Gadewch i ni siarad am gyllidebu ar sail rhywedd.
Efallai nad ydych wedi clywed yr ymadrodd erioed o’r blaen. Os ydych chi wedi clywed yr ymadrodd efallai’ch bod wedi’i ddiystyru fel rhywbeth braidd yn aneglur neu’n arbenigol, neu efallai eich bod hyd yn oed wedi meddwl nad yw’n hyn yn rhywbeth sy’n berthnasol i chi.
Ond, mae hyn yn berthnasol i chi. Neu o leiaf y dylai fod, gan y dylai pob llywodraeth fod yn defnyddio cyllidebu ar sail rhywedd i sicrhau bod penderfyniadau gwariant yn darparu’n deg i bawb ac yn gymorth i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghyfartaledd rhywedd.
Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu sut i wario biliynau o bunnoedd ar draws ardaloedd sy’n ganolog i’n bywydau o ddydd i ddydd – o iechyd ac addysg, i fuddsoddi mewn ffyrdd a rheilffyrdd, cyllid i’n cynghorau lleol, ar gyfer gofal plant ac ar gyfer tai.
Nid yw’r penderfyniadau hyn yn niwtral o ran rhywedd – oherwydd mae ein cymdeithas a’n heconomi yn dal i gael eu llunio yn unol â rhywedd. P’un ai’r ffaith bod menywod yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus, yn llai tebygol o fod mewn gwaith llawn amser, yn fwy tebygol o gymryd nifer o deithiau byr ar drafnidiaeth gyhoeddus neu barhau i fod mewn mwy o berygl o brofi aflonyddu rhywiol a cham-drin – mae rhywedd yn dal i fod yn brif ffactor sy’n effeithio ar ein bywydau.
Os nad yw’r gwahaniaethau rhywedd hyn yn cael eu hystyried pan fydd llywodraethau’n penderfynu sut i wario arian, yna mae’n debygol iawn na fydd y penderfyniadau hynny yn rhai teg ac y bydd cyfleoedd i hyrwyddo cydraddoldeb yn cael eu colli. Mae cyllidebu ar sail rhywedd yn sicrhau bod y gwahaniaethau hyn yn cael eu hystyried.
Felly beth yw cyllidebu ar sail rhywedd?
Wel yn ei hanfod mae’n golygu defnyddio dadansoddiad rhywedd yn y ffordd y mae llywodraethau’n codi ac yn gwario arian. Mae’n gyfres o ddulliau sy’n galluogi llywodraethau i archwilio sut mae penderfyniadau cyllidebol yn effeithio ar gyfleoedd economaidd a chymdeithasol menywod a dynion, ac i ail-strwythuro penderfyniadau er mwyn dileu canlyniadau anghyfartal. Nid yw’n ymwneud â rhannu gwariant 50:50 rhwng menywod a dynion, ac nid yw’n ymwneud chwaith â “chyllidebau i fenywod”, ond am ddefnyddio tystiolaeth i ystyried sut y gall penderfyniadau gwariant ddiwallu ac ymateb i anghenion gwahanol pawb.
Yn y ffordd hyn, mae’n debyg iawn i brif ffrydio rhywedd, sy’n golygu rhoi dadansoddiad tebyg wrth wraidd cynllunio polisi a rhaglenni. Yn wir, mae rhai’n dadlau bod cyllidebu ar sail rhywedd yn gymorth i ysgogi prif ffrydio rhywedd drwy sicrhau bod uchelgeisiau cydraddoldeb rhywedd yn cael eu cefnogi gyda’r adnoddau cywir (O’Hagan et. Al, 2019).
Ar hyn o bryd, mae’r defnydd o un offeryn cyllidebu ar sail rhywedd yn gyffredin yng Nghymru – asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb.
