Nid Jyst i Fechgyn - Menywod ym maes TG gyda’r DVLA

12th October 2021

Mae menter Nid Jyst i Fechgyn Chwarae Teg wedi symud ar-lein dros dro, gan ddarparu gweminarau 1 awr yn rhad ac am ddim i ferched a menywod sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).

Nod Nid Jyst i Fechgyn yw creu gweithlu STEM amrywiol, ystwyth ac arloesol sydd ei hangen ar Gymru heddiw ac i’r dyfodol.

Ar 12 Hydref am 5pm, rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r DVLA. Yn y weminar hon byddwn yn ysbrydoli menywod i gyflawni gyrfaoedd llwyddiannus a gwerthfawr iawn fel rhaglenwyr, peirianwyr meddalwedd, arbenigwyr technoleg ac fel arweinwyr ym maes TG.
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched a Diwrnod Ada Lovelace bydd 3 menyw ysbrydoledig sy’n gweithio mewn amryw rolau ar draws TG yn y DVLA yn ymuno â ni gan roi cipolwg ar eu gyrfaoedd hyd yma ac yn cynnig cyngor i’r rhai sydd â diddordeb mewn creu gyrfa mewn STEM.

Ymunwch â ni am drafodaethau gyda menywod ysbrydoledig sy’n gweithio yn y diwydiannau STEM a:

  • Dysgu sut beth yw ‘diwrnod ym mywyd ‘ rhywun sy’n gweithio yn niwydiant STEM
  • Cael eich ysbrydoli gan eu llwybrau gyrfa a fydd yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol
  • Cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau i’r modelau rôl am eu gyrfaoedd.

Beth am gael eich ysbrydoli, gofyn cwestiynau a darganfod mwy?