Gwleidydd Cymraeg, sydd wedi cynrychioli Ceredigion i Blaid Cymru fel aelod o’r Senedd ers 1999, ac sydd wedi bod yn Llywydd y Senedd ers 2016.

Magwyd Elin Jones ar fferm yn Llanwnnen ger Llambed. Mynychodd Ysgol Gynradd Llanwnnen ac Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan.

Wedi graddio o Brifysgol Caerdydd gyda BSc mewn Economeg, aeth Elin ymlaen i astudio ar gyfer gradd uwch MSc mewn Economeg Wledig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gweithiodd fel Swyddog Datblygu Economaidd i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig, ac hefyd yn gyfarwyddwr Radio Ceredigion a chwmni cynhyrchu teledu Wes Glei Cyf.

Bu Elin ar Gyngor Tref Aberystwyth o 1992 tan 1999 a hi oedd Maer ieuangaf Aberystwyth yn nhymor 1997-98.

Fe’i hetholwyd i’r Cynulliad ym mis Mai 1999 ac, yn nhymor cyntaf y Cynulliad, hi oedd Gweinidog yr Wrthblaid dros Ddatblygiad Economaidd. Yn dilyn etholiad y Cynulliad yn 2003, llwyddodd i ddal gafael ar y portffolio hwn tan 2006, pan ddaeth hi’n Weinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad. Hefyd, Elin oedd Cadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru rhwng 2000 a 2002.

Ar 9 Gorffennaf 2007, ffurfiwyd Llywodraeth Cymru’n Un a phenodwyd Elin yn Weinidog dros Faterion Gwledig. Nawr Elin yw Llywydd Senedd Cymru.

Ffeithiau ddiddorol

  • Mae’n aelod o Gôr ABC Aberystwyth, ac mae hefyd wedi bod yn aelod o’r grŵp Cwlwm.
  • Yn 2009, enillodd Elin wobr Pencampwr Ffermio Prydain y Farmers Weekly yn ogystal â gwobr Aelod Cynulliad y Flwyddyn.
  • Mae Elin yn byw yn Aberystwyth ac yn mwynhau cerddoriaeth, ffilmiau a darllen.

Ni fyddai democratiaeth yng Nghymru yr un peth heb ein henwebiad ni, Elin Jones. O osod blociau adeiladu cyntaf ein Senedd Ieuenctid Cymru, gan sicrhau ein bod ni fel pobl ifanc yn cael dweud o'r diwedd am sut yr ydym ni'n cael ein llywodraethu yng Nghymru - i fod ar flaen y gad yn ein Senedd yn cynrychioli Cymru yn fyd-eang fel ein Llywydd, a hefyd cadw at ei gwreiddiau gan cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda'i gwaith gwych fel aelod o'r Senedd. Byddai'r Gymru fodern a gwleidyddiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa waeth o lawer heb Elin Jones.

Ifan Price
Aelod o'r Senedd Ieuenctid, Canolbarth a Gorllewin Cymru
24th Jan 2019
Wonderful Welsh Women
Project
23rd Sep 2020
Q&A; with Elin Jones MS
Post