Mae bwrdd yr elusen yn gyfrifol am helpu’r Prif Weithredwr a thîm uwch reoli Chwarae Teg a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol ac ariannol.
Mae Alison Thorne yn gyfarwyddwr anweithredol, yn ymddiriedolwr ac yn aelod pwyllgor, a hi hefyd yw sylfaenydd y cwmni datblygu busnes a phobl atconnect.
Alison yw arweinydd Cymru ar gyfer Women on Boards ar hyn o bryd, ac mae hefyd yn un o aelodau bwrdd Chwaraeon Cymru, lle y saif ar y Pwyllgor Cyllid ac Archwilio. Yn flaenorol, bu'n gyfarwyddwr anweithredol ar gyfer ymgynghoriaeth manwerthu ac mae'n ymddiriedolwr gyda'r Tropical Forest Trust (rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy).
Mae ganddi yrfa gorfforaethol ym maes manwerthu, gan gael swyddi ar fyrddau gweithredol Mothercare, George at Asda ac Otto UK a swyddi arwain yn Kingfisher a Storehouse, gan arbenigo mewn prynu, marsiandïo a chyrchu.
Mae Alison wedi bod yn ymddiriedolwr gyda Chwarae Teg ers mis Mawrth 2016 ac wedi eistedd ar y Pwyllgor Cyllid a Risg a'r Grŵp Arloesedd Masnachol. Cafodd ei phenodi'n gadeirydd ym mis Gorffennaf 2019.
Mae Carolyn yn aelod o'r Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) a'r Sefydliad Rheoli Lle (IPM) ac mae ganddi BSc mewn Rheoli Busnes gyda Marchnata a enillodd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae gan Carolyn fwy na deng mlynedd o brofiad mewn marchnata, rheoli a datblygu lleoedd ar hyd a lled y DU. Mae wedi cael swyddi rheoli gyda chwmnïau amrywiol, a'r diweddaraf gyda FOR Cardiff (Rhanbarth Gwella Busnes Caerdydd) fel Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu. Mae ei rôl yn ei gwneud yn ofynnol iddi gyflawni canllawiau strategol, trefnu a chyflawni gweithgareddau marchnata, digwyddiadau a chyfathrebu B2B/B2C ar gyfer busnesau sy'n aelodau o FOR Cardiff, a hyrwyddo Caerdydd fel cyrchfan di-ail.
Siaradwr Cymraeg a fagwyd yn Sir Gaerfyrddin yw Catherine, ac mae ganddi brofiad o fod yn gyfarwyddwr anweithredol, ymddiriedolwr ac aelod pwyllgor. Mae wedi mwynhau gyrfa mewn gwleidyddiaeth, yn ogystal â gweithio i fudiadau sy'n canolbwyntio ar hawliau plant a menywod, gan gynnwys rheoli Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru. Bu'n ymddiriedolwr gyda Gofal a Thrwsio Cymru am wyth mlynedd ac yn ymddiriedolwr gydag elusen Gofal y Fron Peony yng ngorllewin Cymru.
Mae wedi gweithio mewn gwleidyddiaeth Llafur yn y Cynulliad, San Steffan ac ar lefel Ewropeaidd. Bu'n aelod allweddol o dîm ymgyrch arweinyddiaeth Mark Drakeford yn 2018, ac mae'n aelod etholedig o Bwyllgor Gweithredol Cymru'r Blaid Lafur yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Catherine, fel cyn-Aelod o'r Cynulliad dros Lanelli a dylunydd mewnol cymwys, wedi cyfuno ei hangerdd am wleidyddiaeth a dylunio drwy sefydlu ei busnes ymgynghori ei hun, Bailey Thomas Design. Mae'r gwasanaethau y mae'n eu darparu yn cynnwys creu dylunio mewnol ymarferol a chynaliadwy, rhoi cymorth mentora i fenywod sy'n chwilio am swydd gyhoeddus, a hyfforddiant ar siarad yn gyhoeddus, ymhlith pethau eraill. Mae'n un o aelodau sefydlu Siarter i Fenywod y Blaid Lafur, sy'n annog ac yn cynorthwyo menywod i fynd i mewn i fywyd cyhoeddus.
Daeth Catherine yn aelod o'r bwrdd ym mis Mawrth 2016, ac mae hefyd yn aelod o'n Pwyllgor Pobl a Datblygu Sefydliadol.
