Chwilfrydig ynglŷn â’r syniad o fod yn fòs arnoch chi eich hun? I droi’r sgiliau sydd gennych yn barod yn waith sy’n cyd-fynd â’ch bywyd neu’ch cyfrifoldebau gofalu? Bydd y gyfres hon o weminarau yn eich helpu i ddarganfod sut beth yw rhedeg eich busnes eich hun go iawn, i feddwl am syniadau, rhoi hwb i’ch hyder y GALLWCH chi wneud hyn, a sicrhau bod yr arian a’r camau ymarferol yn eu lle er mwyn i chi allu bwrw ‘mlaen â’r gwaith.
Sesiwn 1: Allwn i fod yn fenyw fusnes? Wedi’i hwyluso gan Sarah Rees, Ymgynghorydd.
Mae’r sesiwn hon yn ymchwilio byd busnes h.y. ‘entrepreneuriaeth’. (Diffiniad: rhywun sy’n sefydlu busnes gan obeithio gwneud elw.). Ydych chi’r math o berson a allai weithio i chi’ch hun? Byddwch yn trafod y manteision a’r anfanteision, y cymhellion sydd wedi’ch ysbrydoli i ddysgu mwy, a sut y gallai eich profiadau drosglwyddo i fod yn fòs arnoch chi eich hun. Bydd y sesiwn ymarferol hon yn eich tywys drwy fapio eich sgiliau, darganfod eich cymhellion a chynyddu eich hyder i gymryd y cam, yn ogystal â chlywed gan fenywod sydd wedi gwneud hynny.