Plac i Ursula Masson o Ferthyr i’w ddadorchuddio mewn seremoni Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Ail blac porffor Cymru i’w ddadorchuddio yn Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful
Bydd Plac Porffor i Ursula Masson, yr hanesydd ffeministaidd a’r ysgolhaig a aned ym Merthyr Tudful, yn cael ei ddadorchuddio yn y dref am hanner dydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod – dydd Gwener, 8 Mawrth.
Mewn partneriaeth â Chwarae Teg ac Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful, bydd Placiau i Fenywod yn dadorchuddio ail blac porffor yr ymgyrch a grëwyd i wella’r gydnabyddiaeth i fenywod hynod yng Nghymru, yn Llyfrgell Ganolog Merthyr.
Bydd y plac yn coffáu’r hanesydd ffeministaidd Ursula Masson, a aned ym Merthyr ac a sicrhaodd ganlyniadau rhagorol wrth hyrwyddo rôl menywod yng Nghymru, ddoe a heddiw. Hi sefydlodd yr Adran Astudiaethau Rhyw yn y sefydliad a adnabyddir bellach fel Prifysgol De Cymru, ac Archif Menywod Cymru. Yn un o gymuned Wyddelig Merthyr Tudful, mynychodd Ursula O’Connor Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa a Phrifysgol Caerdydd. Gweithiodd fel newyddiadurwr ar y Sydney Morning Herald rhwng 1969 a 1972. Cwblhaodd ei MA ym Mhrifysgol Keele, ac ariannwyd hynny diolch i fwrsari gan Margaret Stewart Taylor, prif lyfrgellwraig gyntaf Merthyr. Roedd ei thraethawd hir ar ymfudiad Gwyddelod i Ferthyr. Ar ôl gweithio ym maes addysg oedolion yn Abertawe, symudodd i Drefforest. Yno, roedd ganddi ddiddordeb arbennig mewn hanes menywod a ffeministiaeth.
Bydd y digwyddiad dadorchuddio ym Merthyr ar 8 Mawrth yn cynnwys areithiau gan Jane Hutt AC, Julie Morgan AC a’r Aelod Cynulliad lleol, Dawn Bowden AC.
Bydd y plac yn cael ei ddadorchuddio yn Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful gan Helen Molyneux, nith Ursula Masson ac aelod o grŵp Monumental Welsh Women.