Cyn Etholiadau Senedd 2021 gwnaethom gysylltu â’r holl wahanol bleidiau gwleidyddol yng Nghymru i weld sut y bydd eu maniffesto yn sicrhau Cymru sy’n gyfartal o ran rhywedd. Cawsom ymatebion gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, Plaid Cymru, Ceidwadwyr Cymru a Llafur Cymru. Dyma’r ymateb gan Lafur Cymru.
Y Blaid Lafur yw plaid cydraddoldeb, a bydd yn parhau i fod felly, ac fel llywodraeth yng Nghymru, mae Llafur Cymru wedi dangos ein hymrwymiad i fynd i’r afael â gwahaniaethu lle bynnag y mae’n digwydd. Ein cenhadaeth fel Llywodraeth Lafur Cymru yw bod yn llywodraeth ffeministaidd, gan wneud Cymru yn lle tecach, mwy diogel a llewyrchus fel bod menywod yn gallu teimlo’n gartrefol.
Mae ein hymrwymiadau yn cyd-fynd â’n gweithredoedd a’n cyflawniadau: mae record Llafur Cymru mewn llywodraeth nid yn unig yn gydnerth, ond yn arloesol. Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) oedd y ddeddfwriaeth gyntaf o’i bath yn y DU a’r unig gyfraith o’i bath yn Ewrop i gynnwys ffocws penodol ar drais yn erbyn menywod, sy’n parhau i fod lawer yn rhy gyffredin.
Creodd y Ddeddf swydd Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, ac fe sefydlodd Strategaethau gorfodol Trais yn erbyn Menywod ar lefel leol a ledled Cymru. Hefyd rhoddodd mesurau ataliol hanfodol ar waith, megis addysg i blant a phobl ifanc yn y maes hwn, a fframwaith hyfforddi cenedlaethol ar gyfer gweithleoedd yn y sector cyhoeddus.
Llywodraeth Lafur Cymru sefydlodd linellau cymorth Byw Heb Ofn a Dyn ar gyfer dioddefwyr trais a cham-drin domestig, a rhoi mesurau ar waith i roi diwedd ar dlodi mislif, gan ddarparu cynhyrchion mislif am ddim i ysgolion, colegau, awdurdodau lleol a chymunedau. Rydym yn falch bod menywod wedi manteisio ar tua 60% o dros 100,000 o brentisiaethau a grëwyd gennym yn nhymor diwethaf y Senedd.
Ein plaid ni yw’r blaid a gyflwynodd Restrau Byr Menywod yn Unig, ac rydym yn parhau i fod wedi’n hymrwymo i wella cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus. Gweinidogion benywaidd yw’r rhan fwyaf o’n Llywodraeth Lafur yng Nghymru ac, yn yr etholiad hwn i’r Senedd, mae 50% o’n hymgeiswyr yn fenywod - mwy nag unrhyw blaid arall.
Ond mae gwaith i’w wneud o hyd. Gyda mwy o fenywod nag o ddynion yn weithwyr allweddol, a menywod yn ysgwyddo’r llwyth gwaith mewn gofal plant ac addysg gartref, mae’r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar fenywod ac wedi dangos i ni, er gwaethaf y cynnydd a wnaed, fod anghydraddoldeb o ran rhywedd yn parhau i fod yn annhegwch dwfn. Rydym am adeiladu ar ein record fel llywodraeth gan fynd ymhellach fyth i greu dyfodol cryfach a thecach i Gymru, gan barhau i roi menywod wrth wraidd ein llywodraeth a’n rhaglen.
Er ei bod dros 50 mlynedd ers cyflwyno’r Ddeddf Cyflog Cyfartal, mae’r bwlch cyflog ar sail rhywedd yn parhau. Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn archwilio deddfwriaeth er mwyn mynd i’r afael â bylchau cyflog a sicrhau bod cyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n cael arian cyhoeddus yn mynd i’r afael â’r gwahaniaethau hynny, a byddwn hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i sefydlu gwasanaeth cyfreithiol cydraddoldeb i ddarparu cymorth ar arferion cyflogaeth annheg neu wahaniaethol. Byddwn hefyd yn gweithredu targedau ynghylch Cyllidebu ar sail Rhywedd fel bod pob penderfyniad gan Lywodraeth Cymru yn cael ei weld drwy lens rhywedd. A bydd addewid Llafur Cymru i sefydlu bargen deg ar gyfer gofal yn cynnwys gwarantu’r Cyflog Byw Go Iawn i’n staff gofal anhygoel - menywod yn bennaf - sydd wedi ein helpu drwy’r pandemig. Byddwn hefyd yn defnyddio Banc Datblygu Cymru a’n dulliau economaidd i gefnogi mwy o fenywod sy’n entrepreneuriaid a pherchnogion busnes, yn ogystal â chefnogi mwy o fenywod i uwch rolau datblygu economaidd ac arweinyddiaeth trafnidiaeth.
Mae’r angen am gymunedau mwy diogel wedi dod yn amlwg iawn o ganlyniad i farwolaeth Sarah Everard, a’r sgwrs genedlaethol ar ddiogelwch menywod a ddaeth yn sgil y digwyddiad. Mae Llafur Cymru am wneud Cymru’r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw, a byddwn yn helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel drwy roi 100 yn fwy o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ar ein strydoedd, gan ariannu cyfanswm o 600 ledled Cymru. Byddwn hefyd yn cryfhau’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod yn y stryd a’r gweithle yn ogystal â’r cartref, ac ehangu’r ymgyrchoedd hyfforddi ac ymwybyddiaeth ‘Gofyn a Gweithredu’ a ‘Paid Cadw’n Dawel’.
Byddwn yn parhau i adeiladu ar ein cyflawniadau blaenorol mewn llywodraeth, gan ymgorffori urddas mislif mewn ysgolion ac ehangu ein darpariaeth mislif rhad ac am ddim mewn cymunedau ac yn y sector preifat. Byddwn hefyd yn ehangu ein rhaglen Mynediad i Swyddi Etholedig i annog mwy o fenywod i sefyll i gael eu hethol, ac ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod yng nghyfraith Cymru.
Llafur Cymru yw’r blaid sydd â’r profiad mewn llywodraeth ac agwedd uchelgeisiol i’r dyfodol, i ddileu anghydraddoldeb rhywedd. Byddwn yn gweithio i wneud ein heconomi yn un sy’n deg i bawb yng Nghymru - un lle nad yw rhywedd yn llyffethair nac yn rhwystr i lwyddiant. Mae’r etholiad hwn yn gyfle i roi’r arfau i ni orffen y gwaith, a symud Cymru ymlaen fel cenedl wirioneddol gyfartal.