Cyn Etholiadau Senedd 2021 gwnaethom gysylltu â’r holl wahanol bleidiau gwleidyddol yng Nghymru i weld sut y bydd eu maniffesto yn sicrhau Cymru sy’n gyfartal o ran rhywedd. Cawsom ymatebion gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, Plaid Cymru, Ceidwadwyr Cymru a Llafur Cymru. Dyma’r ymateb gan Blaid Cymru.
Wrth wraidd maniffesto Plaid Cymru mae gweledigaeth o Gymru fel cenedl gyfartal a chenedl o bobl gydradd. Cawn ein llywio gan yr uchelgais i adeiladu cymuned genedlaethol sy’n seiliedig ar ddinasyddiaeth gyfartal, parch at wahanol ddiwylliannau, a gwerth cyfartal unigolion, beth bynnag fo’u hil, iaith ddewisiol, cenedligrwydd, rhywedd, lliw, ffydd, rhywioldeb, oedran, gallu neu gefndir cymdeithasol. Dyma ein gwerthoedd craidd. Mae ein maniffesto’n cynnig polisïau ymarferol, cyraeddadwy sydd wedi’u costio’n llawn, y gallwn eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau ein cenedl newydd.
Un polisi sy’n nodweddu ymrwymiad ein maniffesto i sicrhau cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru yw creu swydd lefel Cabinet Gweinidog Cydraddoldeb a Grymuso Menywod. Bydd ei rôl yn cael ei neilltuo ar gyfer gweithredu argymhellion yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhwng y Rhywiau yn llawn.
Mae maniffesto Plaid Cymru yn ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru ar sail cydraddoldeb o ran canlyniadau, nid cydraddoldeb o ran cyfle yn unig. Mae anghydraddoldeb o ran canlyniadau’n dangos diffygion parhaus o fewn y system bresennol. I gael darlun cliriach a mwy cywir o raddau anghydraddoldeb ar sail rhywedd yng Nghymru, mae angen i ni newid y ffordd rydym yn mesur ffactorau fel llwyddiant economaidd a chyflogaeth. Byddwn yn gwneud hyn drwy roi lleihau anghydraddoldeb wrth wraidd ein polisi economaidd. Rhaid defnyddio cynnydd economaidd fel ffordd o gyflawni cyfiawnder cymdeithasol a llesiant unigolion. Felly, byddwn yn mesur llwyddiant economaidd yn seiliedig ar leihad mewn anghydraddoldebau o ran incwm gwario net aelwydydd rhwng Cymru a gweddill y DU, ac o fewn Cymru ei hun, ar sail rhywedd, lleoliad ac ethnigrwydd.
Er mwyn gwireddu’r math hwn o lwyddiant, mae’n rhaid i ni annog cyflogwyr i fabwysiadu arferion gwaith modern a chofleidio’r arfer o weithio o bell ac ar wasgar, gan wneud gwaith yn fwy hygyrch i fenywod, pobl anabl a grwpiau eraill sydd wedi’u tangynrychioli’n hanesyddol yn y gweithlu. Bydd hyn yn cael ei atgyfnerthu gan ein gwasanaeth addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant cenedlaethol, rhad ac am ddim. Erbyn diwedd ein tymor cyntaf fel Llywodraeth, bydd ein cynnig yn darparu 30 awr o ofal plant yr wythnos i bob plentyn 24 mis oed, hyd nes eu bod yn gymwys ar gyfer addysg llawn amser. Bydd y cynnig yn rhoi’r cyfle i fenywod ymuno, neu ailymuno, â’r gweithlu.
Bydd ein cynnig gofal plant yn cael ei atgyfnerthu gan ein hymrwymiad i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn y gweithle, drwy gefnogi’r alwad i ddeddfu ar yr angen i ychwanegu adrodd ar gyfraddau dargadw menywod sy’n dychwelyd o absenoldeb mamolaeth i’r drefn bresennol o adrodd ar y bwlch cyflog ar sail rhywedd.
