Mae Tahirah wedi bod yn gysylltiedig â Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid Cymru ers dros 5 mlynedd bellach, tra’n cyfrannu i’r gymuned ac yn mwynhau pob munud ohono. O gynlluniau chwarae i glwb gwaith cartref, mae’n teimlo bod gweithio gyda gwahanol grwpiau cymunedol wedi’i ffurfio fel unigolyn ifanc.

Yn 2018, daeth Tahirah yn rhan o Young, Migrant and Welsh (YMW) prosiect oedd yn canolbwyntio ar newid canfyddiadau unigolion ifanc sy’n byw yng Nghymru ac sy’n dod o gymuned fudol. Canolbwyntiodd ei chyfraniad ar fenywod mewn chwaraeon, cynrychiolaeth a chodi pwysau’n benodol.

Wedi ei henwebu fel Llysgennad Ieuenctid Cymru gan EYST Cymru am yr ymgyrch #iwill, mae Tahirah’n teimlo ei bod wedi gallu cyrraedd cynulleidfa ehangach a chodi mwy o ymwybyddiaeth, nid yn unig yn y gymuned leol ond yn genedlaethol hefyd. Wrth weithio gyda Llysgenhadon Ieuenctid eraill yng Nghymru, roedd Tahirah’n gallu cyfrannu at greu deunydd a oedd yn adlewyrchu Cymru amrywiol.

Mae Tahirah hefyd wedi bod yn gysylltiedig â phanel beirniadu gwahanol brosiectau ac elusennau Cymreig gan CGGC. Roedd hyn yn caniatáu cydnabod gwaith unigolion a sefydliadau ar lefel genedlaethol, er mwyn parhau i wneud mwy o waith i wella eu cymunedau a derbyn rhagor o gyllid i’w gynnal.

Yn fwyaf diweddar, roedd Tahirah ar y panel beirniadu ar gyfer Gwobrau Diana. Caiff y gwobrau eu cydnabod yn rhyngwladol a rhoddodd hyn gipolwg iddi ar waith anhygoel unigolion ledled y byd.

Ar hyn o bryd, gofynnwyd i Tahirah gymryd rhan mewn prosiect newydd sy’n datblygu o’r enw Rhwydwaith Arweinwyr y Dyfodol yng Nghymru, sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a sut i oresgyn heriau, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo.

24th Jan 2019
Wonderful Welsh Women
Project