Er mwyn elwa ar fanteirsion Cymru wirioneddol gyfartal, rhaid i ni sicrhau cydraddoldeb i bob menyw, sydd â llawer ohonynt yn wynebu anghydraddoldeb rhyngblethol, nid yn unig ar sail eu rhyw ond oherwydd eu profiad fel menywod BAME, menywod LGBTQ+ a menywod anabl.
Ym mis Mehefin, lansiodd y Tîm Polisi ac Ymchwil eu hymchwil i brofiadau Menywod Anabl mewn Gwaith.
Drwy gydol yr ymchwil hwn, ein nod oedd deall a chynyddu leisiau menywod anabl, er mwyn deall sut i wneud ein gweithleoedd yn gynhwysol ac yn amrywiol. Er i’r ymchwil hwn gael ei gynnal cyn pandemig y Coronafeirws, mae llawer o’i ganfyddiadau a’i argymhellion hyd yn oed yn fwy perthnasol gan fod angen i ni sicrhau ein bod yn ailgodi’n gryfach.
Mae’r adroddiad yn datgelu graddau’r gwahaniaethu sy’n dal i fodoli tuag at bobl anabl, o ran cael gwaith, a thriniaeth a chymorth i fenywod anabl o fewn gwaith. O’r menywod anabl y buom yn siarad â nhw, roedd 58% wedi wynebu rhagfarn neu agweddau amhriodol gan eu cyflogwr a / neu gydweithwyr ynghylch eu nam neu eu cyflwr iechyd. Gan ganolbwyntio ar arferion recriwtio yn benodol; dywedodd bron hanner (47%) bod ceisiadau am swyddi a phrosesau cyfweld yn anhygyrch.
Rhannodd un o’n cyfranogwyr ymchwil ei phrofiad: “hyd yn oed pan fyddwch chi’n mynd am gyfweliad am swydd ac rydych chi’n dweud eich bod mewn cadair olwyn ac [maen nhw’n dweud] ‘rydyn ni’n hygyrch’. Gallwch chi fynd drwy’r drws, ond yna maen nhw’n rhoi bwrdd i chi na allwch chi ei gyrraedd”
Fodd bynnag, gall gwneud rhagdybiaethau am alluoedd ac anghenion pobl anabl fod yn beryglus ac yn ddi-fudd – does dim ateb syml ‘un ateb sy’n addas i bawb’ i wneud gweithleoedd yn fwy cynhwysol o bobl anabl. Nid yw pobl anabl yn grŵp unffurf, ac felly bydd gofynion ac addasiadau’n amrywio. Mae angen gwneud gwelliannau ar y cyd â menywod a dynion anabl, wedi’u llywio gan eu profiad a’u hargymhellion eu hunain.
Felly, mae hyblygrwydd, didwylledd a dealltwriaeth cyflogwyr yn hanfodol er mwyn i fenywod anabl allu symud ymlaen yn y gwaith. Y profiadau mwyaf cadarnhaol y dywedodd menywod anabl wrthym amdanynt oedd y rhai lle’r oedd gweithleoedd a chyflogwyr yn gwneud addasiadau addas, lle’r oedd cyfathrebu â rheolwyr yn effeithiol, a lle’r oedd cydweithwyr a chyflogwyr yn agored ac yn barod i addasu i anghenion gweithwyr anabl.
<blockquote style=”color: grey;”>Nid yw’r rhwystrau a wynebir gan fenywod anabl wedi’u cyfyngu i weithleoedd yn unig. Mae angen gwella cynlluniau’r Llywodraeth sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd, neu ganiatáu i weithleoedd wneud addasiadau, er mwyn gwneud eu heffaith yn ystyrlon i weithwyr anabl.</blockquote>
Hefyd, mae menywod anabl yn profi rhwystrau o fewn y system nawdd cymdeithasol, lle mae’r diffyg hyblygrwydd yn golygu bod menywod anabl weithiau ar eu colled yn ariannol mewn cyflogaeth neu’n cael eu cosbi am fanteisio ar gyfleoedd tymor byr. Fel y dywed un cyfranogwr; ‘Mae anawsterau weithiau wrth ddelio â’r system, boed hynny’n golygu gwasanaethau cymdeithasol, yr Adran Gwaith a Phensiynau neu unrhyw beth o’r fath… Os nad ydych chi’n ffitio i mewn yn y gweithle, os nad ydych chi’n ffitio i mewn i’w blychau bach taclus, cystal i chi roi’r gorau iddi.’
Mae’r adroddiad yn defnyddio’r model cymdeithasol o anabledd er mwyn deall profiadau menywod anabl a sut y gallwn wella. Mae modelau anabledd blaenorol yn pennu nam neu gyflwr iechyd unigolyn fel ‘anablu’, gan ystyried y nam fel y ffactor sy’n eu hatal rhag gwneud tasgau yn yr un modd â pherson nad yw’n anabl. Tra bod y model cymdeithasol o anabledd yn ymwneud â’r ffordd y mae ein cymdeithas wedi’i threfnu.
O fewn y model hwn, mae anabledd yn cyfeirio at y rhwystrau y mae pobl â namau a/neu gyflyrau iechyd tymor hir yn eu profi yn eu bywyd o ddydd i ddydd. Mae’r rhwystrau hyn yn gymdeithasol, ac yn cael eu hachosi gan ein hagweddau, y ffordd rydym yn cynllunio ein hamgylcheddau a’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu. Os parhawn i gynllunio ein systemau a’n strwythurau ar gyfer model sy’n addas ar gyfer ychydig dethol ac sy’n dieithrio nifer fawr, ni fyddwn yn sicrhau cydraddoldeb i bawb yng Nghymru.
Rydym yn gobeithio y bydd yr argymhellion a wneir yn yr adroddiad hwn yn cael eu datblygu gan gyflogwyr, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac y gellir defnyddio profiadau’r menywod hyn i lywio’r broses o wneud penderfyniadau er mwyn gwneud y siŵr y gallwn sicrhau canlyniadau cyfartal ar gyfer pob menyw.