A yw hyn yn ddiwedd ar waith swyddfa traddodiadol?

16th March 2020

“Trystiwch fi gyda’m hamser fy hun, trystiwch fi i wneud fy ngwaith, ac fe fydda i’n cyflawni canlyniadau, ac yn weithiwr hapusach hefyd” (Ressler & Thompson, 2008)

Gyda llawer o fusnesau’n edrych ar ffyrdd o gynnal eu cynhyrchiant a galluogi gweithwyr i barhau i weithio yng nghanol pandemig, mae Gweithio Ystwyth yn bwnc amserol.

Yma yn Chwarae Teg rydym yn gweithio gyda sefydliadau o bob maint a sector i’w helpu i ddatblygu eu harferion gwaith. Isod mae cwestiynau cyffredin am weithio ystwyth a allai fod yn ddefnyddiol os ydych yn adolygu eich systemau a’ch polisïau ar hyn o bryd.

Os oes gennych ymholiad penodol mae croeso i chi anfon neges atom ar [email protected] a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu.

Er mwyn i chi allu sicrhau cymorth parhaus, wedi’i deilwra ar gyfer anghenion penodol eich busnes, rydym yn cynnal amryw o raglenni a sesiynau hyfforddi sydd ar gael i sefydliadau o bob maint ac sy’n cael eu cynnig yn rhad ac am ddim i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru drwy gyllid gan yr UE.

Beth yn union yw gweithio ar sail canlyniadau/gweithio ystwyth?

Yn gryno, nod gweithio ar sail canlyniadau - a elwir hefyd yn weithio ystwyth - yw cynyddu cynhyrchiant drwy roi’r rhyddid i weithwyr weithio yn y ffordd sy’n gweddu orau iddyn nhw gyhyd â’u bod yn cyflawni’r canlyniadau y cytunwyd arnynt.

Yn Chwarae Teg, gwnaethom ddatblygu, treialu a gweithredu ein system gweithio ystwyth ein hunain yn 2015, system yr ydyn ni’n ei galw’n “Cyflawni”. Mae pob aelod o staff yn cael gliniadur a ffôn symudol, ac rydym yn ei defnyddio pa bynnag ddesg sy’n rhydd pan fyddwn ni yn y swyddfa. Does dim cyfrifiaduron pen desg na linellau tir uniongyrchol.

I ni, mae gwaith yn weithgaredd ac nid yn lleoliad, gyda’r ffocws ar weithredu a chanlyniadau – nid ar yr amser a dreulir yn y swyddfa. Mae’n ddull hynod o rymusol ar gyfer staff, ac mae’n golygu bod y busnes yn rhedeg fel arfer pan fydd sefydliadau eraill yn cael eu heffeithio gan eira, llifogydd a nawr, y Coronafeirws.

Sut mae’n gweithio?

Mae Gweithio Ystwyth yn drefniant anffurfiol sy’n galluogi gwell cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer newidiadau tymor byr i batrymau gwaith arferol, weithiau ar gyfer digwyddiad unigol yn unig, ac nid yw’r un fath â gweithio hyblyg sydd wedi’i ymgorffori mewn deddfwriaeth.

Rydych yn mesur aelodau tîm yn ôl eu perfformiad, eu canlyniadau neu eu hallbwn, ac nid yn ôl eu presenoldeb yn y swyddfa na’r oriau y maen nhw’n gweithio. Rydych yn rhoi ymreolaeth lwyr iddynt dros eu prosiectau, ac rydych yn rhoi’r rhyddid iddynt ddewis pryd a sut y byddan nhw’n cyflawni eu nodau.

Rydym eisoes yn cynnig gweithio hyblyg, sut mae hyn yn wahanol?

Nid yw gweithio ystwyth yr un fath â bod ag oriau hyblyg, oriau craidd neu’r ddeddfwriaeth Hawl i Ofyn sy’n gweithio yn ôl y dybiaeth bod gweithiwr am weithio mewn ffordd sy’n wahanol i’r ‘norm’ sefydliadol.

  • Mae cais ffurfiol am waith hyblyg fel arfer yn golygu newid parhaol mewn telerau cyflogaeth.
  • Mae cynnig oriau gwaith craidd neu hyblyg yn mesur mewnbynnau ac nid canlyniadau h.y. mae’n dal i ganolbwyntio ar yr oriau a weithiwyd a gall hyn arwain at “bresenoliaeth”.

Mae Gweithio Ystwyth yn dibynnu ar lefel uchel o ymddiriedaeth rhwng y sefydliad a’r unigolyn er mwyn cyflawni canlyniadau. Nid bod yn neis wrth eich saff yn unig yw hyn. Mae’n ymwneud â bod yn glir iawn ynglŷn ag amcanion a disgwyliadau. Mae’n:

  • Gweithio ar sail y dybiaeth mai’r hyn yr ydym yn ei wneud yw gwaith ac ni y lle rydyn ni’n mynd
  • System o weithio i weddu anghenion y busnes ac anghenion unigol yn unol â’r gofynion.
  • Canolbwyntio bob amser ar gyflawni canlyniadau cytunedig

Pa fanteision y gall hyn eu cynnig i’m busnes?

