Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2021: Darganfod a dathlu llwyddiannau anhygoel menywod yng Nghymru!
Cynhelir Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2021 ar ddydd Iau 30 Medi, a bydd y seremoni ar-lein yn dathlu llwyddiannau eithriadol menywod yng Nghymru.
Mae Womenspire yn gyfle i bob yr un ohonom dynnu sylw at y menywod sy’n goresgyn rhwystrau, a’r rhai sy’n cefnogi menywod eraill i gyflawni a ffynnu, ac i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Unwaith eto, gyda chefnogaeth ITV Cymru Wales a llu o noddwyr blaengar byddwn yn cydnabod menywod o bob agwedd ar fywyd, o gyflawniadau personol i gyfraniad eithriadol.
Bydd gennym bopeth y byddech yn ei ddisgwyl o’n seremoni wobrwyo Womenspire, o fideos o’n cystadleuwyr yn cael eu chwarae drwy gydol y digwyddiad i berfformiadau byw gan artistiaid benywaidd.
Fel digwyddiad ar-lein mae Gwobrau Womenspire Chwarae Teg yn rhad ac am ddim i’w mynychu.
Cymryd rhan drwy’r cyfryngau cymdeithasol
Tagiwch @ChwaraeTeg ar Instagram a Twitter a defnyddiwch #Womenspire
Cyfrannu
Bydd rhodd ddewisol o £10 i Chwarae Teg yn golygu y gallwn ni, gyda’n gilydd, barhau i gydnabod ac arddangos cyflawniadau llawer mwy o fenywod eithriadol yng Nghymru.
Byddwch yn rhan o Gymru decach lle gall pob menyw gyflawni a ffynnu.