Croesawodd cymuned Cricieth pobl o bell ac agos pan ddaethon nhw ynghyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Ferch (11.10.19) i ddathlu bywyd ac etifeddiaeth Megan Lloyd George.
Cafodd trydedd Plac Porffor Cymru ei ddadorchuddio yn ei hanrhydedd yng nghartref nyrsio Bryn Awelon, hen gartref y teulu, gan yr aelodau’r teulu Elizabeth George a Bengy Carey-Evans, 94, nai i Megan Lloyd George. Yn dilyn cafwyd dathliadau yn Neuadd Goffa’r dref.
Nod yr ymgyrch placiau porffor, sy’n cael ei redeg gan grŵp o wirfoddolwyr ac sy’n cael ei harwain gan yr elusen cydraddoldeb rhywiol, Chwarae Teg, yw gwella’r gydnabyddiaeth a gaiff menywod rhyfeddol yng Nghymru, coffáu eu cyflawniadau a cadarnhau eu hetifeddiaeth yn hanes Cymru.
Megan Lloyd George oedd yr AS benywaidd cyntaf i etholaeth Gymreig, Ynys Môn, o 1929-1951 ac yn ddiweddarach Caerfyrddin o 1957-1966. Drwy gydol y cyfnod hwn, bu’n hyrwyddo menywod mewn ffyrdd arwyddocaol.
Yn ystod ei haraith gyntaf, siaradodd am dai gwledig a’r effaith yr oedd tai gwael yn ei chael ar fenywod ar Ynys Môn, megis y gyfradd uwch o farwolaethau o ganlyniad i TB ymhlith menywod o’u gymharu â dynion.
Ymgyrchodd dros gyflog cyfartal a mynnodd fod y Llywodraeth yn gwneud mwy i roi rôl gyfrifol i fenywod yn yr ymdrech ryfel.
Roedd hefyd yn aelod o Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol (1935) ac yn Llywydd ymgyrch Senedd i Gymru ar ddechrau’r 1950au.
Enwebwyd Megan Lloyd George gan y Farwnes Eluned Morgan AC a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched yng Nghymru.