeth hon yn gyflawnadwy oni bai y gall pob menyw ffynnu, ac mae tlodi yn rhwystr sylweddol rhag gwireddu hyn.

Mae cyfraddau tlodi yng Nghymru wedi aros yn yr unfan ar y cyfan dros y degawd diwethaf, ar oddeutu 24%. Fel rhywbeth sydd wedi dod yn gymaint o nodwedd barhaol yn ein cymdeithas, mae’n bosib nad ydym yn effro i ba mor annerbyniol yw’r sefyllfa hon.

Gwnaethom gomisiynu’r ymchwil hon gan gydnabod bod risg, profiad ac effaith tlodi yn wahanol i fenywod nag y mae i ddynion. O ganlyniad, bydd ymyriadau polisi ond yn effeithiol os cânt eu dylunio gyda’r gwahaniaethau hyn mewn golwg.

Yn gaeth: Tlodi ymhlith menywod yng Nghymru heddiw

Gweithiodd Chwarae Teg gyda Sefydliad Bevan i gasglu tystiolaeth o brofiad menywod sy’n byw mewn tlodi.

Other downloads
Research report - Trapped
19th Dec 2019
Behind the Research: Bevan Foundation on Gender and Poverty
Post