Chwilfrydig ynglŷn â’r syniad o fod yn fòs arnoch chi eich hun? I droi’r sgiliau sydd gennych yn barod yn waith sy’n cyd-fynd â’ch bywyd neu’ch cyfrifoldebau gofalu? Bydd y gyfres hon o weminarau yn eich helpu i ddarganfod sut beth yw rhedeg eich busnes eich hun go iawn, i feddwl am syniadau, rhoi hwb i’ch hyder y GALLWCH chi wneud hyn, a sicrhau bod yr arian a’r camau ymarferol yn eu lle er mwyn i chi allu bwrw ‘mlaen â’r gwaith.
Sesiwn 2: Oes gen i syniad? Wedi’i hwyluso gan Sarah Rees, Ymgynghorydd
Bydd y sesiwn hon yn eich galluogi i redeg drwy’r posibiliadau a’ch galluogi i droi hedyn o syniad yn gynllun gweithredu. Byddwn yn cyffwrdd â’r meysydd sydd angen i chi eu cynnwys mewn cynllun busnes, sut i droi’r hyn rydych chi’n ei fwynhau yn ffordd o ennill arian, a chael eich elevator pitch, neu’ch crynodeb byr, bachog eich hun, yn barod i fynd. Erbyn diwedd y gweithdy bydd gennych yr offer sydd eu hangen arnoch a byddwch yn gallu gosod nodau CAMPUS ar gyfer eu cyflawni.