Cefnogwch ni a chyfrannwch

31st July 2020

Cefnogwch ni a chyfrannwch

Pam rydyn ni’n gofyn am roddion a sut y gallwch chi gefnogi Chwarae Teg

Efallai eich bod wedi gweld ein bod yn derbyn rhoddion. Efallai eich bod yn gofyn pam. Wel, mae Chwarae Teg yn elusen wedi’r cyfan ac er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn i wireddu ein gweledigaeth o Gymru decach lle mae menywod yn gallu cyflawni a ffynnu, yn amlwg mae angen cymaint o gefnogaeth â phosibl arnom. Gyda’ch help chi gallwn ysbrydoli, arwain a darparu cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru.

Rydyn ni, fel llawer o elusennau eraill ar draws y Deyrnas Unedig, yn profi heriau newydd sy’n gysylltiedig â chodi arian a’r ffyrdd rydyn ni’n gweithredu. Rydyn ni’n bodoli i gefnogi a chynrychioli menywod yng Nghymru a thrwy ychwanegu botwm “Cyfrannu” at ein gwefan a chynyddu’r ystod a’r amrywiaeth o ffyrdd rydym yn codi arian, ein nod yw sicrhau y gall Chwarae Teg barhau i ysgogi newid go iawn i fenywod yng Nghymru.

‘Menywod COVID-19’ – cyfrannwch a chefnogwch ein hymgyrch

Lansiwyd ein hymgyrch ‘Menywod COVID-19’ wrth i’r DU ddechrau’r cyfyngiadau symud ac rydym yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth hyd yn hyn. Pan fyddwch yn clicio ar y ddolen ‘cyfrannu’, mae 50% o’r holl arian a godir yn mynd yn uniongyrchol tuag at ariannu gwaith Cymorth i Fenywod Cymru i gefnogi menywod sydd mewn perygl o gam-drin domestig yng Nghymru. Yn ôl arbenigwyr ar drais domestig, mae cam-drin wedi cynyddu’n gyflym iawn dros y misoedd diwethaf, gan adael menywod yn fwy agored i niwed nag erioed. Ynghyd â Cymorth i Fenywod Cymru, rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod anghenion menywod yn cael eu diwallu a bod lleisiau menywod yn cael eu clywed yn ystod pandemig y coronafeirws a thu hwnt.

Mae angen eich cefnogaeth barhaus

O bryd i’w gilydd, byddwn yn cefnogi ymgyrchoedd penodol, fel y gwaith pwysig cyfredol gyda Cymorth i Fenywod Cymru a, phryd bynnag y byddwch chi’n clicio ‘cyfrannu’, byddwch yn cael eich hysbysu ynglŷn â ble mae eich arian yn mynd. Yn y tymor hwy, bydd rhoddion i Chwarae Teg yn ein helpu i wneud y canlynol:

  1. Cefnogi menywod: Darparu cyfleoedd i bob menyw (yn arbennig y rhai mwyaf difreintiedig) ddatblygu yn y gwaith a gallu cyrraedd eu potensial.
  2. Darparu’r dystiolaeth: Cyflwyno ymchwil arloesol sy’n tynnu sylw at effeithiau anghydraddoldeb rhywiol, a chanolbwyntio ar yr angen i leihau anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.
  3. Ymgyrchu dros newid: Dylanwadu ar arweinwyr a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau i sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli’n deg, bod eu lleisiau’n cael eu clywed, a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.

Y mwyaf a wnawn nawr i atal anghydraddoldeb i fenywod yng Nghymru, y mwyaf y mae cymdeithas Cymru yn ffynnu. Rydyn ni am i gyfraniad pob menyw gael ei werthfawrogi a gyda’ch cefnogaeth chi byddwn yn parhau i wthio, lobïo ac ymladd fel bod hyn yn digwydd.