Mae’r menter Nid Jyst I Fechgyn, gan Chwarae Teg, yn symud ar-lein, gan ddarparu gweminarau 1 awr rhad ac am ddim i ferched sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym myd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).
Mae’r gweminarau hyn yn ffordd hwyliog a rhyngweithiol o helpu i gadw merched yn llawn ysbrydoliaeth a chymhelliant, tra’n arddangos gyrfaoedd gwerth chweil mewn diwydiannau STEM.
- Darganfod sut beth yw ‘diwrnod ym mywyd’ rhywun sy’n gweithio mewn diwydiant STEM
- Clywed sut maen nhw wedi bod yn gweithio yn y frwydr yn erbyn COVID-19
- Cael eich ysbrydoli gan eu teithiau gyrfa a fydd yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol
- Cael y cyfle i holi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’u gyrfaoedd i’r modelau rôl
Ymunwch â ni fis Hydref eleni i drafod gyda phum merch ysbrydoledig sy’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau cysylltiedig â STEM yn Dŵr Cymru