LeadHerShip - Menywod yn yr Heddlu

12th November 2020

Mae Siobhan Aldridge yn gwasanaethau fel Heddwas gyda Heddlu De Cymru. Wrth i ni baratoi at ein digwyddiad ar-lein LeadHerShip - Menywod yn yr Heddlu, gwnaethom ofyn i Siobhan ddweud wrthym pam y daeth yn heddwas a’i thaith hyd yma. Dyma beth ddywedodd hi wrthym …

Ers yn ifanc iawn, roeddwn yn benderfynol o ddod yn Heddwas yn hytrach na dilyn unrhyw lwybrau eraill posibl.

Er i mi gredu erioed mai fy natur ofalgar ddylai fod yn ganolbwynt fy mywyd, roeddwn i serch hynny yn benderfynol o sicrhau fod cryfder sylfaenol ac ochr ymarferol i’m natur dosturiol. Mae hefyd yn wir dweud, fel menyw tras ddeuol - Cymraeg ac Indiaidd - yn byw yn ardal De Orllewin Cymru, doeddwn i ddim yn gweld unrhyw fodel rôl a oedd yn adlewyrchu fy rhyw ac ethnigrwydd.

O ganlyniad, roeddwn yn benderfynol o fod y model rôl hwnnw fy hun, yn arddangos nodweddion proffesiynoldeb ac ymrwymiad i newid cadarnhaol.

Efallai bod hyn yn ymddangos yn rhyfedd, bod menyw o dras ddeuol yn dymuno mynd i mewn i broffesiwn sy’n cael ei ddylanwadu gan ddynion, ond rwyf bob amser wedi bod yn awyddus i wynebu her.

Felly, fe wnes i wthio fy hun mewn addysg ac, ar ôl cwblhau fy Lefel A, es i i Brifysgol De Cymru i astudio Astudiaethau’r Heddlu ac yna Gwyddorau’r Heddlu ar Lefel Gradd Anrhydedd.

Yn y cyfnod hwn, cefais fy newis fel un o’r pum myfyriwr gorau i fod ar broses y Cynllun Penodi Uwch. Llwyddais i ymgeisio am a chwblhau hyfforddiant fel Cwnstabl Arbennig gyda chyfle i symud ymlaen yn gyflym i fod yn Heddwas wedi i mi raddio.

O ganlyniad, llwyddais i gefnogi fy astudiaethau damcaniaethol gyda’r profiad ymarferol o fod yn gwnstabl gwirfoddol.

Ar ôl cwblhau fy astudiaethau ac ennill fy ngradd yn llwyddiannus, er bod Heddlu De Cymru wedi rhewi prosesau recriwtio heddweision ar y pryd wnes i ddyfalbarhau yn fy rôl fel Cwnstabl Arbennig nes i gyfle godi i wneud cais i ddod yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PSCO).

Rwy’n credu bod cyfnod fel PCSO wedi bod yn brofiad hanfodol yn fy ngyrfa yn yr Heddlu, roedd y rôl o fudd i mi o ran datblygu fy sgiliau cyfathrebu, datrys problemau a chadarnhau pwysigrwydd gwrando a ffurfio perthnasoedd gwaith cadarnhaol â chymunedau yn Ne Cymru. Wnaeth hyn gryfhau fy ymroddiad i wneud cais i ddod yn Heddwas a llwyddais yn hynny o beth yn 2013.

Ers hynny, mae Heddlu De Cymru wedi agor byd o gyfleoedd i mi ac rwyf wedi manteisio ar y cyfleoedd hyn a’u datblygu gyda brwdfrydedd.

Rwyf wedi gwasanaethu fel Swyddog Ymateb Rheng Flaen, wedi gweithio ar dîm Bro a chyffuriau rhagweithiol, wedi bod yn Swyddog Ymchwilio i Bobl ar Goll ac yn Rhingyll Dros Dro.

Rwyf hefyd wedi cwblhau llawer o gyrsiau yn Heddlu De Cymru er mwyn gwella fy ngwybodaeth o’r gwahanol fentrau a phrosiectau rydym yn eu cynnal o fewn Heddlu De Cymru a heddluoedd eraill.

Rwyf wedi ennill cymwysterau Swyddog Cyswllt Troseddau Rhyw, Swyddog Uned Cefnogi’r Heddlu, a Swyddog Heddlu Meddygol ac yn ddiweddar wedi gwneud cais i ddod yn Swyddog Arfau Saethu Awdurdodedig.

Ar hyn o bryd rwy’n Swyddog Gweithlu Cynrychioliadol, yn gweithio’n strategol tuag at sicrhau fod Heddlu De Cymru yn adlewyrchu’n llawn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Credaf y bydd y genhedlaeth nesaf yn chwarae rhan hanfodol yn nyfodol Plismona, yn enwedig menywod ifanc, o bob cefndir a magwraeth.

Mae’r heddlu wedi rhoi cyfleoedd helaeth i mi gael gyrfa gyfoethog a boddhaus. Mae wedi dysgu i mi bwysigrwydd hunanymwybyddiaeth, amynedd, cryfder a gwytnwch nid yn unig yn broffesiynol ond hefyd yn bersonol.

Rwy’n wirioneddol gredu, os gallaf i fod yn Swyddog Heddlu, y gall unrhyw un, ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi yw’r tân yn eich bol a’r penderfyniad hwnnw i gefnogi ac ysbrydoli gwahaniaeth - Gallwch chi gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl! Mae pawb yn unigryw, dyna sy’n eich grymuso, ac rwy’n ymdrechu i seilio fyw fy mywyd yn ôl hynny.

Heddwas Siobhan Aldridge
Heddlu De Cymru

2nd December 2020
LeadHerShip - Women in the Police Force
Event