Gwnaeth Kate Bosse-Griffiths gyfraniad unigryw i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif a chofir amdani fel Eifftolegydd Cymreig nodedig.
Fe’i ganwyd ar 16 Mehefin 1910 ac enillodd ddoethuriaeth yn y Clasuron ac Eifftoleg o Brifysgol München ym 1935. Aeth ymlaen wedyn i ddechrau gweithio yn Adran Eifftoleg ac Archaeoleg Amgueddfeydd y Wladwriaeth yn Berlin, ond fe’i diswyddwyd pan ddarganfuwyd bod ei mam yn Iddewes.
Ar ôl ffoi i Brydain i ddianc rhag y Natsïaid, bu’n gwneud gwaith ymchwil yn Llundain a Rhydychen, ac yn ei chyfnod fel uwch aelod o Goleg Somerville, Rhydychen, cyfarfu ag Eifftolegydd arall, J. Gwyn Griffiths.
Priodwyd y ddau yn 1939 gan ymgartrefu yn Pentre, Rhondda, lle magwyd Griffiths. Gan ei bod yn awyddus i ddod yn rhan o’r gymdeithas, dysgodd Gymraeg nes iddi ddod yn rhugl a magodd ei phlant drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, sefydlodd Bosse-Griffiths a’i gŵr Gylch Cadwgan yn eu cartref yn Pentre. Roedd hwn yn grŵp llenyddol a deallusol avant-garde gyda Pennar Davies a Rhydwen Williams ymhlith yr aelodau.
Pan ddaeth ei gŵr yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, symudodd y ddau i Uplands ac yna Sgeti yn Abertawe. Daeth Bosse-Griffiths yn aelod o Amgueddfa Abertawe, lle bu’n Geidwad Archaeoleg am 25 mlynedd. Helpodd hi i ddod â chasgliad Eifftaidd Syr Henry Wellcome, a gedwid mewn storfeydd ar y pryd, i Adran y Clasuron yn Abertawe, a threuliodd yr ugain mlynedd nesaf yn ymchwilio i’r casgliad hwn o 5,000 o ddarnau. Mae casgliad Wellcome bellach wedi ei leoli yn y Ganolfan Eifftaidd ym Mhrifysgol Abertawe.
Dechreuodd ysgrifennu yn Gymraeg mor gynnar â 1942, gan ddechrau gyda Mudiadau Heddwch yn yr Almaen, 1943 ac ym 1951, daeth Bwlch yn y Llen Haearn, a oedd yn mynd i’r afael â’r cwestiwn o Almaen unedig yn anterth y Rhyfel Oer, a llyfr teithio, Trem ar Rwsia a Berlin, 1962, lle rhoddodd ei hargraffiadau craff o’r Undeb Sofietaidd a’i mamwlad.
Ei phrif gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg oedd ei dwy nofel, Anesmwyth Hoen, 1941, ac Mae’r Calon wrth y Llyw, 1957, a’i dau gasgliad o straeon byrion, Fy Chwaer Efa, 1944, a Cariadau, 1995, a gyhoeddwyd pan oedd hi’n 85 oed.
Roedd Kate Bosse-Griffiths yn fenyw aruthrol ond a chanddi bersonoliaeth fywiog a natur addfwyn. Rhannai ymrwymiad ei gŵr i achos Plaid Cymru ac roedd yn weithiwr pybyr dros y blaid ar lefel leol.
Ffeithiau diddorol:
- Ysgrifennodd yn helaeth yn Gymraeg ar bynciau nad ydynt fel arfer yn cael eu trin gan ysgrifenwyr sydd â’r Gymraeg yn famiaith iddynt.
- Er ei bod yn rhannol o dras Iddewig fe’i magwyd fel aelod o’r Eglwys Lwtheraidd ac mewn teulu a oedd yn adnabyddus am fod yn hynod ddiwylliedig ac am ei safbwyntiau rhyddfrydol; roedd ei thad yn gynecolegydd blaenllaw.
- Roedd Bosse-Griffiths mor nodedig â’i gŵr yn ei maes dewisedig a’u cartref yn ardal Sgeti, Abertawe, eto’n dod yn fan cyfarfod i ysgrifenwyr ac ymgyrchwyr gwleidyddol.