Mae cyflawniad unigryw yn cael ei ddathlu yr wythnos hon wrth i Chwarae Teg gadarnhau Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru fel y sefydliad cyntaf yn y genedl i gael ei ddyfarnu fel Cyflogwr Chwarae Teg safon Aur.
Mae cyrraedd y wobr Aur yn gyflawniad rhyfeddol, gan fod y rhaglen Cyflogwr Chwarae Teg wedi bod yn rhedeg ers dros dair blynedd ac wedi cefnogi cannoedd o fusnesau hyd yn hyn.
Mae’n nodi bod gan yr ASB Cymru ymrwymiad diysgog i sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth, ochr yn ochr ag ymroddiad i ymgysylltu â staff - sy’n anelu at sicrhau cydraddoldeb mewn canlyniadau a chyfleoedd i bawb.
Mae rhaglen arloesol Cyflogwr Chwarae Teg yn meincnodi sefydliadau yn erbyn eraill yn eu diwydiant a’u rhanbarth, yn pennu meysydd llwyddiant allweddol a’r rhai sydd angen eu datblygu. Yna dilynir hyn gan siwrnai o gefnogaeth a gwelliant dan arweiniad, gan gynnwys cynllun gweithredu pwrpasol a mynediad at ystod o adnoddau a digwyddiadau.