Enw’r Sefydliad: Banc Datblygu Cymru
Rhanbarth: Cymru Gyfan
Nifer y cyflogeion: 248 o weithwyr
Lefel gyfredol Gwobr Cyflogwr Chwarae Teg: Arian
Dywedwch ychydig wrthym am bwy ydych chi, yr hyn yr ydych chi’n ei wneud, a natur eich sefydliad:
Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi Cymru drwy ei gwneud yn haws i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen i ddechrau, cryfhau a thyfu.
Ei nod yw datgloi’r potensial yn economi Cymru drwy gynyddu’r ddarpariaeth o gyllid cynaliadwy ac effeithiol yn y farchnad. Pan mae busnesau Cymru’n ffynnu, maent yn creu nifer fwy o swyddi o ansawdd gwell.
Pan mae busnesau Cymru’n gryf, mae Cymru’n gryf.
Mae’r Banc Datblygu yn darparu cyllid hyblyg ar bob cam o dwf busnes ym mhob sector, gyda chyllid o £1,000 i £10 miliwn ar gael.
Mae’r Banc Datblygu yn adnodd unigryw i Gymru, yn creu gwerth hirdymor ac yn gwella economi ddeinamig, gystadleuol Cymru.
Pam wnaethoch chi gofrestru ar gyfer Cyflogwr Chwarae Teg?
Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn bwnc sy’n berthnasol i bob gweithle, boed hwnnw’n cyflogi dau neu ddau gant o bobl. Mae’r Banc Datblygu yn credu mewn gweithlu amrywiol, ac rydym am sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar yr un cyfleoedd ac yn cael yr un driniaeth deg.
Mae hyn yn helpu gyda recriwtio a chadw staff. Mae hefyd yn cefnogi ymgysylltiad gweithwyr, ein nod o fod yn gyflogwr cynhwysol, ac yn gwella cynhyrchiant ac enw da’r brand. Yn bwysig, mae gweithlu amrywiol yn ein helpu i ddiwallu anghenion amrywiol ein cwsmeriaid.
Ein gwerthoedd craidd yw partneriaeth agored, gyfrifol, sydd hefyd wrth wraidd ein sefydliad.
Rydym yn dibynnu ar ddenu, cadw a datblygu’r dalent orau, a chredwn yn ein cenhadaeth o ddarparu cyllid effeithiol a chynaliadwy a gweithio mewn partneriaeth â chwsmeriaid a rhanddeiliaid.
Mae’r sefydliad angen tîm gwybodus, brwdfrydig ac ymgysylltiedig, sy’n gallu cyflawni ein hamcanion a bod yn llysgenhadon brand i’r Banc Datblygu. Ein nod yw cael gweithle cyfartal ac amrywiol ac rydym yn gweithredu strategaethau i sicrhau ein bod yn cyflawni hyn.
Mae gan y Banc Datblygu gyfrifoldeb i gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydym wedi’n hymrwymo i ddarparu cyllid yn y tymor hir ar gyfer atal methiant y farchnad, gan gymryd ymagwedd integredig a chydweithredol, sy’n cynnwys pobl o bob demograffeg ar gyfer twf cynaliadwy yng Nghymru. O fewn pob Cronfa newydd, rydym yn manylu ar ba allbynnau fydd yn gwella canlyniadau o fewn y saith nod llesiant integredig, sut mae’r egwyddor datblygu gynaliadwy wedi’i hymgorffori, a’r lle mae allbynnau’n cefnogi amcanion llesiant.
Sut ydych chi’n gweld eich taith cydraddoldeb rhywedd yn mynd o’r fan hon?
Roedd 2020 yn sicr yn flwyddyn anodd cafodd ei ddominyddu gan Covid-19. Wrth edrych i’r dyfodol, byddwn yn adeiladu ar yr hyn rydym eisoes wedi’i gyflawni, gan wella ein polisïau gweithio hyblyg er mwyn cefnogi mwy o amrywiaeth.
Bydd parhau i fuddsoddi yn ein mentrau cyfathrebu a llesiant mewnol yn ganolbwynt wrth i ni edrych ar sut y gallwn gefnogi ein cydweithwyr i ddychwelyd i amgylchedd gwaith ‘normal newydd’ mewn blwyddyn heriol arall.
Mae ein Teulu Gweithio’r Dyfodol - gweithgor rhyngadrannol - yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o adrannau Banc Datblygu Cymru. Bydd y Teulu yn cyflwyno opsiynau ac argymhellion a fydd yn llywio’r ffordd yr ydym yn gweithio yn uniongyrchol. Gyda’r rhan fwyaf o’r gweithlu’n gweithio gartref ers mis Mawrth diwethaf, fel sefydliad rydym yn awyddus i gadw hyblygrwydd i gydweithwyr, hyd yn oed wrth i’r ffordd allan o’r cyfnod clo gael ei fapio. Fel rhan o waith y Teulu, fe gynhelir arolwg o ddewisiadau gweithio hyblyg cydweithwyr hefyd.
Rydym hefyd yn darparu mwy o dryloywder o ran gwobrwyo a chydnabyddiaeth, yn ogystal â chefnogi cydweithwyr i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.
Byddwn yn parhau i wneud mwy i annog mwy o fenywod entrepreneuraidd i sicrhau cyllid i ddechrau a chynnal busnesau. Rydym yn weithredol gyda’r grŵp cynghori Cefnogi Menywod Entrepreneuraidd yng Nghymru, ac o ran mabwysiadu’r Canllaw Arfer Da er mwyn cynyddu amrywiaeth y busnesau rydym yn buddsoddi ynddynt. Cefnogwyd hyn drwy amrywiaeth o ymgyrchoedd marchnata. Hyd yma, rydym wedi gweithio gyda dros 2000 o fenywod sy’n ymwneud â pherchnogaeth cwmnïau yng Nghymru.