Aelodau newydd o Fwrdd cangen fasnachol Chwarae Teg

29th March 2021
Mae Chwarae Teg, sydd â’i waith yn arwain yr ymgyrch am gydraddoldeb rhywedd yng Nghymru, yn croesawu tri aelod newydd i’r bwrdd sy’n goruchwylio ei weithgareddau masnachol. Bydd y cyfarwyddwyr anweithredol ychwanegol yma’n dod â chyfoeth pellach o wybodaeth a phrofiad traws-sector i’r bwrdd.

Bydd bwrdd FairPlay Trading Ltd yn goruchwylio datblygiad yr holl weithgareddau masnachu, gan gynnwys Cyflogwr Chwarae Teg. Caiff elw ‘Fairplay Trading Ltd’ ei ailfuddsoddi gan Chwarae Teg i gefnogi ei genhadaeth i waredu Cymru o anghydraddoldeb rhywedd.

Gan adeiladu’n gyflym ar ei enw da sy’n seiliedig ar ganlyniadau, mae Cyflogwr Chwarae Teg yn ehangu ei waith gyda busnesau, sefydliadau ac unigolion er mwyn gwella eu harferion gwaith a chynyddu potensial y gweithlu. Yn cynnig amrywiaeth o atebion cyfoes – gwasanaethau sydd â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn sail iddynt - gan roi cyngor, arweiniad a hyfforddiant arbenigol i gyflogwyr ac unigolion, tra’n cefnogi chwarae teg yn y gweithlu.

Y tri cyfarwyddwr anweithredol newydd yw:  

Haf Cennydd – uwch arweinydd masnachol a strategol gyda dros 20 mlynedd yn y sector digwyddiadau busnes-i-fusnes creadigol, mae Haf wedi trefnu rhai o sioeau masnach ryngwladol mwyaf y byd.

Gyda gyrfa lle bu’n gweithio ledled y byd mae Haf wedi arwain timau byd-eang ar gyfer CCCau cyfryngau a digwyddiadau mawr, megis UBM (Informa erbyn hyn) ac Ascential. Mae hi hefyd wedi sefydlu busnesau newydd llwyddiannus mewn gwledydd fel India, Twrci a Tsieina. Roedd Haf yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar GovNet Communications tan fis Rhagfyr 2019 ac ym mis Chwefror 2020, ar ôl symud yn ôl i Gaerdydd, ffurfiodd Springboard International, gan weithredu fel ymgynghorydd i’r diwydiant digwyddiadau ac yn fwyaf diweddar cynghori’r Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector.

Brian Meechan – newyddiadurwr, darlledwr a chyflwynydd gwobredig. Fel gohebydd busnes BBC Wales, bu’n ymdrin â busnes a’r economi ar gyfer teledu, radio ac ar-lein - gan gynnwys BBC Breakfast, y Six O’Clock News, y News Channel, Radio 4, 5Live, BBC Scotland ac ITN.

Mae Brian hefyd yn gyd-sylfaenydd, cyd-gyfarwyddwr a chadeirydd Gŵyl Lyfrau Caerdydd, a chyfarwyddwr Stay Gold Media, sy’n gweithredu ar draws darlledu a digwyddiadau.

Nicola Williams – a fydd yn dod yn Gadeirydd Bwrdd FairPlay Trading Ltd. Mae hi wedi gweithio i Dŵr Cymru ers 2012, lle mae hi ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Cyfreithiol a Chydymffurfio ac yn Ysgrifennydd y Cwmni. Mae hi’n angerddol am Gynwysoldeb ac Amrywiaeth yn y gweithle ac mae’n cadeirio grŵp Re:Think Dŵr Cymru sy’n ailfeddwl mentrau’r cwmni er mwyn hyrwyddo gweithle cynhwysol ac amrywiol. Mae Nicola yn Ymddiriedolwr ac Is-gadeirydd Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf, a rhwng 2015 a 2020 bu’n aelod o Bwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru.

