Nod ‘EqualiTea’ yw llenwi’r bwlch cymdeithasu a deimlir gan lawer mewn byd gwaith hybrid newydd – lle’r oedd y sgyrsiau annisgwyl a’r sgyrsiau ar hap hynny’n aml yn arwain at ffyrdd newydd o feddwl, cydweithredu a syniadau ysbrydoledig.
Bydd yr ail EqualiTea yn digwydd drwy’r dydd, ddydd Gwener 19 Tachwedd, a gall unrhyw un sydd eisiau cofrestru wneud hynny trwy lenwi’r ffurflen isod. Yna cewch eich cyflwyno trwy e-bost i gyd-gyfranogwr fel y gallan nhw drefnu amser EqualiTea cyfleus!
Mae’r tîm yn Chwarae Teg yn gobeithio y bydd EqualiTea yn parhau â gwaith da’r Clwb Coffi, a drefnwyd mor llwyddiannus gan Kate Carr. Meddai Kate:
“Rwy’n gwbl angerddol am gysylltu pobl fel bod pethau da’n digwydd felly mae’n hollol wych trosglwyddo’r baton i Chwarae Teg, a chael pobl i siarad dros baned. Yn fwy nag erioed, mae angen i ni fod yn gynhwysol, yn gysylltiedig a gwneud synnwyr o sut rydyn ni i gyd yn teimlo. ”
Sut bydd y digwyddiad EqualiTea yn gweithio?
Dydy cydbwyso ein bywydau mewn byd sy’n newid yn gyson ddim yn hawdd, felly rydym am wneud hyn mor syml â phosibl:
- Cliciwch y ffurflen isod i gofrestru.
- Byddwch yn derbyn cyflwyniad e-bost i’ch ‘partner’ a ddewisir ar hap.
- Cysylltwch â’ch ‘partner’ i gytuno ar ba ap i gyfarfod, ac ar amser sy’n addas i’r ddau ohonoch (os nad yw hwnnw’r amser a awgrymir ar gyfer y digwyddiad).
- Rhannwch y llawenydd ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #EqualiTea (gan gofio y gallai gwybodaeth fod yn sensitif).
- A dechreuwch sgwrsio dros baned!