Y Cyfle
Mae ein Partneriaid Hyfforddiant a Chymwysterau yn chwarae rhan allweddol o ran datblygu ac asesu elfennau dysgu a sgiliau Rhaglen Datblygu Gyrfa Cenedl Hyblyg 2 ar gyfer menywod. Mae’r rhaglen yn cefnogi menywod cyflogedig i adeiladu’r sgiliau a’r hyder i gymryd eu camau cyntaf o ran arwain neu i ddatblygu eu dyheadau i arwain
Bydd hwn yn amser cyffrous i ymuno â thîm sefydledig ond un sy’n esblygu, gan gefnogi datblygu, cyflwyno ac asesu cyfres o hyfforddiant wedi’i achredu gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn ogystal ag ystod o weithdai i ysbrydoli ac ysgogi eraill trwy sesiynau wyneb yn wyneb, gweminarau. a sesiynau dysgu ar-lein. Os ydych chi’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd deinamig a chyflym, yn teimlo’n angerddol am ddatblygu cyfleoedd dysgu uchelgeisiol o ansawdd, a bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o wella’n barhaus a helpu pobl i wireddu eu llawn botensial llawn, yna mae’r rôl hon i chi.
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon bydd gennych hanes profedig o ddylunio, cyflwyno ac asesu ystod o raglenni dysgu achrededig deniadol. Byddwch yn darparu cefnogaeth sicrhau ansawdd rhagorol ar draws ein rhaglenni trwy fonitro, adolygu a gwerthuso ansawdd yr addysgu, dysgu ac asesu, er mwyn llywio ac ysgogi gwelliant parhaus. Gan y byddwch yn gweithio ar draws sawl tîm, ochr yn ochr â chydweithwyr angerddol a chefnogol, byddwch yn tynnu ar eich profiad o weithio ar y cyd er mwyn cyflawni amcanion busnes llwyddiannus mewn amgylchedd cyflym.
Ein hymrwymiad
Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein tîm ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig eraill a phobl ag anabledd sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
Rydym yn cynnig y contractau cyfnod penodol canlynol:
1 x Contract Tymor Penodol: Ionawr 2021 i 30 Mehefin 2023
1 x Contract Tymor Penodol: Rhagfyr 2020 i 31 Rhagfyr 2021
Lleoliad: Yn y cartref
Cyflog: £30,354 y flwyddyn
Oriau gwaith: 35 awr
Dyddiad cau: 12pm ddydd Mercher 25 Tachwedd