Anrhydedd y Plac Porffor yn ychwanegu at ddathliadau'r flwyddyn newydd Tsieineaidd

24th January 2020

Roedd teyrngedau ac atgofion yn cael eu rhannu yng Nghaerdydd heddiw (24.1.2020), wrth i bobl ddod o bell ac agos ar noswyl y flwyddyn newydd Tsieineaidd, i ddathlu bywyd ac etifeddiaeth Angela Kwok, pencampwraig y gymuned Tsieineaidd yn y ddinas.

Cafodd pedwerydd Plac Porffor Cymru ei ddadorchuddio i anrhydeddu Angela yn Bamboo Garden ar Heol y Gadeirlan gan ei merch Temmy Woolston ac aelodau eraill o’r teulu. Yna, ymunon nhw â gwesteion a siaradwyr - Dirprwy Weinidog, Jane Hutt AC, Julie Morgan AC a’r athro Meena Upadhyaya OBE, am ddathliad yn Happy Gathering ar Cowbridge Road East.

Cyrhaeddodd Angela y DU yn 16 oed o Hong Kong, gan siarad ychydig iawn o Saesneg ac yn wynebu gwahaniaethau diwylliannol enfawr. Fodd bynnag, gwnaeth ei hagwedd gadarnhaol a’i gwaith diflino wahaniaeth anfesuradwy i fywydau llawer o fenywod Tsieineaidd oedd yn byw yng Nghymru.

Ar ôl priodi yn 19 oed, sefydlodd hi a’i gŵr fusnes tecawê yn y ddinas. Fodd bynnag, golygai hyn weithio oriau anghymdeithasol a sylweddolodd Angela ar effeithiau bywyd cymdeithasol cyfyngedig ar y menywod yn ei chymuned, llawer o fenywod Tsieineaidd yn teimlo’n unig a gydag ond ychydig o Saesneg yn methu cael gafael ar wasanaethau sylfaenol fel iechyd.

Dechreuodd fynd gyda’r menywod i apwyntiadau meddygfeydd teulu a chefnogi gyda chyfieithu, a sefydlodd Cymdeithas Menywod Tsieineaidd De Cymru yng nghanol y 1980au yng Nghanolfan Gymunedol Glanyrafon, lle roedd dros 50 o fenywod yn cyfarfod yn wythnosol. Roedd yn gyfle iddynt siarad a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel coginio, gwnïo, gwersi Saesneg, dosbarthiadau cyfrifiadur, digwyddiadau cymdeithasol teuluol a theithiau diwrnod.

Yn anffodus, yn niwedd y 1980au, llosgodd y ganolfan i lawr, ond a hithau’n benderfynol, ffurfiodd Angela sefydliad newydd, Cymdeithas Gwasanaeth Cymunedol Tsieineaidd Caerdydd, a oedd unwaith eto’n darparu eiriolaeth, cyngor a digwyddiadau i’r boblogaeth Tsieineaidd gynyddol yng Nghaerdydd.

Yn ystod ei bywyd, ymgymerodd Angela hefyd â nifer o gyfrifoldebau gwirfoddol eraill. Rhoddodd gefnogaeth i Heddlu De Cymru gyda chyfieithu, daeth yn aelod o’r Cyngor Cydraddoldeb Hiliol, dechrau sefydlu’r Fynwent Tsieineaidd ym Mhantmawr, Caerdydd a gweithredodd fel mam “ddirprwyol” i o leiaf 15 o fyfyriwr Tsieineaidd benywaidd o dramor yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Yn anffodus, bu farw Angela yn 2016, ond mae ei holl waith caled o sefydlu cymuned gydlynol Tsieineaidd a chodi ei phroffil yng Nghaerdydd yn amlwg heddiw wrth i’r gymuned aros yn unedig ac yn gynhwysol yn amrywiaeth Caerdydd amlddiwylliannol.

Roedd fy mam yn ddelfryd ymddwyn ysbrydoledig gwirioneddol i bob menyw yng Nghymru. Cyffyrddodd â bywydau llawer o bobl gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol gwirioneddol, gan roi cymorth i'r rheini yr oedd ei angen a llais i'r rhai nad oeddent yn teimlo bod ganddynt un. Mae'r rhai a oedd yn ei hadnabod yn ei cholli'n fawr ond rydym yn benderfynol y bydd ei hetifeddiaeth yn parhau ac mae'r Plac Porffor hwn yn ffordd o wneud hynny, i sicrhau ei bod hi a'i holl waith caled yn cael ei chofio am flynyddoedd i ddod.

Temmy Woolston
Merch Angela Kwok

The Purple Plaques campaign aims to improve the acknowledgement and appreciation of extraordinary women in Wales. The Plaques showcase and honour women across Wales who have had a long lasting impact on their communities and have previously gone uncelebrated. It’s therefore right that Angela’s life and achievements are recognised in this way.

Emma Tamplin
Partner Cydweithredu

Mae cymaint o fenywod hynod ysbrydoledig yng Nghymru y gellid eu cydnabod gyda Phlac Porffor am eu cyfraniad i fywyd cyhoeddus. Mae Angela Kwok yn haeddu'r gydnabyddiaeth hon – roedd yn eiriolwr gwirioneddol dros y boblogaeth Tsieineaidd yng Nghaerdydd, yn enwedig menywod, gan roi cyngor a chefnogaeth iddyn nhw. Rwy'n falch iawn o weld y Plac Porffor hwn yn dangos ei henw.

Jane Hutt
Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Y syniad y tu ôl i'r ymgyrch Placiau Porffor, a gychwynnwyd gennyf i a grŵp trawsbleidiol o fenywod Aelodau'r Cynulliad yn 2017, yw gwella amlygrwydd menywod ledled Cymru. Roeddwn yn adnabod Angela yn dda ac yn edmygu'r gwaith a wnaeth i helpu i gefnogi menywod yn ei chymuned, gan wneud iddynt deimlo'n rhan o'r gymuned ehangach a rhoi llais iddynt ar faterion pwysig a oedd yn effeithio arnynt.

Mae hi’n yn ymgorffori hanfod yr ymgyrch Placiau Porffor – roedd hi'n ddynes ryfeddol ac yn bencampwr cymunedol, yn enwedig i'r menywod yn ei chymuned ac rwy'n falch o weld teyrnged deilwng iddi.

Julie Morgan
Aelod Cynulliad Gogledd Caerdydd