"Fel elusen gofrestredig, rydym yn gwneud popeth posibl i wireddu ein gweledigaeth o Gymru decach lle gall menywod gyflawni a ffynnu.
Yn amlwg, mae angen cymaint o gefnogaeth â phosibl arnom, ond gyda'ch cymorth chi gallwn ysbrydoli, arwain a sicrhau cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru".

Rydym ni, fel llawer o elusennau eraill ledled y DU, yn wynebu heriau newydd sy’n gysylltiedig â chodi arian a’r ffyrdd rydym yn gweithredu. Rydym yn bodoli er mwyn cefnogi a chynrychioli menywod yng Nghymru a thrwy ychwanegu botwm “Rhoi” i’n gwefan a chynyddu’r ystod a’r amrywiaeth o ffyrdd yr ydym yn codi arian, ein nod yw sicrhau y gall Chwarae Teg barhau i sbarduno newid gwirioneddol ar gyfer menywod yng Nghymru.

Bydd unrhyw roddion gennych i Chwarae Teg yn sicrhau y gallwn:
Gefnogi Menywod

Datblygu mwy o brosiectau er mwyn cefnogi menywod sydd mewn perygl, i gamu ymlaen yn y gwaith ac i allu cyrraedd eu llawn botensial.

Darparu'r dystiolaeth

Cynnal ymchwil arloesol sy’n amlygu effeithiau anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chanolbwyntio ar yr angen i leihau anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.

Ymgyrchu dros newid

Dylanwadu ar arweinwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i sicrhau bod menywod yng Nghymru yn cael eu cynrychioli’n deg, bod eu lleisiau’n cael eu clywed, a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.

Gallwch weld y gwaith yr ydym yn ei wneud o ran llywio penderfyniadau polisi cenedlaethol a sut yr ydym yn arwain ac yn llunio’r ddadl yng Nghymru er mwyn sbarduno newid diwylliannol a strwythurol.

Ffyrdd i roi

Mae sawl ffordd y gallwch roi a chodi arian i ni:

Rhoi heddiw

Gallwch fynd i’n tudalen Virgin Giving heddiw a rhoi rhodd un waith.

Rhoi rhodd un waith

Rhoi'n fisol

Gallwch fynd i’n tudalen Virgin Giving a threfnu rhodd fisol.

Rhoi’n fisol

Codi arian i ni

Cwblhau her noddedig i gynorthwyo Chwarae Teg? Sefydlwch Dudalen Virgin Money Giving i ni a’i defnyddio i greu cefnogaeth i’ch her - Pob Lwc!

Codi arian i ni

Cysylltwch â ni i ddweud ymlaen llaw, efallai y gallwn eich helpu i godi ymwybyddiaeth o’ch her [email protected]

Rhoi er cof

Cysylltwch â ni os hoffech roi fel hyn drwy e-bostio [email protected] a gallwn roi rhagor o wybodaeth i chi.

Rydym am i chi wybod ein bod ni wir yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth.

Felly, p’un ai eich bod wedi:

  • rhoi
  • codi arian ar ein rhan
  • cefnogi ein hymgyrchoedd
  • gadael rhodd i ni yn eich ewyllys.

Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio eich rhodd yn gyfrifol er mwyn sicrhau y gall gwaith Chwarae Teg barhau.

Byddwn yn gweithio o fewn y safonau codi arian a nodir gan gyrff rheoleiddio.

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth. Gyda'n gilydd gallwn barhau i sbarduno newid gwirioneddol ar gyfer pob menyw yng Nghymru.

Claire Foster
Rheolwr Codi Arian a Grantiau
24th Nov 2020
#GivingTuesday at Chwarae Teg 2020
Post