“Ein bwriad yw creu diwylliant o gydweithwyr ymaddasol, hyderus a chwilfrydig.”
Fel rhan o’i drawsnewid sefydliadol, gwnaeth Tŷ’r Cwmnïau gydnabod bod angen ymgorffori amrywiaeth a chynhwysiant yn ei raglen, a chanolbwyntio ar roi llais ystyrlon i bob cydweithiwr.
Yn dilyn gweithdai gyda mwy na 600 o bobl ar draws y busnes, gwnaeth Tŷ’r Cwmnïau gydnabod bod ei waith ar amrywiaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac â phroffil cymharol isel, gan arwain at ddiffyg ymwybyddiaeth o’r gwaith a oedd yn mynd rhagddo.
O ganlyniad, rhoddodd Tŷ’r Cwmnïau fudiad newid ar waith a daeth mwy na 100 o gydweithwyr yn asiantau newid i yrru trawsnewid yn ei flaen. Yn gysylltiedig â hyn oedd cred fod cydweithwyr am gael cyfleoedd i ymgysylltu â grwpiau amrywiol a gweld mwy o dystiolaeth amlwg o wir ymrwymiad i gynhwysiant. O ganlyniad, gwnaeth Tŷ’r Cwmnïau ailwampio ac ail-lansio ei fforwm amrywiaeth, gan ddenu amrywiaeth o gydweithwyr o bob rhan o’r sefydliad. Yna, penderfynodd Tŷ’r Cwmnïau weithio gyda Chwarae Teg i ddechrau ar ei daith o ddod yn Gyflogwr Chwarae Teg.
Gwahoddwyd yr holl weithwyr i gymryd rhan mwn arolwg dienw, a gafodd ei ddadansoddi gan Bartner Cyflogwyr Chwarae Teg. Gwnaeth y Partner Cyflogwyr hefyd ymgymryd ag adolygiad o’r arferion gweithio cyfredol, gan wneud nifer o argymhellion a gafodd eu crynhoi o fewn Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Chynllun Gweithredu.
Amcanion y strategaethau oedd:
- Parhau i ddatblygu diwylliant a phrosesau a fydd yn denu cymaint o bobl ddawnus â phosibl i’w recriwtio a thrwy hynny cynyddu amrywiaeth y gweithlu
- Sicrhau bod ymagwedd gynhwysol a chyson wrth roi’r polisïau gweithio’n hyblyg ar waith
- Sicrhau bod proses recriwtio a dethol deg a thryloyw, yn fewnol ac yn allanol, sy’n gynhwysol ac sy’n cael ei rhoi ar waith yn gyson drwy gydol y sefydliad
Camau gweithredu
Gwnaeth Partner Ymgysylltu Chwarae Teg gefnogi Tŷ’r Cwmnïau gyda chymorth ymgynghori uniongyrchol i roi’r camau gweithredu canlynol ar waith.
Lansio’r Rhwydwaith Menywod, gan ddefnyddio canfyddiadau a chynllun gweithredu arolwg Cyflogwyr Chwarae Teg fel sail i arddangos y camau nesaf
Roedd aelod anweithredol o’r bwrdd yn brif siaradwr yn y lansiad, a rhoddodd araith ddiddorol iawn ar ei phrofiad fel menyw mewn diwydiant lle mae dynion yn dominyddu. Roedd y digwyddiad a rhwydwaith yn ennyn diddordeb mawr gan fenywod mewn swyddi ar draws y sefydliad. Datblygwyd gweledigaeth ac egwyddorion - gan ddod i gytundeb mai diben y Rhwydwaith Menywod oedd
“ysbrydoli, galluogi a chefnogi menywod i gyrraedd eu potensial llawn yn y gweithle”.
Gwella’r dull o hyrwyddo ymgyrchoedd Menywod Digidol / Menywod mewn Tech, gyda’r bwriad o recriwtio mwy o fenywod i rolau TGCh
Lluniodd Chwarae Teg adroddiad craffu ar rywedd mewn prosesau recriwtio o fewn y Gyfarwyddiaeth Ddigidol, oherwydd er bod cydbwysedd boddhaol o ran rhywedd yn y sefydliad yn ei gyfanrwydd, ceir gwahanu galwedigaethol yn y gyfarwyddiaeth benodol hon. Amlinellwyd argymhellion penodol, gan gynnwys creu llwybrau talent newydd, swyddi lefel mynediad newydd a rhaglen garlam, datblygwyd gwaith hyrwyddo yn allanol ar gyfer cynnig Gwerth Cyflogeion y gyfarwyddiaeth, a chafodd y defnydd o jargon ei leihau.
Adolygu’r hyn y mae cynnydd mewn gyrfa yn ei olygu mewn gwirionedd ac adolygu cyfleoedd i uwchsgilio a chefnogi cynllunio ar gyfer olyniaeth
Gwnaeth Tŷ’r Cwmnïau wahodd Chwarae Teg i gyflenwi pedwar gweithdy â’r nod o gynyddu hyder cyflogwyr benywaidd i wneud cynnydd yn y sefydliad. Yn dilyn pob sesiwn, roedd sesiwn ymarferol i ddilyn gan aelod o’r Rhwydwaith Menywod.
Roedd y rhain yn cynnwys Cymryd Cyfrifoldeb dros eich Gyrfa - Cynllunio ar gyfer Llwyddiant; Siarad yn Uchel, Sefyll Allan; Diffinio a Datblygu eich Brand Personol; a Newid eich Ffordd o Feddwl - Cael Canlyniadau.
Cynnal ymchwil bellach i edrych ar y rhesymau pam fod rhai menywod yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn annheg oherwydd eu rhywedd
Mae Tŷ’r Cwmnïau yn gweithio gyda Chwarae Teg i gynnal cyfres o grwpiau ffocws gyda menywod a dynion i gael dealltwriaeth well o faterion yn ymwneud â rhywiaeth yn y gweithle, gyda’r bwriad o gynnal gweithdai dilynol i fynd i’r afael â stereoteipiau negyddol o ran rhywedd a datblygu dynion fel cynghreiriaid.