Ar ôl graddio mewn Saesneg o Goleg Sant Ioan, Rhydychen, gweithiodd Christopher fel rheolwr prosiect yn gyfrifol am farchnata, cynhyrchu a dosbarthu amrywiaeth o adnoddau print ac adnoddau ar gyfer y we i ysgolion ar ran cleientiaid y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Yna, ymunodd Christopher â Llywodraeth Cymru ar Lwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil a threuliodd wyth mlynedd yn gweithio'n bennaf ar bolisi economaidd ac adfywiad a hefyd fel Uwch Ysgrifennydd Preifat i'r Dirprwy Brif Weinidog. Ar ôl pum mlynedd yng Nghomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Dychwelodd Christopher i Lywodraeth Cymru fel Dirprwy Gyfarwyddwr - Cyfansoddiad a Chyfiawnder.
Mae gan Christopher ddwy ferch ifanc ac mae’n benderfynol o adeiladu Cymru decach lle gallant gyflawni a ffynnu. Daeth Christopher yn aelod o’r bwrdd ym mis Mawrth 2016.
Mae gan Dr Anita Shaw 23 blynedd a mwy o brofiad yn cefnogi athrawon i addysgu gwyddoniaeth yn rhyngweithiol, gan gychwyn ei gyrfa yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain, ac yn fwy diweddar yn Techniquest yng Nghaerdydd lle’r oedd yn gyfrifol am strategaeth addysg y ganolfan.
Mae Anita’n frwdfrydig ynglŷn ag ymgysylltu â phobl ifanc, yn enwedig menywod, ym mhynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg). Mae’n aelod o fwrdd Menywod ym meysydd STEM ac arferai fod yn aelod o’r grŵp gorchwyl a gorffen, y Gweithgor Gwyddoniaeth a’i Grŵp Rhanddeiliaid Strategol ar gyfer y cwricwlwm newydd yng Nghymru. Mae’n cynnal y Prosiect Peirianneg ar gyfer Cymoedd Cymru ar ran Academi Frenhinol Peirianneg ac mae’n gwirfoddoli gyda Barefoot Computing.
Daeth Alison yn aelod bwrdd ym mis Mawrth 2016 ac mae’n aelod o’n Pwyllgor Cyllid a Risg hefyd.
Mae gan Jo 20 mlynedd a mwy o brofiad ym maes arweinyddiaeth a datblygu sefydliadol ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae Jo yn arweinydd strategol profiadol, yn ymarferydd ac yn hwylusydd, ac mae’n meddu ar gymwysterau ac aelodaeth broffesiynol ôl-radd amrywiol, wedi iddi hyfforddi yn Harvard ym meysydd arweinyddiaeth a datblygu rheolwyr. Mae’n aelod o Dasglu Llywodraeth y DU ar Arweinyddiaeth yn y Gwasanaeth Cyhoeddus.
Fel rhan o’i rôl Cymru gyfan, mae Jo yn arwain tîm er mwyn datblygu rhaglenni a chyfleoedd newydd ac arloesol sy’n meithrin arweinyddiaeth a gallu o ran datblygu sefydliadol a galluogrwydd ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Daeth Jo yn aelod o’r bwrdd ym mis Mehefin 2018 ac mae’n aelod o’n Pwyllgor Pobl a Datblygu Sefydliadol hefyd.
Graddiodd Lynne o Brifysgol Glasgow ym 1985 gyda gradd ail ddosbarth uwch mewn Hanes Economaidd. Yn dilyn cyfnod o waith ymchwil ôl-radd yn yr Archif Cenedlaethol yn Kew, symudodd Lynne i Gymru i ymuno â'r Swyddfa Gymreig bryd hynny. Mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad gwasanaeth cyhoeddus mewn gyrfa sy'n cwmpasu gwaith ymchwil, datblygu a gweithredu strategaeth a pholisi, rheoli newid, gwella systemau, ac arweinyddiaeth a llywodraethu ariannol strategol a gweithredol.
Lynne yw Cyfarwyddwr Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar hyn o bryd, a chyn hyn, hi oedd y Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid, Llywodraethu a Pherfformiad yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, sef asiantaeth weithredol o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Mae Lynne yn frwd am ddatblygiad sefydliadol a phersonol, ac yn credu bod pobl wych yn creu sefydliadau gwych. Mae hefyd yn cynnal llawer o gydberthnasau hyfforddi a mentora, gan gynnwys rhaglen Cenedl Hyblyg Chwarae Teg.
Mae Lynne yn briod ag Albanwr arall, ac mae ganddi ddau fab mewn oed ac wyres sy'n faban.
