LeadHerShip - Menywod yn yr Heddlu

2nd December 2020

Mae LeadHerShip yn dychwelyd yn rhithwir y mis Rhagfyr hwn ac yn cynnwys pump o fenywod ysbrydoledig o’r heddlu yng Nghymru.

Nod LeadHerShip yw sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli’n well mewn rolau o’r fath sy’n gofyn am wneud penderfyniadau, a rhoi llwyfan i fenywod fel bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u bod yn cael eu hysbrydoli i ystyried eu hunain yn arweinwyr y dyfodol. Mae ein rhaglen LeadHerShip yn rhoi cyfle i fenywod ifanc rhwng 16 a 25 oed gael cipolwg ar ddiwrnod arferol yn y swydd, sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud a sut y llwyddodd menywod mewn uwch swyddi yng Nghymru i gyrraedd eu gyrfaoedd.

Ymunwch â ni:
  • i ddarganfod mwy am ‘ddiwrnod arferol’ yn yr heddlu.
  • Cael eich ysbrydoli gan eu teithiau gyrfa a fydd yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol
  • Cael y cyfle i holi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’u gyrfaoedd i’r modelau rôl
Swyddog Heddlu a Hyrwyddwr Recriwtio BAME Siobhan Aldridge Heddlu De Cymru

Ers yn blentyn, roedd PC Siobhan Aldridge yn benderfynol o fod yn Swyddog Heddlu. Yn dilyn ei hastudiaethau, daeth Siobhan yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PSCO), gan weithio’n galed i ddod yn Swyddog Heddlu. Mae Siobhan wedi cyflawni cymwysterau Swyddog Cyswllt Troseddau Rhyw, Swyddog Uned Cefnogi’r Heddlu, a Swyddog Heddlu Meddygol ac yn ddiweddar mae wedi gwneud cais i ddod yn Swyddog Arfau Saethu Awdurdodedig. Mae hi wedi gwasanaethu fel Swyddog Ymateb Rheng Flaen, wedi gweithio ar dîm Bro a chyffuriau rhagweithiol, wedi bod yn Swyddog Ymchwilio i Bobl ar Goll ac yn Rhingyll Dros Dro. Ar hyn o bryd mae Siobhan yn Swyddog Gweithlu Cynrychioliadol, yn gweithio’n strategol tuag at sicrhau fod Heddlu De Cymru yn adlewyrchu eu cymunedau’n llawn.

Darllenwch fwy am daith yrfa Siobhan yma

Prif Arolygydd Lisa Gore Heddlu De Cymru

Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd anrhydedd yn y Gyfraith, cychwynnodd y Prif Arolygydd Lisa Gore ei gyrfa yng Nghaerdydd lle bu’n Gwnstabl, yn Rhingyll ac yn Arolygydd - mae hi hefyd yn gomander arfau tanio tactegol.

Yn 2013, graddiodd Lisa o Brifysgol Caerdydd gydag MPA a enillodd tra ar secondiad i Lywodraeth Cymru fel Cydlynydd Polisi Camddefnyddio Sylweddau Cymru Gyfan. Rhwng 2015 a 2019, Lisa oedd Cadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhyw Heddlu De Cymru ac mae’n parhau i fod yn aelod o’r tîm gweithredol. Mae hi hefyd yn aelod o bwyllgor Cymdeithas Prydain ar gyfer Menywod yn yr Heddlu (BAWP) ac yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas Ryngwladol ar gyfer Menywod yn yr Heddlu.

Ar hyn o bryd, mae Lisa ar secondiad i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn Ne Cymru, ac yn arwain dau brosiect mawr; ymyrraeth â chyflawnwyr cam-drin domestig risg uchel/niwed uchel; ac adnewyddiad o drefniadau integredig rheoli troseddwyr gyda phartneriaid Cyfiawnder Troseddol eraill.

Prif Arolygydd Emma Naughton Heddlu Gogledd Cymru

Ar ôl ennill gradd mewn hanes ym Mhrifysgol Bangor, ymunodd y Prif Arolygydd Emma Naughton â Heddlu Gogledd Cymru. Mae hi wedi treulio mwyafrif ei gyrfa fel Ditectif, gan gynnwys rolau ym maes troseddau difrifol a chyfundrefnol, ymchwilio i droseddau rhywiol a chudd-wybodaeth.

