Ganed bydwraig y flwyddyn 2006, Vernesta Cyril yn St Lucia ond gadawodd yn 1962 i ddilyn gyrfa mewn nyrsio a bydwreigiaeth yn y DU.
Ysgogodd iselder ôl-enedigol difrifol ei chefnder Vernesta i weithio i wella iechyd a lles mamau.
Dros gyfnod o 30 mlynedd, daeth â dros 2000 o fabanod i’r byd a chafodd ei chydnabod am ei gwasanaeth yn 2006 pan enillodd wobr Bydwraig y Flwyddyn y DU.
Treuliodd flynyddoedd lawer yn herio gwahaniaethu ac yn hyrwyddo cydraddoldeb hiliol a’i harweiniodd i fod yn sylfaenydd Cyngor Cydraddoldeb Hiliol De-ddwyrain Cymru (SEWREC). Yn 1999, dyfarnwyd yr OBE iddi am ei gwasanaethau o fewn y gymuned.
Mae Vernesta yn un o noddwyr Hanes Pobl Dduon Cymru.