Mae Nicola Olsen yn Gyfrifydd Siartredig gydag MBA o Oxford Brooke’s. Mae ganddi 20 mlynedd o brofiad mewn diwydiannau a sectorau amrywiol o gwmnïau rhyngwladol mawr i gwmnïau bach dielw. Yn flaenorol roedd gan Nicola sawl rôl rheoli mewn nifer o gwmnïau, ac yn fwyaf diweddar roedd yn Rheolwr Cyllid Grŵp ar gyfer cwmni rhyngwladol mawr sy’n cynhyrchu ychwanegion anifeiliaid. Prif sgiliau Nicola yw hyfforddi a datblygu staff a rheoli newidiadau.
Daeth Nicola’n aelod Cyfetholedig o’r bwrdd ym mis Mehefin 2018.
Mae Olly yn bartner yn un o brif grwpiau cyflogaeth y farchnad yn Simmons & Simmons LLP, practis cyfreithiol rhyngwladol gyda thros 1,500 o bobl a 22 o swyddfeydd mewn canolfannau busnes ac ariannol mawr ledled Ewrop, y Dwyrain Canol ac Asia.
Mae'n arbenigo mewn materion cyfraith cyflogaeth strategol, fel problemau rheoli risg pobl sensitif iawn, materion sy'n ymwneud â chydbwysedd rhwng y ddau ryw a chyflog cyfartal, ymgyfreitha cymhleth, materion diogelu busnes, a chwythu'r chwiban. Mae'n gweithredu ar draws amrediad eang o sectorau, gan ganolbwyntio'n benodol ar sefydliadau ariannol, cronfeydd rheoli a buddsoddi asedau, a thechnoleg ariannol (FinTech).
Fel partner, mae Olly yn ymwneud yn helaeth hefyd ag ymdrechion cydbwysedd rhywiol ac amrywiaeth ei gwmni, ac ef oedd â'r brif rôl yn ei ddigwyddiadau ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn 2019. Mae hefyd yn mentora nifer o fenywod, sy'n amrywio o hyfforddeion i uwch-swyddogion cyswllt ag uchelgeisiau o fod yn bartneriaid.
Magwyd Olly yn Abertawe ac aeth i Brifysgol Caerdydd.
Mae Rachael yn gyfrifydd siartredig gyda Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW). Hyfforddodd yn PricewaterhouseCoopers (PWC) yn Llundain ac mae ganddi radd BSc Anrhydedd mewn Cemeg o’r Imperial College, Llundain. Ymunodd Rachael â’r DVLA yn 2003 a daeth yn Gyfarwyddwr Cyllid ym mis Rhagfyr 2013. Mae’n gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth ariannol ar lefel strategol a gweithredol, gan sicrhau bod rheolaethau llywodraethu a risg cadarn a phriodol ar waith ar draws yr asiantaeth.
Ei gwaith gyda’r DVLA yw rôl gyntaf Rachael yn y sector cyhoeddus. Cyn hynny, roedd ganddi sawl rôl uwch ym maes cyllid yn y sector preifat, mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys gweithgynhyrchu a dylunio mewnol.
Daeth Rachel yn aelod o’r bwrdd ym mis Mawrth 2016 ac mae’n Gadeirydd ein Pwyllgor Cyllid a Risg.
Mae Expectation State yn gweithio er mwyn cynyddu maint ac ansawdd buddsoddiadau’r sector preifat mewn gwledydd sy’n dioddef gwrthdaro. Roedd gan Robert rolau arweiniol uwch mewn cwmni buddsoddi preifat blaenllaw. Mae ganddo arbenigedd sylweddol mewn gwneud penderfyniadau ar fuddsoddiadau a chyd-drafod trefniadau masnachol, gan fod yn gyfrifol yn bersonol am gaffael a rheoli gwerth $8 biliwn a mwy o fuddsoddiad cyfalaf yn y DU, y Dwyrain Canol ac Affrica, ac mae wedi bod yn aelod gyda hawl i bleidleisio ar nifer o bwyllgorau buddsoddi.
Mae Robert yn un o Ymddiriedolwyr Tŷ Hafan, elusen gofal lliniarol pediatrig a Chymraeg yw ei famiaith.
Daeth Robert yn aelod Cyfetholedig o’r bwrdd ym mis Mehefin 2018.
Mae Sarah yn gweithio ym maes polisi tai cymdeithasol, yn cynorthwyo cymdeithasau tai i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a chyflawni uchelgais y sector i wneud tai da yn hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru.
