Bipsync UK – eu taith ar raglen fusnes CH2

9th October 2020

Rydym yn gwerthfawrogi cydraddoldeb yn fawr ac yn credu y bydd gweithlu mwy amrywiol yn naturiol yn arwain at ddiwylliant mwy cynhwysol. Mae grwpiau menywod a BAME yn parhau i gael eu tangynrychioli ar bob lefel ac rydym am fod yn rhan o sicrhau bod y system yn deg - nawr, ac yn y dyfodol.

Charlotte White
Pennaeth Gweithrediadau ac AD

Mae Bipsync UK wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac mae ganddo 16 o weithwyr. Fe’i sefydlwyd ym Mhrifysgol Stanford gan gyn-ddadansoddwr ymchwil cronfeydd rhagfantoli, Danny Donado, ac aeth y cwmni ati i greu dewis amgen i’r prosesau a thechnolegau ymchwil aneffeithlon, cymhleth ac anghyson a fodolai yn y diwydiant buddsoddi.

Tyfodd y tîm yn gyflym a chyfunodd wybodaeth am reoli buddsoddiadau, arbenigedd datblygu meddalwedd a phrofiad dylunio UX cyfoethog i greu ymagwedd newydd tuag at dechnoleg rheoli ymchwil.

Er fod y cwmni eisoes wedi ymrwymo i feithrin gweithlu amrywiol a diwylliant cynhwysol, ymunodd Bipsync UK â’r Rhaglen Fusnes er mwyn sicrhau nad oedd ei brosesau mewnol yn cyfyngu ar fynediad at gyfleoedd datblygu a recriwtio. Yn benodol, roedd hyn yn golygu gweithio gyda Hannah Botes, sy’n Bartner Cyflogwyr, i gefnogi’r broses o gyflwyno system rheoli perfformiad newydd ac i adolygu ei brosesau recriwtio - gan sicrhau bod cydraddoldeb a chynhwysiant wrth wraidd unrhyw newidiadau arfaethedig.

O ganlyniad i’w gwaith caled a’u hymrwymiad i gydraddoldeb, derbyniodd tîm Bipsync ein gwobr Cyflogwr Chwarae Teg ‘Arweiniol’

Y meysydd busnes y buom yn gweithio arnynt

Rheoli Perfformiad

Mynychodd Uwch Reolwyr weithdy arferion gorau mewn rheoli perfformiad er mwyn gwella’u dealltwriaeth o’r broses a sicrhau eu bod yn gyson ac yn deg yn eu dull gweithredu. Yn dilyn y gweithdy, mae’r busnes wedi datblygu a gweithredu Polisi Perfformiad a Datblygu newydd. Mae dwy ran i’r system newydd: adolygiad blynyddol ffurfiol a phroses rwydweithio rhwng cymheiriaid. Adlewyrchir gwerthoedd Bipsync UK drwy gydol y broses. Mae’r system gyfan wedi’i sefydlu’n ddigidol, gan ganiatáu i’r aelod o staff a’i reolwr llinell uniongyrchol storio a chael gafael ar awgrymiadau, nodiadau a dogfennau.

Mae Bipsync UK hefyd wedi cyflwyno rhaglen fentora i gefnogi gweithwyr newydd a gweithwyr presennol o fewn y busnes. Mae adran dysgu a datblygu hefyd wedi’i hychwanegu at y polisi rheoli perfformiad er mwyn sicrhau eu bod yn cysylltu â’i gilydd ac yn cefnogi cyfleoedd gweithwyr i symud ymlaen

Mae 100% o’r gweithlu yn gallu gweithio’n hyblyg, gyda’r gallu i weithio o unrhyw leoliad. Mabwysiadwyd y system newydd ar draws y cwmni ac wrth gyfuno adborth gan gymheiriaid ag adolygiad blynyddol gan reolwyr, y gobaith yw y bydd y broses yn dod yn fwy effeithlon ac yn meithrin amgylchedd gwaith agored er mwyn sicrhau bod unigolion a thimau yn perfformio hyd eithaf eu gallu ac yn datblygu eu potensial.

Recriwtio a Dethol

Mae’r polisi recriwtio a dethol presennol wedi’i ddiweddaru ac mae’n cynnwys hyblygrwydd ym mhatrymau gwaith Bipsync UK yn ogystal â thegwch o fewn y broses recriwtio. Roedd y polisi eisoes yn adlewyrchu proses gadarn gyda meini prawf dethol ar gyfer llunio rhestrau byr a chyfweliadau. Roedd y busnes wedi cael trafferth yn y gorffennol yn denu ymgeiswyr benywaidd, er enghraifft, ac mae bellach yn sicrhau ei fod yn cynnwys manteision busnes mewn hysbysebion sy’n denu ceisiadau o blith cronfa fwy o ymgeiswyr cymwysedig. Mae Bipsync UK hefyd yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i gynnig lleoliadau a chyfleoedd eraill, a gwnaed diwygiadau i bolisïau hefyd er mwyn sicrhau bod staff sydd allan o’r busnes dros dro ar gyfnod o absenoldeb rhiant yn cael gwybod am gyfleoedd newydd yn y busnes ac yn cael eu hannog i wneud cais amdanynt. Mae’r busnes hefyd yn rhoi ei hysbysebion swyddi drwy raglen datgodio rhywedd i sicrhau bod y geiriad yn gynhwysol ac yn hyrwyddo ceisiadau ar gyfer cronfa amrywiol o ymgeiswyr, yn enwedig gan ymgeiswyr benywaidd.

Y canlyniadau cydraddoldeb rhywiol

Drwy fynd ati i hyrwyddo’r diwylliant gweithio hyblyg a manteision megis gwell absenoldeb rhiant a pholisïau gwyliau anghyfyngedig ym mhob hysbyseb swydd, gall darpar ymgeiswyr benywaidd gael cartref croesawgar yn Bipsync UK.

Mae Bipsync yn grymuso ei staff i sicrhau canlyniadau ym mha bynnag ffordd y mynnant. Mae hyn yn golygu bod gan weithwyr hyblygrwydd llawn o ran eu lleoliad a’u rheolaeth o’u amser. Drwy roi ffocws cryf ar iechyd a llesiant ei staff a’u hannog i gymryd cyfrifoldeb am eu llwyth gwaith, nod Bipsync UK yw cadw pawb yn y cwmni yn frwdfrydig, yn rhan annatod o’r gwaith ac yn gynhyrchiol. Mae hyn wedi’i wella ymhellach drwy newid y prosesau dysgu a datblygu a rhoi mynediad teg i gyfleoedd datblygu i fenywod o fewn y cwmni.

Er bod gan y sector TGCh enw o fod yn un lle mae mwyafrif mawr o ddynion, bydd y camau y mae Bipsync wedi’u cymryd yn annog mwy o ymgeiswyr benywaidd i wneud cais a/neu ddychwelyd i’r diwydiant a helpu i sicrhau bod gweithwyr benywaidd yn aros o fewn y busnes am amser maith.