Hyfforddodd Nicola yn wreiddiol fel cyfreithiwr, gan weithio gyda chwmni cyfraith yn y Ddinas, ac yn arbenigo mewn materion cyfraith gyhoeddus. Yn 2004, symudodd i Gymru a daeth yn bartner yn nhîm Datrys Anghydfodau mewn cwmni cyfreithiol cenedlaethol, yn arbenigo mewn cyfraith gyhoeddus ac anghydfodau rheoleiddiol a chynghori ar faterion gan gynnwys cyfraith contractau, materion rheoleiddio, hawliau dynol a materion cydraddoldeb.

Bydd yr aelod presennol o’r Bwrdd, Christopher Warner, yn dod yn Is-gadeirydd Bwrdd FairPlay Trading Ltd, ar ôl rhoi cymorth amhrisiadwy i ddatblygu gweithgareddau masnachu. Mae Chris yn Ddirprwy Gyfarwyddwr - Cyfansoddiad a Chyfiawnder, Llywodraeth Cymru ac mae wedi bod yn aelod o Fwrdd Chwarae Teg ers pum mlynedd.

Mae'n wych cael croesawu'r Cyfarwyddwyr Anweithredol newydd, bydd eu profiad, eu sgiliau a'u galluoedd yn ategu'r Bwrdd yn ei gyfanrwydd.

“Mae ein holl Aelodau Bwrdd a thîm wedi’u hymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb yn y gweithle, sef yr union beth gaiff ei roi wrth wraidd y gwasanaethau ymgynghori a hyfforddi rydym yn eu cynnig. Nid rhywbeth ychwanegol, nac yn agored i drafodaeth ydyw, dyna ffocws popeth a wneir gennym. O wella pobl, prosesau a newid meddyliau, rydym wedi ein hymrwymo i adeiladu sefydliadau lle mae pawb yn bwysig, lle mae eich holl weithwyr yn falch o fod yn perthyn.

Stephanie Griffiths
Cyfarwyddwr Masnachol Chwarae Teg

Rwy'n croesawu’r tri aelod newydd i'r bwrdd, ac yn sicr fe fyddant yn cael effaith fesuradwy ar ein gwasanaeth Cyflogwyr Chwarae Teg, nawr ac yn y dyfodol.

"Yn Chwarae Teg mae gennym dros 27 mlynedd o arbenigedd sy'n sicrhau bod ein dull Cyflogwr Chwarae Teg yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu busnesau ac yn sicrhau canlyniadau effeithiol. Ein gweledigaeth ar gyfer y gwasanaeth yw sefydlu diwylliant cynhwysol sy'n cael ei yrru gan gydraddoldeb o fewn sefydliadau o bob maint ac ymhob sector fel y gall busnesau dyfu mewn modd cynaliadwy a darparu'r amgylchedd cywir er mwyn i bawb allu ffynnu.

"Yn yr hinsawdd sydd ohoni a thu hwnt, mae'n hanfodol ein bod yn gallu rhedeg cangen fasnachu lwyddiannus sy'n rhoi cymorth gwirioneddol i fusnesau, yn ogystal â rhoi cymorth i waith Chwarae Teg tuag at ddarparu cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru.

Cerys Furlong
Prif Weithredwr, Chwarae Teg

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Chwarae Teg a'r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan Gyflogwr Chwarae Teg a datblygu mentrau newydd a fydd o fudd i'r cwsmer a chydraddoldeb yng Nghymru, wrth i ni nesáu at yr heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau. Rydym yn ffodus o allu croesawu aelodau newydd i'r Bwrdd sydd â chyfoeth o wybodaeth berthnasol - gan felly gryfhau ein Bwrdd at y dyfodol.

"Wrth i ni adeiladu ar ein sylfeini sydd eisoes yn gryf, bydd mewnbwn aelodau newydd y Bwrdd i gyfeiriad strategol ein gwasanaethau masnachol yn amhrisiadwy. Gyda'n gilydd gallwn sicrhau bod sefydliadau ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn gallu gwneud gwelliannau sylweddol a fydd o fudd i bawb sy'n gweithio iddynt.

Alison Thorne
Cadeirydd, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Chwarae Teg ac Aelod o Fwrdd FairPlay Trading Ltd