Mae’r coleg yn darparu cyfleoedd dysgu ar gyfer poblogaeth o ddysgwyr o 20,000 yn ôl yr amcangyfrif, gyda chymorth cyllideb o £40 miliwn a mwy, ar draws pedwar o safle: Ystrad Mynach, Nantgarw, Aberdâr a Rhondda Cynon Taf.
Mae dysgwyr yn dod o gymunedau lleol a phellach ledled y DU, Ewrop a’r Dwyrain Canol ar gyfer rhaglenni dysgu arbenigol.
Roedd yr arolwg Cyflogwyr Chwarae Teg yn arddangos yr amgylchedd cadarnhaol y mae’r coleg yn ei greu gyda’u pwyslais ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, gyda 91% o ymatebwyr yn nodi eu bod yn cytuno bod amrywiaeth yn cael ei groesawu ar bob lefel, a 86% yn cytuno eu bod yn gweithio mewn amgylchedd cynhwysol. Roedd 91% yn cytuno bod cysylltiadau’r gweithle’n gadarnhaol gydag 87% yn cytuno bod eu safbwyntiau’n cael eu clywed a’u bod yn cael eu trin â pharch.