Mae yna rhai problemau yn codi gyda hyn. Yn gyntaf, nid yw asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn aml yn cael eu gwneud yn arbennig o dda, nac ar yr adeg cywir i gael unrhyw rôl o werth wrth lunio penderfyniadau polisi neu wariant. Ar ben hynny, os mai’r cyfan a wnawn yw asesu’n ôl-weithredol yr effaith debygol ar grwpiau, ar ôl i benderfyniadau gael eu gwneud, yn y pen draw cawn ein gadael yn addasu rhywbeth sydd ddim yn cymryd i ystyriaeth anghenion a phrofiadau menywod; megis ceisio gwthio peg sgwâr mewn i dwll crwn. Neu fe fyddwn ond yn lliniaru unrhyw effaith negyddol yn hytrach nag ystyried sut y gall ein penderfyniad fynd i’r afael mewn gwirionedd ag achosion anghydraddoldeb.
Gwelir enghreifftiau o gyllidebu ar sail rhywedd yn cael eu defnyddio’n fwy effeithiol mewn rhannau eraill o’r byd. Aeth Canada ati gyda’u offeryn Dadansoddi ar Sail Rhywedd Plus, er iddynt gael eu hannog i gymryd camau pellach i brif ffrydio’r dull gweithredu o fewn y broses gyllideb yn briodol (O’Hagan et. Al, 2019). Gweithredodd Gwlad yr Iâ gyllidebu ar sail rhywedd yn dilyn y cwymp ariannol; er iddynt wynebu gwrthwynebiad mewn rhai meysydd polisi mae’r broses ddysgu o Wlad yr Iâ yn darparu pwynt cyfeirio allweddol i eraill sy’n ceisio gweithredu cyllidebu ar sail rhywedd (O’Hagan et. Al, 2019). Andalucía sy’n cynnig un o’r enghreifftiau gorau o gyllidebu ar sail rhywedd sydd ar waith, a ddechreuodd yn 2003 ac sy’n tynnu sylw at nifer y ffactorau llwyddiant allweddol gan gynnwys pennu amcanion cydraddoldeb rhywedd clir, dibenion gwleidyddol ac ymrwymiad, wedi’u hategu gan brosesau cadarn sy’n cynnwys gwerthuso’r effaith ar y rhyweddau ac archwiliadau cyllidebu ar sail rhywedd (O’Hagan et. Al, 2019).
Mae angen i unrhyw ddull o gyllidebu ar sail rhywedd ystyried cyd-destun cenedlaethol yn briodol, felly nid mater yn unig o ddilyn dull cenedl arall a’i gymhwyso yma. Ond, mae profiadau o bedwar ban byd yn cynnig gwersi pwysig a allai lywio’r gwaith o ddatblygu dull Cymreig o gyllidebu ar sail rhywedd.
Yn syth ar ôl etholiad, wrth i’r llywodraeth sydd newydd ei ffurfio ddwyn ynghyd eu haddewidion maniffesto mewn rhaglen gyflawni, mae’n hollol naturiol ein bod ni’n dueddol o ganolbwyntio ar beth mae nhw’n bwriadu ei gyflawni. Ond, mae’r un mor bwysig meddwl am sut y byddant yn gwneud hynny. Os na fyddwn yn newid sut y caiff polisi a rhaglenni eu cynllunio a sut y gwneir penderfyniadau gwario, rydym yn mynd i barhau i weld yr un canlyniadau, lle caiff anghydraddoldeb ei atgynhyrchu a’i atgyfnerthu o ganlyniad i fethu â meddwl am natur rhyweddol yn ein byd. Gall pynciau fel cyllidebu ar sail rhywedd ymddangos ychydig yn sych ar yr olwg gyntaf, a gallant fod yn gymhleth, ond mae ganddynt y potensial i fod yn drawsnewidiol.
Yn wir, mae cyllidebu ar sail rhywedd yn hanfodol os ydym am sbarduno newid ystyrlon a pharhaol, er mwyn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghyfartaledd rhywedd a sicrhau Cymru sy’n gyfartal o ran rhywedd.