Cydweithio i Dynnu Sylw at ‘Fenywod Covid19’

22nd June 2020
Mewn ymgyrch newydd, mae dwy elusen genedlaethol yn galw ar bobl Cymru i ddweud wrthyn nhw am eu harwresau coronafeirws.

Mae Chwarae Teg a Cymorth i Ferched Cymru eisiau tynnu sylw at waith ‘Menywod Covid19’, o’r rheini sy’n nyrsio, gofalu a glanhau, i’r rhai sy’n addysgu, yn gweithio mewn siopau a llawer mwy.

Menywod yw tri chwarter y gweithwyr mewn swyddi sy’n fwy tebygol o ddod i gysylltiad aml â Covid19. Mae menywod hefyd yn profi mwy o gam-drin a thrais, gyda chysylltiadau â llinell gymorth ‘byw heb ofn’ yn dangos effaith cyfyngiadau Covid19 ar rwydweithiau cymorth i fenywod. Fodd bynnag, mae’r ddwy elusen wedi ymroi i ymgyrchu ar y cyd er mwyn sicrhau ein bod ni’n #AilgodinGryfach fel cenedl a dileu’r anghydraddoldeb sy’n parhau i effeithio ar fywydau menywod.

Drwy gasglu a rhannu straeon, mae’r elusennau’n gobeithio codi ymwybyddiaeth o rolau menywod – y rhai â thâl a’r rhai di-dâl – mewn cymdeithas, a sbarduno ymgyrch codi arian i roi cymorth i’r rhai hynny sy’n wynebu’r perygl mwyaf.

Bydd yr arian sy’n cael ei godi’n gymorth i waith Chwarae Teg yn sicrhau bod menywod yn cael cynrychiolaeth deg, a nod Cymorth i Ferched Cymru o roi diwedd ar gamdrin yn y cartref a phob math o drais yn erbyn menywod.

Er mwyn rhannu stori ‘Menywod Covid19’ – boed honno am fenyw sydd wedi rhoi cymorth i chi gydag arwydd bychan o gefnogaeth neu rywun sy’n wynebu’r pandemig gydag arddeliad – anfonwch lun neu fideo a gair neu ddau am y person i [email protected]m neu trydarwch @chwaraeteg, erbyn 31 Gorffennaf 2020. Hefyd, mae modd cyfrannu arian drwy https://bit.ly/30SZRW9

Caiff y straeon eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr haf a byddan nhw’n rhan o eitem yng ngwobrau Womenspire Chwarae Teg. Roedd gwobrau Womenspire i fod i gael eu cynnal fis Mehefin, ond byddan nhw bellach yn gael eu cynnal ar-lein – byddan nhw’n cael eu darlledu’n fyw ar dudalen Facebook ITV Cymru Wales - ar 29 Medi, bydd hi’n sicr yn noson i’w chofio.

Mae swyddi sy’n cael eu cyflawni gan fenywod yn bennaf, sydd wedi’u tanbrisio’n gyffredinol gan gymdeithas, wedi bod yn hanfodol i gadw’r wlad i fynd yn ystod yr argyfwng. O ganlyniad, mae mwy o fenywod na dynion wedi cael eu hentio, ac mae menywod o gefndiroedd du ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn hyd yn oed mwy o berygl. Mae menywod hefyd wedi bod yn fwy tebygol o gael eu rhoi ar ffyrlo o’u swyddi.

“Mae cynifer o fenywod yn gwneud pethau gwych yn ystod yr argyfwng hwn, mae eu gwaith ‘bob dydd’ yn anhygoel erbyn hyn. Rydyn ni eisiu rhannu eu straeon a sicrhau ein bod yn #AilgodinGryfach.

Cerys Furlong
Prif Weithredwr, Chwarae Teg

Yn ystod y pandemig hwn, mae ein sector o dan bwysau cynyddol, ond mae menywod sy'n gweithio ar draws ein haelodaeth o wasanaethau arbenigol wedi bod yn ymateb i'r her i sicrhau bod cymorth achub bywydau a newid bywyd ar gael i'r rhai sydd ei angen yng Nghymru.

“Rydyn ni’n falch ein bod yn cydweithio gyda Chwarae Teg i dynnu sylw at y menywod anhygoel sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn yn ystod Covid19. Gobeithio y bydd yn helpu i amlygu ac ariannu cymorth angenrheidiol ar gyfer y rhai sy’n wynebu’r perygl mwayf yn y dyfodol.

Sara Kirkpatrick
Prif Weithredwr, Cymorth i Ferched Cymru