Mae Plac Porffor diweddaraf Cymru wedi cael ei ddadorchuddio fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Chwarae Teg i dalu teyrnged i fywyd a chenhadaeth un a fu’n ymgyrchydd heddwch am flynyddoedd maith.
Cafodd y Plac Porffor, er cof am Eunice Stallard, ei ddadorchuddio gan aelodau’r teulu yn Y Neuadd Les, Ystradgynlais, a dilynodd dathliad yn y neuadd.
Yn ffigwr hynod o wleidyddol ac angerddol yn y gymuned, roedd Eunice yn un o sylfaenwyr gwersyll heddwch menywod Greenham Common yn 1981, gan ymladd dros ddiarfogi arfau niwclear. Ynghŷd â grŵp o fenywod, gorymdeithiodd y 100 milltir o Gaerdydd i Newbury ac yna cadwyno’u hunain at ffensys RAF Greenham. Cafodd y menywod effaith fyd-eang a pharhaodd y gwersyll yn weithgar am 19 mlynedd.
Ysbrydolwyd llawer gan ran Eunice yn y grŵp Women for Life on Earth i gymryd rhan yn y frwydr yn erbyn bomio niwclear. Yn ddiweddarach yn ei bywyd bu hefyd yn rhan o’r grŵp ‘Grannies for Peace’, a ymgasglodd yn RAF Fairford yn 2003 i brotestio yn erbyn Rhyfel Irac. Credai’n gryf y byddai mwy o fenywod mewn gwleidyddiaeth yn arwain at fwy o heddwch, ac ar y pryd dywedodd: “Mae’r hyn maen nhw’n ei wneud yn torri fy nghalon. Yr hyn sydd ei angen arnon ni yw mwy o fenywod yn y llywodraeth, fyddai menywod ddim yn anfon eu plant i ryfel.”
Bu farw Eunice yn 2011 yn 93 mlwydd oed ar ôl byw yn ardal Ystradgynlais drwy gydol ei bywyd a bod yn berchen ar siop yn y gymuned. Roedd hefyd yn ymhél â nifer o weithgareddau’r blaid Lafur a gynhaliwyd yn Y Neuadd Les.