Bydd partneriaeth tair blynedd newydd yn helpu gofalwyr di-dâl i ddychwelyd i gyflogaeth

18th March 2021
Mae dwy elusen flaenllaw yn dod at ei gilydd ac yn cyfuno arbenigedd mewn prosiect newydd gyda’r nod o gefnogi gofalwyr benywaidd i gael gwaith.

Mae Carers Wales wedi ymuno â’r elusen cydraddoldeb rhywedd Chwarae Teg a fydd, o hwyrach y mis hwn, yn cyflwyno chwe sesiwn hyfforddi gychwynnol sy’n targedu’n uniongyrchol rhai o’r menywod hynny sydd â’r angen mwyaf am gymorth.

Dyfeisiwyd y gweithdai rhithiol gan adran o arlwy masnachol Chwarae Teg – FairPlay Employer Solutions – sy’n ailfuddsoddi elw yn ôl i waith yr elusen i roi terfyn ar anghydraddoldeb rhywedd.

Wedi’i gynllunio i helpu gofalwyr benywaidd yn benodol i wella hyder i ail-ymuno â’r gweithle, mae’r gweminarau’n edrych ar bynciau fel ysgrifennu CVs a pharatoi ar gyfer cyfweliadau ar ôl gofalu.

Mae’r sesiynau ar gael i fenywod a allai fod yn ystyried gweithio ochr yn ochr â rôl ofalu bresennol neu sydd am gael gwaith gan fod eu cyfrifoldebau gofalu efallai wedi newid neu ddod i ben.

Gyda nifer y gofalwyr yng Nghymru yn cynyddu a'n hymchwil Carers UK yn dangos bod menywod yn fwy tebygol o ofalu pan fyddant mewn oedran gwaith na dynion, mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi menywod i barhau i weithio neu ddychwelyd i'r gweithle os y dymunant. Dengys ymchwil Llywodraeth Cymru fod menywod yn llai tebygol na dynion o fod mewn cyflogaeth o ansawdd da a chyda 22% o ofalwyr yn byw mewn tlodi o gymharu â’r ffigwr cenedlaethol o 16%, rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chwarae Teg i gynnig cymorth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr benywaidd sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithle a gwneud cynnydd yn y gwaith.

"Mae ein hymchwil yn awgrymu y gall fod yn heriol dros ben i ofalwyr ddychwelyd i waith cyflogedig wrth ofalu neu ar ôl i ofalu ddod i ben. Gobeithiwn y bydd gofalwyr yn ymuno â'r prosiect newydd hwn a fydd, gobeithio, yn magu hyder ac yn grymuso menywod i ennill y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y gweithle.

Claire Morgan
Cyfarwyddwr, Carers Wales

Rydym yn croesawu'r bartneriaeth newydd hon gyda Carers Wales ac yn edrych ymlaen at wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau gofalwyr benywaidd. Ein gweledigaeth yn Chwarae Teg yw Cymru decach lle mae pob menyw yn cyflawni ac yn ffynnu, a bydd y rhaglen hon yn gweld cyfranogwyr yn magu hyder, sgiliau a'r gallu i gyflawni eu gwir botensial yn y gwaith.

"Mae wedi'i deilwra i anghenion gofalwyr sydd am symud i gyflogaeth â thâl a bydd yn eu helpu i ystyried y sgiliau sydd ganddynt eisoes a rhoi'r cymhelliant iddynt i lwyddo.

Stephanie Griffiths
Cyfarwyddwr Masnachol, Chwarae Teg

Dylai menywod sydd am gael mwy o wybodaeth neu gofrestru fynd i: https://www.eventbrite.co.uk/e/return-to-work-training-for-unpaid-carers-tickets-141953008269