Roedd Angela yn fodel rôl gwirioneddol ysbrydoledig i bob menyw yng Nghymru. Cafodd effaith ar fywydau llawer o bobl trwy wneud gwahaniaeth cadarnhaol gwirioneddol, darparu eiriolaeth, cyngor a chymorth i’r boblogaeth Tsieineaidd yng Nghaerdydd, yn enwedig ei menywod, a rhoi llais i’r rheiny nad oeddent yn teimlo yr oedd ganddynt lais cyn hynny.
Cyrhaeddodd Angela y DU yn 16 oed o Hong Kong, gan siarad ychydig iawn o Saesneg ac yn wynebu gwahaniaethau diwylliannol enfawr. Fodd bynnag, gwnaeth ei hagwedd gadarnhaol a’i gwaith diflino wahaniaeth anfesuradwy i fywydau llawer o fenywod Tsieineaidd oedd yn byw yng Nghymru.
Ar ôl priodi yn 19 oed, sefydlodd hi a’i gŵr fusnes tecawê yn y ddinas. Fodd bynnag, golygai hyn weithio oriau anghymdeithasol a sylweddolodd Angela ar effeithiau bywyd cymdeithasol cyfyngedig ar y menywod yn ei chymuned, llawer o fenywod Tsieineaidd yn teimlo’n unig a gydag ond ychydig o Saesneg yn methu cael gafael ar wasanaethau sylfaenol fel iechyd.
Dechreuodd fynd gyda’r menywod i apwyntiadau meddygfeydd teulu a chefnogi gyda chyfieithu, gan sefydlu Cymdeithas Menywod Tsieineaidd De Cymru yng nghanol y 1980au yng Nghanolfan Gymunedol Glanyrafon, lle roedd dros 50 o fenywod yn cyfarfod yn wythnosol. Roedd yn gyfle iddynt siarad a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel coginio, gwnïo, gwersi Saesneg, dosbarthiadau cyfrifiadur, digwyddiadau cymdeithasol teuluol a theithiau diwrnod.
Yn anffodus, yn niwedd y 1980au, llosgodd y ganolfan i lawr, ond a hithau’n benderfynol, ffurfiodd Angela sefydliad newydd, Cymdeithas Gwasanaeth Cymunedol Tsieineaidd Caerdydd, a oedd unwaith eto’n darparu eiriolaeth, cyngor a digwyddiadau i’r boblogaeth Tsieineaidd gynyddol yng Nghaerdydd.