Mae Emma wedi ymwneud yn helaeth â materion cydraddoldeb a thegwch yn Heddlu Gogledd Cymru, gyda phwyslais ar gydraddoldeb rhywiol. Enillodd Wobr Menywod yn yr Heddlu, Heddlu Gogledd Cymru yn 2018 a hefyd gwobrau Cymdeithas Prydain ar gyfer Menywod yn yr Heddlu a Chymdeithas Ryngwladol Menywod mewn Arweinyddiaeth yr Heddlu yn 2020.

Yn ddiweddar, mae Emma wedi gweithio fel Swyddog Staff i Brif Gwnstabl Gogledd Cymru ac mae’n helpu i reoli ei bortffolio rhyw cenedlaethol. Bydd y Prif Arolygydd Emma Naughton yn cael ei dyrchafu ddiwedd mis Tachwedd yn Dditectif Brif Arolygydd ar gyfer siroedd Conwy a Dinbych.

Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Robina Ahmed Heddlu Gogledd Cymru

Robina oedd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) Asiaidd benywaidd cyntaf Heddlu Gogledd Cymru. Ymunodd Robina Ahmed â’r Heddlu er mwyn helpu pobl o wahanol ddiwylliannau a fyddai’n gallu uniaethu â hi ac mae bellach yn un o’r swyddogion mwyaf profiadol yn Rhanbarth y Dwyrain, gyda mwy na 15 mlynedd o wasanaeth. Fel Is-gadeirydd Cymdeithas Heddlu Du, mae Robina wedi ymrwymo i recriwtio pobl o ddiwylliannau a chefndiroedd amrywiol i’r heddlu.

Mae Robina’n fwyaf balch o dreialu’r grŵp ‘Mini Police’ a sefydlwyd i feithrin perthnasoedd gwell, sy’n rhoi cyfle i dîm ifanc o ymladdwyr troseddau ddewis blaenoriaethau plismona fel goryrru o amgylch eu hysgol, traffig, neu daflu sbwriel.

Fel PSCO, mae rôl Robina’n amrywiol iawn, o ddelio’n uniongyrchol â’r cyhoedd i weithio ochr yn ochr â swyddogion heddlu a’u cynorthwyo gyda threfniadau cadwraeth lleoliadau trosedd. Fel llygaid a chlustiau’r heddlu allan yn y gymuned, gall Robina ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol i’w chydweithwyr yn yr heddlu.

Ditectif Brif Arolygydd Tracey Rankine Heddlu De Cymru

Mae’r Ditectif Brif Arolygydd Tracey Rankine wedi gwasanaethu gyda Heddlu De Cymru ers bron i 20 mlynedd. Mae hi’n ‘dditectif gyrfa’ ar ôl cael cyfle i weithio gyda’r Adran Ymchwiliadau Troseddol (CID) fel rhan o’i hyfforddiant cychwynnol gyda’r heddlu yn 2003. Wnaeth hi fyth ddychwelyd i ddyletswyddau iwnifform wedi hynny!

Yn ystod ei gwasanaeth mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau ymchwilio ar draws yr heddlu, gan gynnwys CID, Amddiffyn y Cyhoedd, Ymchwiliadau Troseddau Mawr, Seiberdrosedd a’r Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol.

Mae Tracey wedi bod yn aelod o dimau ac wedi arwain timau ym maes troseddau amrywiol gan gynnwys llofruddiaeth, herwgipio, cam-drin plant, cynllwynion cyffuriau a throseddau rhywiol. Meddai Tracey, “Pwy fyddai ddim eisiau bod yn dditectif - maen nhw’n gwneud rhaglenni teledu am yr hyn rydyn ni’n ei wneud!”

Mae Tracey’n arbennig o awyddus i wella cynrychiolaeth heddweision benywaidd ar draws y rhengoedd ac mae’n gweithio gyda’r Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhyw i gefnogi menywod sy’n ymuno â’r Llwybr Ditectif Gyrfa. Yn ddiweddar, enillodd y categori Arweinyddiaeth yng Ngwobrau Womenspire 2020 Chwarae Teg - ac mae hi’n dal i wenu!