Mae’r bwlch cyflog ar sail rhywedd yn arwydd arall o fethiant economaidd y mae maniffesto Plaid Cymru am ei gywiro. Mae’r bwlch cyflog ar sail rhywedd yn 14.5 y cant ar hyn o bryd yng Nghymru. Byddwn yn ei leihau drwy gynyddu cyflogau gweithwyr gofal cymdeithasol, dyfarnu codiadau cyflog real i weithwyr y GIG, rhoi terfyn ar gontractau dim oriau, a sicrhau cydbwysedd rhywedd mewn contractau caffael cyhoeddus.
Er mwyn galluogi mwy o fenywod i gael gwaith sy’n talu’n well ac sy’n llai ansicr, byddwn yn blaenoriaethu menywod, a grwpiau eraill sydd wedi’u tangynrychioli’n hanesyddol yn y gweithlu, o fewn ein cynllun adfer Covid. Bydd buddsoddi mewn rhaglenni hyfforddi mawr, gyda thargedau i fenywod, mewn meysydd lle mae arnom angen sgiliau newydd megis adeiladwaith, yr amgylchedd, iechyd a gofal, a’r sector digidol yn cyfrannu at yr amcan hwn. Ategir hyn drwy fynd i’r afael â thangynrychiolaeth menywod a phobl groenliw mewn prentisiaethau drwy ymestyn y targedau ar gyfer pob hyfforddiant.
Mae ein maniffesto hefyd yn cydnabod yr angen i feithrin gwell dealltwriaeth o anghydraddoldeb rhywedd. Rydym yn cefnogi rôl y cwricwlwm newydd o ran mynd i’r afael â stereoteipiau rhywedd yn ogystal â chyflwyno gwersi newydd ar berthnasoedd iach, dinasyddiaeth a hawliau plant. Er mwyn symud o ymwybyddiaeth i atal, byddwn yn archwilio opsiynau sy’n ymwneud â throsedd annibynnol posibl o aflonyddu ar sail casineb at ferched a gwneud casineb at ferched yn drosedd casineb. Byddai hyn yn gofyn am ddatganoli’r system cyfiawnder troseddol yn llwyr, sydd wrth wraidd ein pennod maniffesto ar gyfiawnder a chydraddoldeb.
Mae ein tirwedd wleidyddol yng Nghymru yn dangos yn glir bod gennym ffordd bell i fynd os ydym am sicrhau cydraddoldeb rhywedd. Er gwaethaf camau breision tuag at gydraddoldeb rhywedd yn nyddiau cynnar y Senedd, rhaid i ni’n awr weithredu i sicrhau bod ein Senedd a democratiaeth ehangach yn adlewyrchu ein cenedl fodern yn ei holl amrywiaeth, ac yn adlewyrchu holl leisiau a dyheadau dinasyddion Cymru. Bydd Plaid Cymru yn mynd ar drywydd hyn drwy wneud system etholiadol y Senedd yn fwy cyfrannol mewn ffordd a fydd yn hyrwyddo sicrhau Senedd sy’n 50:50 gytbwys o ran rhywedd wrth gynyddu cynrychiolaeth pobl groenliw, LHDT+, menywod anabl a dosbarth gweithiol. Yn ymarferol, cyflawnir hyn drwy weithredu argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, yn enwedig cyflwyniad Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, cwotâu rhywedd ac ehangu’r Senedd.
Nid dyma’r amser ystyried mynd i’r afael ag anghyfiawnderau ac anghydraddoldebau fel rhywbeth atodol, neu arbennig. Yn hytrach, mae’n gyfle i ailadeiladu mewn ffordd sy’n annog newid strwythurol dwfn tuag at y genedl fwy cyfartal y mae pob un ohonom yn gobeithio amdani. Y cam cyntaf tuag at y dyfodol gobeithiol hwnnw yw pleidleisio dros Blaid Cymru ar 6 Mai.