Chwilfrydig ynglŷn â’r syniad o fod yn fòs arnoch chi eich hun? I droi’r sgiliau sydd gennych yn barod yn waith sy’n cyd-fynd â’ch bywyd neu’ch cyfrifoldebau gofalu? Bydd y gyfres hon o weminarau yn eich helpu i ddarganfod sut beth yw rhedeg eich busnes eich hun go iawn, i feddwl am syniadau, rhoi hwb i’ch hyder y GALLWCH chi wneud hyn, a sicrhau bod yr arian a’r camau ymarferol yn eu lle er mwyn i chi allu bwrw ‘mlaen â’r gwaith.
Sesiwn 3: Ariannu eich busnes. Wedi’i hwyluso gan Carla Reynolds, Cynghorydd Busnes Craidd Busnes Cymru
Yn ystod y sesiwn hon byddwch yn darganfod yr ystod eang o gymorth a chyngor ymarferol sydd ar gael gan Busnes Cymru ar gyfer rhoi eich syniad busnes ar waith. Gan ddarparu’r cysur a’r ddealltwriaeth i chi, er efallai mai cyllid yw eich ofn a’ch rhwystr mwyaf wrth ystyried entrepreneuriaeth, fod cymorth arbenigol a mynediad at gyllid ar gael i chi.
Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â:
- Yr adnoddau cymorth sydd ar gael a chostau cychwyn busnes
- Trosolwg o opsiynau cyllid cychwyn busnes
- Beth i’w wneud ar ôl i chi sicrhau eich cyllid
- Adnoddau Busnes Cymru
- Cyfleoedd i gydweithio
- Y camau nesaf
- Sesiwn Holi ac Ateb