'Nid Jyst i Fechgyn' – Menywod ym maes Adeiladu gyda VINCI Construction DU

8th September 2021

Mae menter Nid Jyst i Fechgyn Chwarae Teg wedi symud ar-lein dros dro, gan ddarparu gweminarau 1 awr yn rhad ac am ddim i ferched a menywod sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).

Nod Nid Jyst i Fechgyn yw creu gweithlu STEM amrywiol, ystwyth ac arloesol sydd ei hangen ar Gymru heddiw ac i’r dyfodol.

Ar 8 Medi am 5pm, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Vinci Construction DU. Yn y weminar hon byddwn yn ysbrydoli menywod i gyflawni gyrfaoedd llwyddiannus a gwerthfawr iawn fel peirianwyr strwythurol, arbenigwyr adeiladu ac fel arweinwyr ym maes adeiladu.

Ymunwch â ni am drafodaethau gyda 4 menyw ysbrydoledig sy’n gweithio mewn amryw rolau ym maes adeiladu gyda chwmni Vinci Construction DUa fydd yn rhoi cipolwg ar eu gyrfaoedd hyd yma ac yn cynnig cyngor i’r rhai sydd â diddordeb mewn creu gyrfa mewn STEM. Hefyd gallwch:

  • Ddysgu sut beth yw ‘diwrnod ym mywyd ‘ rhywun sy’n gweithio yn niwydiant STEM
  • Cael eich ysbrydoli gan eu llwybrau gyrfa a fydd yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol
  • Cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau i’r modelau rôl am eu gyrfaoedd.

Beth am gael eich ysbrydoli, gofyn cwestiynau a darganfod mwy?

Lizzie Featherstone – Pennaeth Offer Gwybodaeth Busnes


Mae Lizzie Featherstone yn Beiriannydd Sifil Siartredig sydd wedi gweithio ar rai o brosiectau seilwaith mwyaf y DU. Yn ystod ei gyrfa mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau, o beiriannydd safle, i reoli prosiectau adeiladu rheilffyrdd gwerth miliynau o bunnoedd. Yn 2018, daeth yn ail yng Ngwobr Seren Ddisglair Menywod mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg (WISE) ac yn 2019, cafodd ei dewis fel un o’r 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Peirianneg.

Ers 2014, mae hi wedi gweithio i VINCI Construction UK. Yn ei rôl bresennol fel Pennaeth Offer Gwybodaeth Busnes ar gyfer Isadran Adeiladu VINCI, mae’n edrych ar gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd adeiladu drwy wella prosesau a thrawsnewid digidol. Ochr yn ochr â’i hangerdd dros welliant parhaus mae’n eiriolwr cryf dros amrywiaeth yn y gweithle ac mae’n credu bod cysylltiad cynhenid rhwng y ddau.

Laura Hartle – Rheolwr Dylunio


Mae Laura’n Bensaer Siartredig gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y diwydiant adeiladu. Symudodd i Reoli Dylunio 10 mlynedd yn ôl ac mae wedi gweithio ar brosiectau arobryn ar gyfer cleientiaid fel y Swyddfa Dywydd a Phrifysgol Bath Spa. Yn ddiweddar, mae Laura wedi ymuno â VINCI Construction UK i reoli’r dylunio ar gynllun gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer GIG Cymru.

Mae Laura’n arwain y tîm dylunio drwy bob cam o gylch bywyd y prosiect o ddylunio cysyniadau i’r gwaith adeiladu ar y safle. Mae’n mwynhau amrywiaeth ei rôl, yn enwedig cwrdd a chreu perthynas gref â chleientiaid o wahanol sectorau a gweithio gyda chyflenwyr newydd ar y safle. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn arloesi yn y diwydiannau a dysgu am gynhyrchion dylunio newydd a thechnegau adeiladu gan arbenigwyr y diwydiant.

Krishma Kapoor – Peiriannydd Cynorthwyol


Mae angerdd gydol oes Krishma am ddylunio wedi ei harwain at yrfa amrywiol ym maes peirianneg. Gan ddechrau ar ei thaith o fewn y diwydiant yn 16 oed, dechreuodd brentisiaeth lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig. Ar hyn o bryd mae’n gweithio tuag at ei IEng, tra’n mynd i’w blwyddyn olaf fel prentis gradd mewn Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr.

Ers ymuno â VINCI, mae Krishma wedi gweithio ar nifer o brosiectau mewn llawer o sectorau amrywiol, o reilffyrdd a phriffyrdd, i ddylunio adeiladau a Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM). Yn ei rôl bresennol fel Peiriannydd Cynorthwyol, mae Krishma’n gweithio ar Ysgol Gymunedol/Bloc Preswyl yn Kingston. Mae ei chyfrifoldebau’n cynnwys goruchwylio llawer o isgontractwyr a sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni yn ôl gofynion dyluniad ac ansawdd y cleient. Nod Krishma yw dod yn rheolwr prosiect yn yr adran ddylunio ar ôl cwblhau ei gradd.

Rhianne Smith - Syrfëwr Meintiau Cynorthwyol


Darganfu Rhianne ei diddordeb mewn bod yn Syrfëwr Meintiau wrth astudio ar gyfer ei harholiadau Safon Uwch. Er nad oedd erioed wedi bod ar gyfyl safle adeiladu, arweiniodd ei diddordeb yn y diwydiant iddi wneud cais am Brentisiaeth Uwch er mwyn ennill y sgiliau ymarferol a datblygu ei gwybodaeth am adeiladu. Ymunodd â VINCI yn 2018 fel Syrfëwr Meintiau dan Hyfforddiant, gan weithio ar safle tra’n astudio’n rhan-amser.

Bellach dair blynedd yn ddiweddarach, mae wedi gweithio ei ffordd i fyny i rôl Syrfëwr Meintiau Cynorthwyol, gan weithio ar ddau brosiect ysbyty, ochr yn ochr â dechrau ar bedwaredd flwyddyn ei gradd. Yn ystod ei chyfnod gyda VINCI, mae wedi caffael pecynnau gwaith, wedi rheoli cyfrifon terfynol, wedi gweithio ar geisiadau am brosiectau adeiladu mawr, a hyd yn oed wedi cefnogi tîm y safle wrth fonitro ecoleg leol.