Wrth i’r flwyddyn newydd agosáu, mae paratoadau eisoes ar y gweill i nodi’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd gyda dadorchuddio’r pedwerydd ‘Plac Porffor’ yng Nghymru i goffáu gwaith menyw o’r gymuned Tsieineaidd yng Nghaerdydd ar 24 Ionawr, 2020.
Bydd Angela Kwok, Pencampwr y gymuned Tsieineaidd yng Nghaerdydd, yn ymuno â grŵp disglair o fenywod y mae eu gwaith yng Nghymru wedi’i gydnabod gan Blac Porffor.
Daeth y fenter Placiau Porffor i ddod o ACau benywaidd fel rhan o ganmlwyddiant y bleidlais i fenywod, gyda’r cofeb cyntaf yn cydnabod Val Feld oedd wedi bod yn AC o’r Blaid Lafur, gyda phlac ar ochr y Senedd.
Bydd Temmy Woolston, merch Angela, yn dadorchuddio’r plac mewn seremoni am hanner dydd yn Bamboo Garden, Heol y Gadeirlan, Caerdydd i’w dilyn gan ddathliad yn Happy Gathering, Cowbridge Road East, Caerdydd.
Cyrhaeddodd Angela y DU yn 16 oed o Hong Kong, gan siarad ychydig iawn o Saesneg ac yn wynebu gwahaniaethau diwylliannol enfawr. Fodd bynnag, gwnaeth ei hagwedd gadarnhaol a’i gwaith diflino wahaniaeth anfesuradwy i fywydau llawer o fenywod Tsieineaidd oedd yn byw yng Nghymru.
Ar ôl priodi yn 19 oed, sefydlodd hi a’i gŵr fusnes tecawê yn y ddinas. Fodd bynnag, golygai hyn weithio oriau anghymdeithasol a sylweddolodd Angela ar effeithiau bywyd cymdeithasol cyfyngedig ar y menywod yn ei chymuned, llawer o fenywod Tsieineaidd yn teimlo’n unig a gydag ond ychydig o Saesneg yn methu cael gafael ar wasanaethau sylfaenol fel iechyd.
Dechreuodd fynd gyda’r menywod i apwyntiadau meddygfeydd teulu a chefnogi gyda chyfieithu, gan sefydlu Cymdeithas Menywod Tsieineaidd De Cymru yng nghanol y 1980au yng Nghanolfan Gymunedol Glanyrafon, lle roedd dros 50 o fenywod yn cyfarfod yn wythnosol. Roedd yn gyfle iddynt siarad a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel coginio, gwnïo, gwersi Saesneg, dosbarthiadau cyfrifiadur, digwyddiadau cymdeithasol teuluol a theithiau diwrnod.
Yn anffodus, yn niwedd y 1980au, llosgodd y ganolfan i lawr, ond a hithau’n benderfynol, ffurfiodd Angela sefydliad newydd, Cymdeithas Gwasanaeth Cymunedol Tsieineaidd Caerdydd, a oedd unwaith eto’n darparu eiriolaeth, cyngor a digwyddiadau i’r boblogaeth Tsieineaidd gynyddol yng Nghaerdydd.
Yn ystod ei bywyd, ymgymerodd Angela hefyd â nifer o gyfrifoldebau gwirfoddol eraill. Rhoddodd gefnogaeth i Heddlu De Cymru gyda chyfieithu, daeth yn aelod o’r Cyngor Cydraddoldeb Hiliol, dechrau sefydlu’r Fynwent Tsieineaidd ym Mhantmawr, Caerdydd a gweithredodd fel mam “ddirprwyol” i o leiaf 15 myfyriwr Tsieineaidd benywaidd o dramor yn ystod gwyliau’r Brifysgol.
Yn anffodus, bu farw Angela yn 2016, ond mae ei holl waith caled o sefydlu cymuned gydlynol Tsieineaidd a chodi ei phroffil yng Nghaerdydd yn amlwg heddiw wrth i’r gymuned aros yn unedig ac yn gynhwysol yn amrywiaeth eang y Gaerdydd amlddiwylliannol.