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn lobïo, yn ymgyrchu ac yn dylanwadu ar faterion sy'n amrywio o ddiwygio lles i reoliadau adeiladu, ac mae'n cefnogi cymdeithasau tai sy'n aelodau i sicrhau cywirdeb data a llywodraethu da. Rhan o rôl Sarah yw asesu risg wleidyddol, ariannol ac i enw da, yn ogystal â meithrin cydberthnasau ag aelodau, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a phartneriaid.
Cyn symud i'r trydydd sector, bu Sarah yn gyd-sylfaenydd busnes bach yr oedd yn ei redeg. Roedd rhedeg y busnes bach a chanolig hwn yn cynnwys adeiladu, hyfforddi ac arwain tîm, yn ogystal â rheoli ffrydiau refeniw a chamau twf.
Ar ôl gweithio er mwyn rhoi Polisi’r Gymraeg ar gyfer llywodraeth leol ar waith, ymunodd Sharon â Pia ym 1999. Mae Pia yn gwmni argraffu arbenigol, ac yn trawsgrifio testun i fformatau hygyrch, fel print mawr a sain. Penodwyd Sharon yn rheolwr gyfarwyddwr yn 2005, ac mae wedi bod yn allweddol mewn nifer o ddatblygiadau busnes, gan gynnwys sicrhau statws Buddsoddwyr mewn Pobl. Mae wedi arwain cyfnod o newid mawr, sydd wedi arwain at welliannau enfawr yng ngalluoedd a rhagolygon Pia.
Mae Sharon yn eiriolwr brwdfrydig dros waith Chwarae Teg. Llwyddodd Pia i gyflawni Statws Cyflogwr Rhagorol drwy'r rhaglen Cenedl Hyblyg, ac mae wedi cyflawni hyn eto gyda'r rhaglen Cenedl Hyblyg 2.
Penodwyd Sharon yn aelod Cyfetholedig ar y cychwyn, yna ymunodd â’r bwrdd yn llawn ym mis Mehefin 2018. Mae’n aelod o’n Pwyllgor Cyllid a Risg hefyd a’n Pwyllgor Pobl a Datblygu Sefydliadol.
Mae cefndir Shikala yn y sector Cyhoeddus a’r Sector Preifat gan gynnwys sefydliadau mawr can cwmni’r FTSE. Mae ganddi arbenigedd ym maes cynllunio strategol, rheoli prosesau o ail-lunio busnesau drwy ailstrwythuro sefydliadau yn sylweddol, cynllunio a datblygu’r gweithlu, gwelliannau parhaus a rheoli prosiectau.
Mae’n Aelod o Fwrdd Clwb Sylfaen Pêl-droed Dinas Caerdydd ac yn Is-gadeirydd y Llywodraethwyr mewn ysgol yng Nghaerdydd.
Mae gan Shikala ddiddordebau eang o drefnu digwyddiadau mawr i gasglu arian ar gyfer elusennau, i fentora, hyfforddi ac annerch mewn digwyddiadau.
Daeth Shakila yn aelod o’r bwrdd ym mis Mehefin 2018 ac mae’n aelod o’n Pwyllgor Pobl a Datblygu Sefydliadol hefyd.
Fel cyfarwyddwr Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot, mae rôl Wyn yn cynnwys ystyried partneriaethau gyda chyrff yn y DU a thu hwnt, er mwyn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y sector. Yn ystod ei gyfnod yn y Grŵp hwn, cytunwyd ar nifer o Gynghreiriau, ac maen nhw’n diwallu’r anghenion sy’n codi yn y diwydiant adeiladu.
Roedd Wyn yn Gyfarwyddwr Cymru ar gyfer Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu am 14 mlynedd a mwy, gan oruchwylio eu perfformiad a’u strategaeth mewn partneriaeth â chyrff y diwydiant a chyrff cynrychioliadol. Yn ogystal â bod yn aelod o nifer o Bwyllgorau Llywodraeth Cymru, mae Wyn wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru a Chynghorau Hyfforddi/Menter.
Ar hyn o bryd, Wyn yw Cadeirydd Fforwm Sgiliau Ynni Adnewyddadwy Cymru ac Ysgol Gynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi Cymru ac mae’n Llysgennad Adeiladu'r Ymddiriedolaeth Ieuenctid yng Nghymru.
Daeth Wyn yn aelod o’r bwrdd ym mis Tachwedd 2011
Cofrestru yma >