Mae Chwarae Teg yn cymryd rhan yn Nydd Mawrth Rhoi 2020, sydd i’w gynnal ar y 1 Rhagfyr.
Mae Dydd Mawrth Rhoi eleni yn cynnig cyfle i #RhoiYnOl2020 drwy roi i elusen, ailddatgan ymrwymiad i achos, gwirfoddoli amser neu gefnogi eraill drwy helpu ffrind, cymydog neu aelod o’r teulu yn unig.
“Mae #RhoiYnOl2020 yn gyfle i gymryd rhywbeth cadarnhaol o 2020 a gwneud gwahaniaeth ar yr un pryd” – Charities Aid Foundation
Mae elusennau fel ni wedi gweithio’n galed eleni. Mae Covid19 wedi cael effaith sylweddol ar fenywod oherwydd eu safle yn y gwaith, mewn teuluoedd ac o ran bod mewn perygl o drais, camdriniaeth a thlodi. Drwy gydol y pandemig, rydym wedi gweld gwir gost yr anghydraddoldeb hwn, gyda menywod, yn enwedig menywod croenliw, menywod anabl, a menywod ar incwm isel, yn cael eu heffeithio waethaf gan yr argyfwng. Rydym wedi bod yn brysur yn cefnogi unigolion a busnesau ac yn sicrhau bod barn a phrofiadau menywod yng Nghymru yn cael eu cynrychioli a’u hystyried yn weithredol gan lunwyr polisi a gwleidyddion.
Sut allwch chi #RhoiYnOl2020 a helpu i greu Cymru sy’n gyfartal o ran rhyw?
Cefnogwch a chwaraewch eich rhan er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru sy’n gyfartal o ran rhyw. Ble gall menywod o bob cefndir gyflawni eu potensial. Cymru lle rydym yn gweithio gyda’n gilydd i chwalu rhwystrau strwythurol, a lle rydym i gyd yn elwa o werth economaidd cydraddoldeb rhywiol, a allai fod gymaint â £14 biliwn.
Rhowch rodd i gefnogi ein gwaith.
Bydd rhoddion yn ein helpu i barhau i:
- Gefnogi Menywod : Cynnig cyfleoedd i bob menyw - yn enwedig y rhai sydd fwyaf difreintiedig - symud ymlaen yn y gwaith a gallu cyrraedd eu potensial.
- Darparu’r Dystiolaeth: Gwneud ymchwil arloesol sy’n amlygu effeithiau anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chanolbwyntio ar yr angen i leihau anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.
- Ymgyrchu dros newid : Dylanwadu ar arweinwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli’n deg, bod eu lleisiau’n cael eu clywed, a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.