Mae Elizabeth (Betsi) Cadwaladr wedi rhoi ei henw i’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ganed Betsi ar 24 Mai 1789, yn Llanycil, ger y Bala, ac fe’i magwyd ar Fferm Pen Rhiw yn un o 16 o blant.
Bu gan Betsi nifer o swyddi cyn iddi fod yn nyrs. Dechreuodd fel morwyn ym Mhlas Yn Dre a dyma lle y dysgodd hi sut i siarad Saesneg, i chwarae’r delyn a gwneud gwaith tŷ. Serch hynny, dihangodd o’r swydd hon i fynd yn forwyn i deulu cefnog o Lerpwl pan oedd yn 14 oed a theithiodd gyda nhw o gwmpas Ewrop. Credir iddi newid ei chyfenw i Davis ar yr adeg yma, am ei fod yn haws ei ynganu. Daeth yn ôl i Gymru yn y pen draw ond wedyn ffodd i Lundain i fyw gyda’i chwaer, am nad oedd arni eisiau priodi.
Yn 31 oed, dychwelodd unwaith eto i’r Bala ond gwelai’r lle’n ‘ddiflas’ felly cafodd swydd ar long, yn forwyn i’r capten. Galluogodd hyn iddi deithio am flynyddoedd lawer, gan ymweld â lleoedd fel Awstralia, China, Affrica, India a De America. Er nad oedd hi wedi’i hyfforddi fel nyrs bryd hynny, byddai’n aml yn gofalu am gleifion ar y llong a chynorthwyodd gyda llawer o enedigaethau.
Ar ôl dychwelyd i Brydain, darllenodd erthygl yn The Times am yr amodau’r oedd milwyr clwyfedig un o frwydrau Rhyfel y Crimea yn eu hwynebu, a phenderfynodd hyfforddi fel nyrs yn Ysbyty Guy’s yn Llundain.
Wedi iddi gymhwyso, dewisodd ymuno â’r gwasanaeth nyrsio milwrol gan ei bod am weithio yn y Crimea. Rhoddwyd Betsi mewn ysbyty yn Scutari, Twrci, lle bu’n gweithio mewn ysbyty a gâi ei redeg gan Florence Nightingale. Nid oedd gan Florence fawr o feddwl o’r Cymry o gwbl oherwydd iddi ddarllen cyhoeddiad o adroddiad ‘Brad y Llyfrau Gleision’ a roddai’r argraff bod y Cymry’n ddiffygiol o ran addysg sylfaenol a moesoldeb.
Nid oedd Florence Nightingale eisiau i Betsi weithio fel nyrs.
Aeth Betsi drwy dri mis o wrthdaro â Florence, yn bennaf oherwydd y bwlch oedran (31 mlynedd) rhyngddynt a’r ffordd yr oedd Betsi’n hoffi gwneud pethau. Roedd Florence am i bopeth gael ei wneud yn ôl llythyren y ddeddf a’r rheolau, ac roedd wedi ysgrifennodd rhai o’r rhain ei hun. Ymwrthodai Betsi â’r rheolau, fodd bynnag, fel y gallai ymateb yn fwy greddfol wrth ofalu am anghenion y milwyr.
Yn y diwedd, oherwydd y gwrthdaro cyson rhwng Cadwaladr a Nightingale, gadawodd Betsi ac aeth i ysbyty a oedd yn agosach at y rheng flaen yn Balaclava. Unwaith eto, bu rhaid iddi ymladd yn erbyn biwrocratiaeth er mwyn cael y cyflenwadau yr oedd eu hangen arni i drin y milwyr clwyfedig. Fodd bynnag, ymwelodd Florence Nightingale â’r ysbyty yn Balaclava sawl gwaith ac, o’r diwedd, ar ôl sylwi ar y newidiadau cadarnhaol i’r ysbyty, rhoddodd gydnabyddiaeth haeddiannol i Betsi Cadwaladr.
Bu farw Betsi Cadwaladr ar 17 Gorffennaf 1860, bum mlynedd wedi iddi ddychwelyd i Brydain wrth i amodau Rhyfel y Crimea effeithio ar ei hiechyd. Yn ystod y pum mlynedd hynny, bu’n byw yn Llundain a llwyddodd i ysgrifennu ei hunangofiant (Autobiography of Elizabeth Davis, 1857. Fe’i hailgyhoeddwyd fel Betsy Cadwaladyr: A Balaclava Nurse). Mae Betsi wedi’i chladdu yn ardal y tlodion ym Mynwent Abney Park yng ngogledd Llundain.
Wyddoch chi:
- Enwyd Betsi’n rhif 38 ar y rhestr ’50 o ddynion a merched pwysicaf Cymru erioed’, gan guro pobl fel Tom Jones, Anthony Hopkins a Ryan Giggs.
- Yn dilyn digwyddiad i ddathlu canmlwyddiant Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, cynhyrchodd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched-Cymru lyfryn yn cynnwys y cyflwyniadau a ddangoswyd yn ystod tri digwyddiad o wahanol rannau o Gymru; dewiswyd Betsi Cadwaladr gan ddau berson gwahanol felly rhoddwyd dau gyflwyniad amdani yn y cyhoeddiad hwnnw.
- Newidiodd Betsi ei chyfenw o ‘Cadwaladr’ i ‘Davis’ pan oedd hi’n byw ymhlith Saeson nad oedd yn gallu ynganu ‘Cadwaladr’. Mabwysiadodd ‘Davis’, fel y gwnaeth ei brodyr a’i chwiorydd hŷn mewn amgylchiadau tebyg, oherwydd ei fod yn deillio o enw cyntaf ei thad gan felly ddefnyddio’r system dadenwol draddodiadol Gymreig.