Mae gan Chwarae Teg weledigaeth ar gyfer Cymru sy’n gyfartal o ran y rhywiau. Lle gall menywod o bob cefndir cyflawni eu potensial. Cymru lle rydym yn gweithio gyda’n gilydd i chwalu rhwystrau strwythurol, a lle rydym i gyd yn elwa o werth economaidd cydraddoldeb rhywiol, a allai fod gymaint â £14 biliwn.
Nid yw anghydraddoldeb yn anochel, mae’n ganlyniad i systemau a strwythurau annheg a hynafol nad ydynt yn ystyried gwahaniaeth nac anfantais ar sail rhyw nac unrhyw nodweddion gwarchodedig eraill. Drwy gydol y pandemig, rydym wedi gweld gwir gost yr anghydraddoldeb hwn, gyda menywod, yn enwedig menywod groenliw, menywod anabl, a menywod ar incwm isel, yn cael eu heffeithio waethaf gan yr argyfwng.