Gweithdy rhithwir: Rheoli’ch Tîm o Bell
Mae’r gweithdy ar-lein hwn yn addas ar gyfer rhai sydd eisoes yn rheoli timau o bell neu ar gyfer Rheolwyr Llinell sydd bellach yn gorfod gwneud hynny mewn ymateb i COVID-19.
Yn cael ei gyflwyno trwy Zoom, mae hwn yn weithdy ymarferol a rhyngweithiol lle anogir cyfranogiad a thrafodaeth grŵp.
Ar ôl cwblhau’r gweithdy, bydd cyfranogwyr yn cael mynediad at becyn cymorth Rheoli Llinell ar gyfer cefnogi gweithgareddau arwain o bell.
Cofrestrwch yma
Erbyn diwedd y gweithdy hwn, byddwch:
- Wedi cynyddu eich hyder o ran gallu creu tîm effeithiol a llawn cymhelliant sy’n gweithio o bell
- Yn deall y manteision ac yn archwilio heriau gweithio o bell
- Yn deall sut i gefnogi POB aelod o’ch tîm o bell
- Yn meddu ar amrywiaeth o offer a thechnegau ymarferol ar gyfer sicrhau perfformiad effeithiol, gwell cydweithredu ac amgylchedd tîm amrywiol a chynhwysol
- Yn creu cynllun gweithredu cynhwysol i gefnogi’ch arweinyddiaeth bell
Dyddiad : Dydd Mawrth 16eg Mawrth 2021
Amser: 10.00am – 11.45am
Cost: £49.00 y Cyfranogwr
Lleoedd ar Gael: 14