Mae’r manteision i sefydliadau o weithio ar sail canlyniadau’n cynnwys mesurau caled a meddal, a gallant fod o fudd sylfaenol yn y pen draw:

  • Recriwtio a chadw talent amrywiol a chynhwysol – cael eich gweld fel cyflogwr o ddewis, cael y dalent orau a lleihau costau recriwtio
  • Canlyniadau busnes – lleihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a chael budd o ganlyniad i well perfformiad a chanlyniadau gan eich timau.
  • Ymgysylltiad a theyrngarwch gweithwyr - mae gweithwyr yn fwy tebygol o fod yn hyblyg er mwyn y sefydliad (er enghraifft, newid eu horiau gwaith pan fo’r angen yn codi), a dangos mwy o deyrngarwch.
  • Gwell perfformiad gwaith - gwell cynhyrchiant a gwell ansawdd gwaith, ffyrdd mwy effeithlon o weithio, gall gweithwyr drefnu a rheoli eu llwyth gwaith yn well.
  • Osgoi canlyniadau negyddol i weithwyr– helpu i osgoi straen sy’n gysylltiedig â gwaith, a lleihau absenoldeb oherwydd salwch.
  • Diwylliant gwaith cadarnhaol - mae rhoi llais i staff yn rhoi annibyniaeth a chyfrifoldeb iddynt. Mae hyn yn creu brwdfrydedd ymhlith timau ac yn galluogi dulliau mwy effeithiol o weithio, morâl uwch, dilyniant a gwell ffocws. Mae pobl yn gwerthfawrogi’r hyblygrwydd ac yn cyflawni canlyniadau mwy effeithiol ac effeithlon.

Astudiaeth Achos:

Datblygodd a gweithredodd un o’n cleientiaid Cyflogwr Chwarae Teg, y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), gynllun peilot gweithio ar sail canlyniadau, o’r enw “Canlyniadau nid Oriau”.

Roedd prif ganlyniadau peilot “Canlyniadau nid Oriau” yn cynnwys:

  • Effaith gadarnhaol ar lesiant staff
  • Gostyngiad mesuradwy mewn absenoldeb oherwydd salwch
  • Yr un lefel o gynhyrchiant, a chynnydd mewn rhai meysydd

Y prif bwyntiau a ddysgwyd gan yr IPO:

  • Ni chafodd y cynllun prawf ei weithredu heb ei rwystrau a’i heriau – ond roedd y pwyntiau a ddysgwyd wedi eu galluogi i ganfod atebion a oedd yn gweithio ar gyfer eu sefydliad.
  • Canfuwyd bod angen lefelau uchel o ymgysylltiad a chyfathrebu gyda staff a rheolwyr er mwyn rhoi arweiniad clir.
  • Mae gosod amcanion tymor byr a thymor hir clir yn hanfodol hefyd, a all fod yn fwy o waith i reolwyr ar y dechrau.
  • Ar y dechrau, roedd timau’n gweld bod amcanion tymor byr yn anodd eu gosod. Fodd bynnag, ymhen amser, daeth y timau a’r rheolwyr yn ddeheuig wrth osod amcanion realistig.
  • Ar ôl 6 mis teimlai 74% eu bod yn gallu gosod amcanion realistig ar gyfer y tymor byr, ac erbyn 11 mis roedd hyn wedi cynyddu i 92%.

I’r IPO y casgliad oedd bod hon yn ffordd lwyddiannus o weithio a oedd yn cynnal (neu’n cynyddu) cynhyrchiant, a’r canlyniad oedd bod y system yn cael ei chynnig i staff fel opsiwn gweithio hyblyg ychwanegol.

Camau Nesaf

Os hoffech drafod hyn neu unrhyw agwedd arall o’ch busnes gyda ni, rydym yma i’ch helpu.

Mae gan ein tîm o Bartneriaid Busnes gyfoeth o arbenigedd yn y maes hwn a meysydd allweddol eraill a allai fod o fudd i’ch busnes. Mae ein rhaglen Cenedl Hyblyg 2 a ariennir gan yr UE yn darparu hyd at 42 awr o wasanaeth ymgynghori rhad ac am ddim i fusnesau sydd â hyd at 250 o weithwyr, ac mae ein rhaglen Cyflogwr Chwarae Teg ar gael i sefydliadau mwy.

E-bostiwch [email protected] er mwyn rhoi dechrau arni.

16th Mar 2020